Dw i'n meddwl bod rhai pobl yn ffafrio "ydy" am ei fod yn dangos mai o "ydyw" y mae'r gair wedi dod.
Ond mae'n well gan eraill "ydi" am ei fod yn agosach at y sain - dydi Gogleddwyr, mae'n debyg, ddim yn dweud "ydy"
Yn ôl Gramadeg y Gymraeg, Peter Wynn Thomas, "Amrywiad ar "ydy" yw "ydi", ffurf a arddelir yn fwyaf penodol gan rai gogleddwyr sydd yn gwythwynebu defnyddio <y> i gynrychioli [i] ddiweddol "ydi", sef eu ffurf lafar anffurfiol ar "ydyw". " - sy'n cadarnhau beth ddwedais i uchod os ydw i wedi deall yn iawn.
Mae rhai pobl yn mynd dros ben llestri braidd wrth ddadlau dros y naill neu'r llall - yn enwedig yn hwyr ar nos Wener.
Well gen i "ydi" am ei fod yn edrych yn daclusach ond fyswn i ddim yn mynd i berorasiwn am y peth.