gan Kez » Gwe 30 Mai 2008 11:08 am
Tri ymadrodd o’r ardaloedd glofäol:
Mae wedi wech arno fe – he’s lost his chance; he’s doomed
Tarddiad - pe bai glöwr yn cyrraedd y pwll glo ar ôl chwech o’r gloch y bore, bydda fe wedi colli’r lifft i fewn i grombil y ddaear, ac felly’n colli diwrnod o waith
Dim gobaith caneri – not a hope in Hell
Tarddiad - arferai’r glowyr fynd a chaneri i’r pwll gyda nhw i ‘tsieco’ os oedd nwy yn gollwng – os oedd y caneri’n trigo, ron nhw’n gwybod bod ‘na beryg yno.
Pidwch tyllu ym maddondai’r pwll – stop buggering about
Tarddiad - ar ddechrau’r ganrif ddiwethaf, roedd llawer o ‘gays’ yn gweithio ym Mhwll y Cambrian ym Mro Clydach ac dyna’r rhybudd a oedd ar arwydd y tu fas i’r pit bàths. Mae’r arwydd wreiddiol i’w gweld mewn arddangosfa ym Mharc Treftadaeth y Rhondda tan ddiwedd mis Gorffennaf, gyda llaw.