genetic engineering

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

genetic engineering

Postiogan Tracsiwt Gwyrdd » Mer 21 Mai 2008 1:57 pm

peirianneg ydi engineering, a genynnau ydi genes. ond be ar y ddaear ydi genetic engineering? oes modd bathu term hollol newydd? oes 'na un eisoes? unwaith eto, ma' peirianneg genynnol yn glogyrnaidd... dybl fodca i bwy bynnag geith hwn ta!
Rhithffurf defnyddiwr
Tracsiwt Gwyrdd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1581
Ymunwyd: Mer 20 Awst 2003 3:47 pm

Re: genetic engineering

Postiogan sian » Mer 21 Mai 2008 2:03 pm

biobeiriannu yn ôl TermCymru.
Diolch yn fawr!
Slyrp!
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: genetic engineering

Postiogan Tracsiwt Gwyrdd » Mer 21 Mai 2008 2:08 pm

briliant, briliant! dwi'n mynd i fod yn sgin yn steddfod ar y rat yma...! be 'di 'r "term cymru" 'ma ta? 'sa 'n rhatach o beth uffar i fi brynu hwnnw na phrynu alcohol i bawb sy'n helpu fi! diolch eto sian! x
Rhithffurf defnyddiwr
Tracsiwt Gwyrdd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1581
Ymunwyd: Mer 20 Awst 2003 3:47 pm

Re: genetic engineering

Postiogan sian » Mer 21 Mai 2008 2:18 pm

Tracsiwt Gwyrdd a ddywedodd:briliant, briliant! dwi'n mynd i fod yn sgin yn steddfod ar y rat yma...! be 'di 'r "term cymru" 'ma ta? 'sa 'n rhatach o beth uffar i fi brynu hwnnw na phrynu alcohol i bawb sy'n helpu fi! diolch eto sian! x


Dim ond i bobl arbennig a breintiedig mae TermCymru ar gael. Ni'n cael ein dewis â llaw gan Rhodri Morgan. Sdim hôps mul 'da ti ei gael e.
Jest gofyn i fi bob tro ti eisiau gwbod rhywbeth a gei di dalu fi yn Steddfod. Diolch.

neu jest cer i http://www.termcymru.cymru.gov.uk
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: genetic engineering

Postiogan ceribethlem » Mer 21 Mai 2008 2:32 pm

O ran CBAC, Peirianneg Genetig yw'r term derbyniol ar gyfer genetic engineering.

Mae biobeiriannu yn derm fwy eang na'r ystyr genetig yn unig, ac mae'n son am unrhyw fath o beiriannu biolegol.

Mmmmmmmmm, peint yn yr edefyn arall, nawr fodca.

Delwedd
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: genetic engineering

Postiogan sian » Mer 21 Mai 2008 2:38 pm

ceribethlem a ddywedodd:O ran CBAC, Peirianneg Genetig yw'r term derbyniol ar gyfer genetic engineering.

Mae biobeiriannu yn derm fwy eang na'r ystyr genetig yn unig, ac mae'n son am unrhyw fath o beiriannu biolegol.

Mmmmmmmmm, peint yn yr edefyn arall, nawr fodca.

Delwedd


Well i ti roi gwbod i TermCymru felly cleverclogs. :drwg:

Na, o ddifri, ti eisiau i fi gysylltu â nhw? Dydyn ni ddim eisiau i Gronfa Derminoleg Llywodraeth y Cynulliad gamarwain y genedl ydyn ni?
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: genetic engineering

Postiogan Tracsiwt Gwyrdd » Mer 21 Mai 2008 2:41 pm

sori, bethlem, ond well gin i un sian. human genetic engeneering ydi o - ma' beiobeiriannu'n swnio'n well i fi...! :P
Rhithffurf defnyddiwr
Tracsiwt Gwyrdd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1581
Ymunwyd: Mer 20 Awst 2003 3:47 pm

Re: genetic engineering

Postiogan joni » Mer 21 Mai 2008 2:47 pm

"Goruwchddynol" a nawr "Peirianneg Genetig/biobeiriannu".
Beth ma Tracsiwt Gwyrdd lan i, bois bach?
soon, my pretties...soon...
alcoflog
Rhithffurf defnyddiwr
joni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3983
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 5:32 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: genetic engineering

Postiogan Tracsiwt Gwyrdd » Mer 21 Mai 2008 2:57 pm

Delwedd

mwahahahahaaaa!
Rhithffurf defnyddiwr
Tracsiwt Gwyrdd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1581
Ymunwyd: Mer 20 Awst 2003 3:47 pm

Re: genetic engineering

Postiogan ceribethlem » Iau 22 Mai 2008 7:27 am

Tracsiwt Gwyrdd a ddywedodd:sori, bethlem, ond well gin i un sian. human genetic engeneering ydi o - ma' beiobeiriannu'n swnio'n well i fi...! :P

Falle swno'n well, ond dyw e' ddim yn meddwl yr un peth! Mae pethau fel graffto a thrawblannu yn ffurfio o biobeiriannu, ond does dim byd genetig yn perthyn iddyn nhw.

Sian a ddywedodd:Well i ti roi gwbod i TermCymru felly cleverclogs. :drwg:

Na, o ddifri, ti eisiau i fi gysylltu â nhw? Dydyn ni ddim eisiau i Gronfa Derminoleg Llywodraeth y Cynulliad gamarwain y genedl ydyn ni?
Mae'n werth cael gair er mwyn egluro fod peirianneg genetig yn ffurf penodol iawn o biobeiriannu.

[/pedant mode]
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Nesaf

Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 53 gwestai

cron