gan Seonaidh/Sioni » Gwe 30 Mai 2008 11:20 pm
Wel, ble i ddechrau? Os tisho dadansoddi'r iaith, wel, mae'n sbort da ac yn helpu i raddau i'w dallt - ac weithiau'n egluro rhai o'r treigladau dieithraf. Ar lafar, heb feddwl, os on i eisiau deud rhywbeth fel "I didn't get", swn i'n deud "ches i ddim". Yn yr iaith lenyddol, efallai bydd neb yn sdwennu "Ni chefais". Ar lafar, dydy pobl ddim yn defnyddio'r geiryn "ni" yn aml - ond yn dal i wneud y treiglad llaes/meddal (treiglad Gaeleg) fod o'n peri. Ond nid dyna dy gwestiwn.
Cadarnhaol - y geiryn ydy "y" ("yr" o flaen llafariaid ac h) - dim treiglad.
Cyswllt (yn Saesneg, "which...") - y geiryn ydy "a", sy'n achosi treiglad meddal
==> rhaid cofio bod hyn fel " he saw the girl who came...", nid "he said [that] she came"
==> "gwelodd o'r eneth A DDAETH", "dwedodd o Y DAETH hi" (dywedodd o iddi ddod)
Negyddol - y geiryn ydy "ni" - gweler uchod.
Negyddol + cyswllt - y geiryn ydy "na" - treiglad fel "ni".
Ac mae hyn yn wir am bob berf - ond bod "bod" yn dipyn o eithriad...
Darllennaf lyfr - yn llawn, "Y darllennaf lyfr", ar lafar, efallai, "Darllenna' i lyfr" - ond wrth gwrs mae brawddeg fel hon mor brin ag "I read a book" yn Saesneg. Fel arfer "Rw i'n darllan llyfr", neu ba dafodiaith bynnag sy dda gen ti.
Eniwe, mae'n wir (y mae hi yn wir...) i "y/yr" gael ei ddefnyddio mewn ystyr cadarnhaol yn unig. Ond y'i geir, yn yr iaith ffroenuchel, o flaen pop berf gadarnhaol, dim yn unig i mewn pethau fel "y mae", "yr oedd", "y bydd" a rhannau eraill o "bod". Ac, wrth gwrs, dim ond pryd bydd y ferf yn cyflwyno'r frawddeg.
Mae'n hwyr, fi wedi blino, ti wedi cael hen ddigon erbyn hyn, swn i'n credu...
A bheil thu gam aithneachadh?