Oes yna air da am "Scrambling" yn y Gymraeg? Ar hynny, oes yna air da am Scrambling yn Saesneg?! Rwyf wastad wedi meddwl y term yn un dwl dros ben.
Os nad ydych yn gwybod am ba weithgaredd wyf yn sôn: http://en.wikipedia.org/wiki/Scrambling
Rwy wrthi'n ysgrifennu canllaw Mynydda ar gyfer Eryri yn y Gymraeg; "Sgramblo" yw'r gair dwi wedi bod yn ei ddefnyddio ond sai di ffindio hi mewn unrhyw geiriadur, a dwi'n gyndyn iawn i'w ddefnyddio gan ei fod A) yn derm sy'n swnio'n ddwl, B) yn Cymreigiad o derm Saesneg sy'n digon dwl i ddechrau. Gas gen i ddefnyddio termau Saesneg wedi'u Cymreigeiddio drwy'r amser ar gyfer gweithgareddau modern fel "Bacpacio" ac yn y blaen. Llwyddodd Ioan Bowen Rhys i ysgrifennu ei ganllaw "Dringo Mynyddoedd Cymru" heb ddyfeisio term (er iddo grybwyll y term yn Saesneg) ond prin ychydig o lwybrau sgramblo sydd yn ei lyfr fodd bynnag; rwy'n ceisio creu canllaw mwy cynhwysfawr.
Yr o'n i'n meddwl am ddyfeisio gair newydd, rhywbeth ar hyd linellau "Craig-lwyo", neu rhyw ddefnydd o'r gair "Craig".
Oes yna rywun â fwy o phrofiad ieithyddol na mi ac awgrym gwell?