gan Seonaidh/Sioni » Llun 16 Meh 2008 7:30 pm
Yn y Saesneg, mae dwy air cyffredin am hyn, sef "forest" a "wood". Dwi'n credu fod "wood" yn golygu coedwig fechan ac bod "forest" yn golygu coedwig fawr, er nad oes llinell bendant rhwng y ddau gymaint o goedwig. Ac, wrth gwrs, fel mae Saesneg yn anifail dieithr, mae lleoedd fel "Sherwood Forest" sy'n cael y ddwy ffurf.
Beth am "Schwarzwald", "Le Foret Noir"? Yn Saesneg, dyna "The Black Forest", ac dwi'n amau i neb eich deall petasech bhi'n ei galw yn "The Black Wood". Yng Nghymru, mae casgliad o wydd ar lethrau Bannau Brycheiniog o'r enw "Fforest Fawr".
Efallai fod yr un yn wir am y Gymraeg ac sy yn y Saesneg, h.y. fod "fforest" yn golygu "coedwig fawr". Ond dydy hynny ddim yn egluro pam fod y Comisiwn Fforestaeth (wel, pam lai?) yn defnyddio "fforest" ymhobman. Efallai fod 'na ryw anhawster efo twristiaid yn gweld y gair "coedwig" - "Not going there Fred - full of earwigs" - ond dydw i ddim yn credu.
A bheil thu gam aithneachadh?