'feel free to take...' (cyfieithu)

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

'feel free to take...' (cyfieithu)

Postiogan Dai dom da » Gwe 13 Meh 2008 2:22 pm

Shwmai, dwi'n chwilio am cyfieithiad teidi i'r phrase canlynol:

Feel free to take a leaflet o'r business card.

Diolch am unrhyw help. Daf
Rhithffurf defnyddiwr
Dai dom da
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3036
Ymunwyd: Gwe 05 Maw 2004 11:21 am
Lleoliad: Blaenffos / Caerfyrddin

Re: 'feel free to take...' (cyfieithu)

Postiogan sian » Gwe 13 Meh 2008 2:30 pm

Dai dom da a ddywedodd:Shwmai, dwi'n chwilio am cyfieithiad teidi i'r phrase canlynol:

Feel free to take a leaflet o'r business card.

Diolch am unrhyw help. Daf


Dw i'n cymryd mai "or business card" ti'n feddwl ie?

Cymerwch daflen neu gerdyn busnes
Cymerwch daflen neu garden fusnes
Croeso i chi gymryd taflen neu gerdyn busnes
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: 'feel free to take...' (cyfieithu)

Postiogan Dai dom da » Gwe 13 Meh 2008 2:33 pm

Brilliant! Diolch yn fowr Sian. Ie, 'or' we ni'n meddwl!
Rhithffurf defnyddiwr
Dai dom da
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3036
Ymunwyd: Gwe 05 Maw 2004 11:21 am
Lleoliad: Blaenffos / Caerfyrddin

Re: 'feel free to take...' (cyfieithu)

Postiogan HuwJones » Gwe 13 Meh 2008 4:00 pm

Buaswn i feddwl bod yr olaf o'r tri sydd gan Sian:
Croeso i chi gymryd taflen neu gerdyn busnes

Yw'r gorau o bell ffordd .. neu beth am...
Cofia gymryd taflen neu gerdyn..

Mae cyfieithwyr yn defnyddio gorchmynion ffurfiol fel "Cymerwch" / "Prynwch " / "Defnyddiwch" .. yn llawer rhy aml ar hysbysebion. Mae ":..wch" yn 'gywair iaith' (y ton o lais) cwbl anghywir ar gyfer deunydd hysbysebu.... yn swnio fel petai nhw'n athro ysgol yn gweddu ar lond dosbarth o blant drwg!

Rheol cynta sgwennu ar gyer hysbysebu (copywriting) yw bod ti'n siarad a'r unigolion yn glos... nid gweiddu ar ddof.

Dylai hysbysebion fod yn bersonol a chyfeillgar - dim yn amhersonol a ffurfiol. Cadwa 'Chi' ar gyfer pethe sy'n swyddogol / ffurfiol - fel arwyddion "Arafwch" neu ffurflenni cais.

Yn ddi-eithriad bron, mae'r holl hysbysebion / rhyngwynebau cyfrifiadurol yn Sbaeneg yn defnyddio eu fersiwn nhw o "Ti" tra bod arwyddion gyda rhybuddion swyddogol yn defnyddio eu fersiwn o 'Chi'.
HuwJones
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 196
Ymunwyd: Gwe 23 Maw 2007 2:39 pm
Lleoliad: Ynys Môn

Re: 'feel free to take...' (cyfieithu)

Postiogan sian » Gwe 13 Meh 2008 4:18 pm

Hmm!
Dw i'n meddwl bod rhaid i ti wybod yn o lew pwy yw dy gynulleidfa cyn defnyddio "ti".
Os mai i'w rhannu mewn gig neu ysgol mae'r taflenni a'r cardiau busnes, efallai y byddwn i'n defnyddio "ti". Fel arall, byddwn i'n ystyried y peth yn ofalus iawn.
Mae i "chi" y fantais ei fod yn lluosog hefyd, sy'n tynnu lot o bobl i mewn.
Mae pobl yn licio gweld eu doctor a'u rheolwr banc mewn siwt, mae'n debyg.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: 'feel free to take...' (cyfieithu)

Postiogan HuwJones » Gwe 13 Meh 2008 5:32 pm

Helo Sian
Diolch am y neges -
Wnes i astudio dylunio graffeg ac hysbysebu (ers talwm) ac mae'r peth cyntaf maen nhw dweud yw bod rhaid siarad gyda'r unigolyn yn glos fel petai ti'n siarad a ffrind - "intimate not intimidate" oedd eu catchphrase.

Does dim diwydiant hysbysebu gyfrwng Gymraeg yn anffodus gyda 'copywriters' yn ysgrifennu'n naturiol yn Gymraeg. Mae'r rhan mwya o cyfieithiadau yn cael eu gwneud ar gyfer adrannau'r llywodraeth sydd yn troi allan dogfennau swyddogol a ffurflenni. Hefyd mae'r pobl yn cael eu dysgu i ysgrifennu llythyron busnes yn yr ysgol a choleg. Felly yn ddigon naturiol mae'r cyfieithwyr yn defnyddio'r ffurfiau maent wedi arfer a nhw pan mae job hysbys i'w gwneud. Ond mae cywair neu ton o lais llythyr busnes neu agenda cyfarfod cyngor yn anghywir ar gyfer hysbysebu pan ti'n trio perswadio pobl.

Petha arall sy'n wirioneddol fy nharo fi fel anghywir yw gweld cyfieithiadau Cymraeg ar gyfer meddalwedd cyfrifiadurol sy'n defnyddio CHI pob tro. Mae'r cyfrifiaduron personol yn bethau bersonol nid torfol. Ac mae rhyngwynebau i fod yn gyfeillgar. Y peth gwaethaf sy'n cael ei gwneud yw trio pob botwm neu dewis yn orchymyn fel "AgorWCH", ble does dim fath o orchymyn i fod. "Agor" sy'n iawn.

Dwi ddim yn deall paham yr holl gorchmynion "...wch" pob tro?? Mae pobl hysbysebu a chyfieithwyr yn edrych ar pethe o safbwyntiau cwbl wahannol dwi'n meddwl. Cymerwch y pennawd "Buy one get one free". Tasa pob cyfieithydd yn trosi hwn yn "PrynWCH un - GeWCH un am ddim" neu rhywbeth riet debyg dwi'n swir. Stim son am y gair "you" yn y Saesneg dydy o ddim yn orchymyn. Swn i rhoi rhwybeth fel "Prynu un - Cael un am ddim" / neu "Pryna Un.." oes oes rhaid cael 'ordar'

Fel ti'n gweld dwi wedi mwydro am yn hir, mae ddrwg iawn gynnyf - wnai gae fy mhen.
Sian - Diolch unwiath eto am dy ateb i'r pwynt uchod. (a'r cyngor gret am bethe ieithyddol ti'n rhoi ar Maes-E... dwi weid ffeindio lot ohonyn nhw'n handi iawn).
HuwJones
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 196
Ymunwyd: Gwe 23 Maw 2007 2:39 pm
Lleoliad: Ynys Môn

Re: 'feel free to take...' (cyfieithu)

Postiogan sian » Gwe 13 Meh 2008 10:51 pm

Helo Huw
Neges ddifyr - mae hysbysebu'n faes difyr iawn.
Swn i'n meddwl bod rhaid bod yn ofalus iawn wrth benderfynu ar gywair hysbysebion - gallai bod yn rhy 'pally' wneud mwy o ddrwg nag o les. Swn i'n cadw "chi" mewn hysbysebion sy'n cael eu gweld gan lot o bobl ar yr un pryd. Ges i job cyfieithu unwaith ar gyfer ymgyrch recriwtio gwirfoddolwyr gan elusen. Ges i bosteri i ddechrau ac fe wnes i'r rheiny gan ddweud rhywbeth fel "Dewch i wirfoddoli gyda ni" ond wedyn fe ges i gardiau post i'w hanfon yn bersonol at wirfoddolwyr posibl - rhai at fyfyrwyr, rhai at rieni a rhai at bobl wedi ymddeol ond yr un neges ar y cwbwl. Roedd hi'n anodd wedyn penderfynu rhwng "ti" a "chi". Ar ôl i fi esbonio, fe wnaethon nhw gytuno i wneud rhai "ti" ar gyfer y myfyrwyr a'r rhieni a "chi" ar gyfer y bobl wedi ymddeol.

Un peth sy'n fy nharo i'n rhyfedd. Ti'n dweud bod
HuwJones a ddywedodd:rhaid siarad gyda'r unigolyn yn glos fel petai ti'n siarad a ffrind
ond wedyn ti'n dweud -
HuwJones a ddywedodd:Swn i rhoi rhwybeth fel "Prynu un - Cael un am ddim"
yn lle "Prynwch un, cewch un am ddim". Wyt ti'n gwrthddweud dy hunan fan'na?

Dw i'n cytuno â ti am y cyfarwyddiadau ar y cyfrifiadur - mae lot o bobl yn rhoi'r gorchmynnol yn lle'r berfenw wrth gyfieithu facebook. Fe wnes i godi hyn yn un o'r trafodaethau ac fe wnaeth rhywun ateb yn dweud y dylid defnyddio'r berfenw os nad yw hi'n amlwg mai gorchymyn sydd yna. Newydd weld un nawr - "Browse for Networks" yn cael ei gyfieithu fel "Chwiliwch am Rwydweithiau".

Difyr!
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: 'feel free to take...' (cyfieithu)

Postiogan Kez » Sad 14 Meh 2008 12:48 am

Efallai dylsa hyn fod mewn edefyn ti a chi ar wahan ond nage fi ddechreuws e, felly wi’n mynd i rhoi fy mhwt i mewn. Mae’n bwnc perthnasol ar hyn o bryd tra bo Facebook wrthi’n cal ei gyfieithu i’r Gymraeg.

Wi’n cytuno gant y cant â Huw ynglŷn a’r defnydd o ti neu chi mewn hysbysebion ac o ran meddalwedd cyfrifiadurol. Buasai’n talu i gyfieithwyr sylwi ar yr hyn sy’n digwydd gydag ieithoedd eraill sydd â’r gwahaniaeth hwn - cyn iddynt fwrw ati. Buasai’r siaradwr Sbaeneg yn defnyddio’r cywair ‘agos atot ti’ yn yn y sefyllfaoedd hynny ac mae ‘na resymau cryf dros y dewis hwnnw.

O ran meddalwedd cyfrifiadurol a rhai petha ar y we, mae defynyddio ti yn creu rhyw fath o solidarity ys dywed y Sais, lle bo chi yn creu difference. Ti ma’r athro yn ei ddefynyddio â’r plentyn tra bo disgwyl i’r plentyn ateb nôl wrth iwso chi - ond ryn ni’n dod â’r peth ‘parch’ sy’n perthyn i chi at lefydd lle nag yw e’n berthnasol na’n dderbyniol, ac ma'r dewis cywair yn swnio'n anghywir - ifi, ta p'un i. Unigolion sy’n rhan o gynulleidfa ehangach yw’r bobol ar y we, a man a man a gora i gyd yw hi inni siarad â phob un o’nhw’n unigol wrth ddefnyddio ti - mae'n agos atot ti ac yn gyfeillgar yn y byd mawr gweol.

O ran hysbysebion, siarad â phawb a phob un wyt ti wrth ddefnyddio chi ond rwyt ti'n personoleiddio’r peth wrth iti ddefnyddio ti - rwyt ti’n siarad yn uniongyrchol â’r unigolyn. Nid mater o barch neu amharch yw e. Mae hysbyseb sy’n dweud rhywbeth fel – Defnyddia’r siampŵ hwn ac fe gei di wallt fel tonnau’r môr - yn siarad a thi ac nid â phob copa gwalltog. Seicolegol yw hwnna ond mae’n arf gryf wrth hysbysebu.

Mae rhaid inni addasu ein defnydd o ti a chi at y byd modern, fel mae ieithoedd eraill yn ei wneud. Un o gryfderau’r Gymraeg ynghyd â nifer fawr o ieithoedd eraill yw ein bod ni’n gallu newid cywair at ddibenion gwahanol gyda’r dewis hwn. Gad inni gadw’r chi at bethau ffurfiol fel dogfennau swyddogol ac ati - yn union fel mae Huw yn ei ddweud.
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea


Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai

cron