Yng Ngeiradur yr Academi, mae Bruce Griffiths yn dweud y dylid defnyddio o yn lle am yn y teip hyn o gystrawen:
He’s big for his age - mae’n fawr o’i oed (not am ei oed)
For November it’s fine weather – mae hi’n braf o fis Tachwedd (not am fis Tachwedd)
He speaks Welsh very well for an Englishman - mae’n siarad Cymraeg yn dda iawn o Sais (not am Sais)
Wi’n gallu derbyn y cyfieithiad cyntaf am fy mod i wedi dod ar ei draws e o’r blaen, ond mae’r ddau arall yn swno’n od ifi. Byddwn i’n ffafrio am yn y tair enghraifft, ond mae hwnna’n anghywir yn ôl y Geiriadur. A all rhywun egluro wrtho i pam?