Clywed arogl

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Clywed arogl

Postiogan Mr Gasyth » Llun 30 Meh 2008 8:56 am

Mi ydw i wastad wedi deud 'clywed arogl' (neu 'clywed ogle' a deud y gwir) ond neithiwr mi dynodd rywyn sylw at hyn gan awgyrmu fy mod yn wallgo.

Oes rywyn arall yn deud hyn? Ydi o'n gywir?

Hefyd, ydw i'n iawn i feddwl fod posib clywed blas a thymheredd hefyd yn Gymraeg?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: Clywed arogl

Postiogan sian » Llun 30 Meh 2008 9:17 am

Hollol dw-lali mae arna i ofn!

Na, ti sy'n iawn. Mae clywed yn cael ei ddefnyddio am y synhwyrau i gyd heblaw gweld yn y Gymraeg - ac yn y Wyddeleg dw i'n meddwl.
Pan o'n i'n fach, dw i'n cofio meddwl ei fod yn ddoniol pan wedodd fy nhad ei fod yn clywed pryfyn yn cerdded lan ei fraich.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Clywed arogl

Postiogan Macsen » Llun 30 Meh 2008 9:27 am

Dwi'n clywed swn ac ogla ond dim byd arall. Dyw fy synhwyrau clywed ddim mor ddatblygiedig a chi lot.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Clywed arogl

Postiogan sian » Llun 30 Meh 2008 9:46 am

Macsen a ddywedodd:Dwi'n clywed swn ac ogla ond dim byd arall. Dyw fy synhwyrau clywed ddim mor ddatblygiedig a chi lot.


Be ti'n feddwl o hyn 'te?

"guascu y benn yny glyw y uyssed yn ymanodi yny freichell drwy yr ascwrn" (13g) :ofn:

a "Trimwy yw'r gogleis tra mawr gigleu (14g) :lol:
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Clywed arogl

Postiogan Mr Gasyth » Llun 30 Meh 2008 9:53 am

Phew!

Dwi'm yn siwr faswn i'n clywed pryfyn yn cerdded fyny mraich, ond mi fyddai'n ei chlywed hi'n oer yn y gaeaf yn bendant.

Oes yna wahaniaeth tafodieithol yma felly, neu sut fod yr ymadrodd mor ddiarth i fy nghyfaill sydd wedi ei fagu ar aelwyd yr un mor Gymraeg a fy un i?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: Clywed arogl

Postiogan sian » Llun 30 Meh 2008 10:14 am

Mr Gasyth a ddywedodd:
Oes yna wahaniaeth tafodieithol yma felly?


Swn i ddim yn meddwl - os wyt ti o Glwyd, fi o Ddyfed a ffrind o Wynedd yn dweud fwy neu lai yr un peth - dw i ddim yn gwbod sut mae ymhellach i'r de.
Beryg i bethau fel hyn fynd i golli'n fuan.

Ar drywydd tebyg. O'n i mewn parti yn ddiweddar a phlentyn yn tynnu wyneb wrth gymryd ansh o rywbeth Indiaidd. Gofynnodd ei nain iddo "Oedd e'n boeth?" "Nac oedd" atebodd y bychan. "Sbeisi oedd e."
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Clywed arogl

Postiogan Rhodri Nwdls » Llun 30 Meh 2008 1:22 pm

Dwi'n gyfarwydd iawn a "clywed hi'n oer" ond dwi'm yn ei ddefnyddio fo'n naturiol.

Ma clywed ogla'n hollol naturiol i mi ddo. Hir oes i glywed ogleuon!

O ran poeth a sbeisi - ma na broblam fan hyn achos sut ti'n gwahaniaethu rhwng poeth tymheredd a phoeth sbeisi mewn sgwrs dros fwyd? Ma'r wynab yn gallu bod r'un peth os ti'n llosgi dy dafod neu os oes na hgomar o habanero yn llosgi twll yn dy wefl. Ein ateb ni am sbeisi oedd "poeth tafod" a jest "poeth" am dymheredd.

[Sian - alli di gyfieithu'r Kymraeg Kanol na? Sgen i'm clem be ma'n ddeud]
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Re: Clywed arogl

Postiogan sian » Llun 30 Meh 2008 1:35 pm

Rhodri Nwdls a ddywedodd:O ran poeth a sbeisi - ma na broblam fan hyn achos sut ti'n gwahaniaethu rhwng poeth tymheredd a phoeth sbeisi mewn sgwrs dros fwyd? Ma'r wynab yn gallu bod r'un peth os ti'n llosgi dy dafod neu os oes na hgomar o habanero yn llosgi twll yn dy wefl. Ein ateb ni am sbeisi oedd "poeth tafod" a jest "poeth" am dymheredd.


Da! Mae'n haws yn y de. Twym a po'th.

Rhodri Nwdls a ddywedodd:[Sian - alli di gyfieithu'r Kymraeg Kanol na? Sgen i'm clem be ma'n ddeud]


O'n i'n gobeithio na fyse neb yn gofyn am hynna - dw i ddim yn siwr iawn chwaith.

"guascu y benn yny glyw y uyssed yn ymanodi yny freichell drwy yr ascwrn" (13g)
"gwasgu ei ben nes ei fod yn clywed (teimlo) ei fysedd yn suddo hyd ei freichell ( gwaelod ei fraich??) trwy'r asgwrn" - ai hanes Efnisien yn ymosod ar y Gwyddelod yn stori Branwen sydd yma?

a "Trimwy yw'r gogleis tra mawr gigleu (14g)
"Tair gwaith mwy yw'r goglais mawr iawn a glywai (deimlai)" - dw i'n meddwl.

Beth yw hanes y Kymro Kanol erbyn hyn?
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Clywed arogl

Postiogan Hedd Gwynfor » Llun 30 Meh 2008 2:16 pm

sian a ddywedodd:Da! Mae'n haws yn y de. Twym a po'th.


Dyna beth oeddwn i am ddweud. Pethe lot rhwyddach lawr 'ma yn y de! :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Clywed arogl

Postiogan sian » Llun 30 Meh 2008 2:37 pm

Un arall eitha tebyg - dw i'n cofio hen bobol yn gweud bod watsh yn "cer'ed" - o'n i'n licio'r syniad yna. Oes rhywun yn dal i'w ddweud e?
O ran hynny, ydi pobl yn dal i ddweud "cer'ed" am cerdded?
A "mynd ar ger'ed" am "mynd i waco"? Odyn nhw'n dal i ddweud mynd i waco?
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Nesaf

Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 52 gwestai

cron