Cymedrolwr: Gwen
sian a ddywedodd:O'n i'n gobeithio na fyse neb yn gofyn am hynna - dw i ddim yn siwr iawn chwaith.
Rhodri Nwdls a ddywedodd:
Am be ma'r ail ddyfyniad yn sôn? Pa gosi sy dair gwaith mwy, a thair gwiath mwy na be?
Dwi'n lecio'r ffaith fod nhw trafod cosi yn yr oeseodd canol cofia. Gei di mo hynny yn y Domesday nachei!
sian a ddywedodd:Dw i ddim yn gwybod. Mae'n dod o ddarn o farddoniaeth yn Llyfr Coch Hergest sydd, o bosib, yn dechrau "Gweleis lewdoeth hael gwiwlwys". Dw i ddim yn meddwl bod gen i gopi.
Mae rhai o'r hen gerddi yn gwneud i'r beirdd swnio'n human iawn.
Mr Gasyth a ddywedodd:Mi ydw i wastad wedi deud 'clywed arogl' (neu 'clywed ogle' a deud y gwir) ond neithiwr mi dynodd rywyn sylw at hyn gan awgyrmu fy mod yn wallgo.
Oes rywyn arall yn deud hyn? Ydi o'n gywir?
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 15 gwestai