Odd na ddadl reit ddifyr (?) ar ‘Taro’r Post’ heddi rhwnt Efa o’r Urdd a Bruce Griffiths o’r Geiriadur. Dadlau oedden nhw dros gywirdeb ieithyddol slogan newydd yr Urdd – rhywbeth i wneud biti’r amgylchedd am a’r wn i, ac odd e’n dychra off gida rhywbeth fel ‘Urdd Gwyrdd’. Dyma Bruce yn mynd ar ei geffyl a gweud taw ‘Urdd Werdd’ dyla fe fod, ond odd Efa ddim yn fodlon baco off ac ath Bruce yn fwyfwy surbwch a swrth gyda ddi – ife dim ond yng Nghymru gelat ti’r fath hyn o ddadl ar radio genedlaethol?
Ifi dros gywirdeb iaith ac ifi ‘n cydymdeimlo â Bruce. Fi alla i ddiall ei bwynt e ac yntau’n diall ei bethau i’r dim ac yn gorffod dadla gyda’r slipan ‘ma o ferch. Ifi’n cofio ryw dro bod gitra gida fy nai Benjy sy’n mynd i Ysgol Gymraeg Bodringallt yn y cwm pertaf un, a hwnco’n sôn am ‘socs fi’; wel, dyma fi’n ei gywiro fe ‘straight away’ a gwed taw ‘sana fi’ dylsa fe weud – ond digwydd bod, roedd un arall o blant yr ysgol - Elin Bengachu - gyda fe yn y tŷ a hitha’n ferch i ryw athro Cymraeg ‘nath enw iddo fe ei hunan ar y rhaglen deledu ‘Welsh in a Week’ a dyma hi’n gweud ‘fy hosanau i’ sy’n gywir ac os oes lliw pinc ne’ goch arnyn nhw, fe ddylset ti ddweud ‘fy hosanau cochion’ neu ‘fy hosanau pincon’.
Mae’n gas gen i gal fy nghywiro gin ryw blentyn ac ma Benjy yr un oedran â hon (9 oed), ac dodd e ddim yn hapus chwaith. Pan ath hi i’r tŷ bach, dyma Benjy yn mynd lan a dodi darn o bren rhwnt dolan y drws a’r wal a dod nôl a rhoi 'high five' ifi a gadael honco yn y tŷ bach nesbo brawd fi’n troi lan a’i gadael hi’n rhydd.
Odd Elin Bengachu'n iawn cofia (ond nid Efa) ond onid yw plant precocious yn obnoxious