Hen Rech Flin a ddywedodd:sian a ddywedodd:Hen Rech Flin a ddywedodd:... angen am beiriant cyfieithu safonol ar y we. Peth sy'n cael ei gwrthod gan y sefydliad rhag i'r peiriant cael ei ddefnyddio yn lle cyfieithwyr go iawn.
Ddim hyd y gwn i.
Dyma'r rheswm a roddwyd i mi gan aelod o dîm Canolfan Bedwyr, mewn llythyr, pan godais y cwestiwn gyntaf tua phum mlynedd yn ôl. Os yw'r farn wedi newid bellach rwy'n ei groesawu - ond lle mae'r corpws Cymraeg ar gyfer peiriannau cyfieithu?
Dw i'n meddwl bod Canolfan Bedwyr a SALTCymru wedi gwneud tipyn o waith yn y maes. Wrth gwrs, ni ddylai'r un peiriant cyfieithu gael ei ddefnyddio yn lle cyfieithwyr go iawn. Ni all yr un peiriant gyfieithu holl gyfoeth unrhyw iaith.
sian a ddywedodd:Hen Rech Flin a ddywedodd:Yn ôl yr hyn y deallwyf, does gan yr un cyfieithydd “proffesiynol” hawl i ddefnyddio trwydded lenyddol wrth gyfieithu, eu dyletswydd yw cyfieithu gair am air. Digon teg efo dogfennau cymhleth cyfreithiol. Ond ffolineb hurt parthed arwyddion ffordd bachog.
Eh? Lle clywaist ti hyn?
Hen Rech Flin a ddywedodd:Ar y Maes gan gyfieithydd!
Fyswn i'n gobeithio dy fod ti wedi camddeall hyn. Mae'n dibynnu, wrth gwrs, beth rwyt yn ei olygu wrth 'trwydded lenyddol'!
...
sian a ddywedodd:Hen Rech Flin a ddywedodd:Ond mae'n debyg bod Llywodraeth Cymru a'r Cynghorau Sir yn gweld cyfleu neges yn warth ar "safon" cyfieithu, y safon llythrennol biwrocrataidd y maent yn eu dymuno!
Rwtsh!
Hen Rech Flin a ddywedodd:Mae'r prawf ar blas y pwdin!
Dw i ddim yn dweud nad oes 'na gyfieithu clonciog o gwmpas - ond nid ffrwyth polisi gan Lywodraeth y Cynulliad na'r Cynghorau Sir yw hyn.
Hen Rech Flin a ddywedodd:Rwyt yn hynod amddiffynnol o'r arwydd yma Siân - a'i ti yw ei hawdur?
Nage, cofia. Ond mae gen i gof i mi fod yn ddigon diniwed i ddweud "llwybr halio" am "towpath" rhyw dro.
Rwyt ti ar un llaw yn pledio achos cyfieithu peirianyddol ac ar y llaw arall yn gofyn am ddefnyddio trwydded lenyddol - mae'r ddau beth yn gwrthddweud ei gilydd yn llwyr.