Ydy pawb yn gweld hiwmor yr arwydd?

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Ydy pawb yn gweld hiwmor yr arwydd?

Postiogan sian » Mer 09 Gor 2008 8:55 am

Hen Rech Flin a ddywedodd:
sian a ddywedodd:
Hen Rech Flin a ddywedodd:... angen am beiriant cyfieithu safonol ar y we. Peth sy'n cael ei gwrthod gan y sefydliad rhag i'r peiriant cael ei ddefnyddio yn lle cyfieithwyr go iawn.

Ddim hyd y gwn i.


Dyma'r rheswm a roddwyd i mi gan aelod o dîm Canolfan Bedwyr, mewn llythyr, pan godais y cwestiwn gyntaf tua phum mlynedd yn ôl. Os yw'r farn wedi newid bellach rwy'n ei groesawu - ond lle mae'r corpws Cymraeg ar gyfer peiriannau cyfieithu?


Dw i'n meddwl bod Canolfan Bedwyr a SALTCymru wedi gwneud tipyn o waith yn y maes. Wrth gwrs, ni ddylai'r un peiriant cyfieithu gael ei ddefnyddio yn lle cyfieithwyr go iawn. Ni all yr un peiriant gyfieithu holl gyfoeth unrhyw iaith.

sian a ddywedodd:
Hen Rech Flin a ddywedodd:Yn ôl yr hyn y deallwyf, does gan yr un cyfieithydd “proffesiynol” hawl i ddefnyddio trwydded lenyddol wrth gyfieithu, eu dyletswydd yw cyfieithu gair am air. Digon teg efo dogfennau cymhleth cyfreithiol. Ond ffolineb hurt parthed arwyddion ffordd bachog.


Eh? Lle clywaist ti hyn?

Hen Rech Flin a ddywedodd:Ar y Maes gan gyfieithydd!


Fyswn i'n gobeithio dy fod ti wedi camddeall hyn. Mae'n dibynnu, wrth gwrs, beth rwyt yn ei olygu wrth 'trwydded lenyddol'!

...
sian a ddywedodd:
Hen Rech Flin a ddywedodd:Ond mae'n debyg bod Llywodraeth Cymru a'r Cynghorau Sir yn gweld cyfleu neges yn warth ar "safon" cyfieithu, y safon llythrennol biwrocrataidd y maent yn eu dymuno!

Rwtsh!


Hen Rech Flin a ddywedodd:Mae'r prawf ar blas y pwdin!


Dw i ddim yn dweud nad oes 'na gyfieithu clonciog o gwmpas - ond nid ffrwyth polisi gan Lywodraeth y Cynulliad na'r Cynghorau Sir yw hyn.

Hen Rech Flin a ddywedodd:Rwyt yn hynod amddiffynnol o'r arwydd yma Siân - a'i ti yw ei hawdur?


Nage, cofia. Ond mae gen i gof i mi fod yn ddigon diniwed i ddweud "llwybr halio" am "towpath" rhyw dro.

Rwyt ti ar un llaw yn pledio achos cyfieithu peirianyddol ac ar y llaw arall yn gofyn am ddefnyddio trwydded lenyddol - mae'r ddau beth yn gwrthddweud ei gilydd yn llwyr.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Ydy pawb yn gweld hiwmor yr arwydd?

Postiogan Doctor Sanchez » Mer 09 Gor 2008 5:55 pm

Image06m.jpg
Image06m.jpg (161.84 KiB) Dangoswyd 3412 o weithiau


Chei di ddim un gwaeth na hwn. Arwydd tu allan i Morrisons Caergybi, ma hwn yn ffycin warthus!
Not my fault. Monkey bastard hands!

WHAT!? Am I holding a crock of shit!? Tell me something. Is this hospital called "St. Crock of Shit"!?
Rhithffurf defnyddiwr
Doctor Sanchez
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 160
Ymunwyd: Llun 10 Maw 2008 1:02 pm
Lleoliad: Ysbyty ManTywyll

Re: Ydy pawb yn gweld hiwmor yr arwydd?

Postiogan mabymynydd » Mer 09 Gor 2008 11:06 pm

Mae'n waith Intertran eto. Mae'n beiriant " cyfieiithu" sy ddim yn gweithio yn iawn o gwbl.
Mae'n bosib prynu Intertran. Maen nhw'n gwerthu'r rhaglen!

Fel dywedais, mae grwp o bobl erail yn ceisio creu un sy'n well. Rwy'n gwybod cryn dipyn am y pwnc ac mae'n bosib gwneud yn well o lawer. Mae'r gronfa ddata Intertran yn llawn camgymeriadau ac mae'n amwlg bod nhw ddim wedi creu digon o rheolau i brosessi'r geiriau yn iawn. Ond y broblem yw twpdra'r cwmni. Efallai dylai rhywun gwyno yn uchel i 'r cwmni sy'n gwneud y gwaith. Mae'n dangos difyg parch at ein hiaith. Dylai pawb wybod i osgoi defnyddio peiriannau cyfeithu i wneud unrhyw beth pwsig. Mae pobl yn defnyddio periannau cyfieithu i gyfiethu pethau o iaith estron i iaith bod nhw'n deall. Dyna'r unig ffordd.

Clywais i un arall heno. Peiriant arian banc, ar y scrin. "Does dim ffi am eich codiad" :-) Rhywun gyda TGAU yn Gymraeg fel ail iaith wedi gwneud y neges efallai. Pwy a wyr!
mabymynydd
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 11
Ymunwyd: Iau 03 Gor 2008 7:00 pm

Re: Ydy pawb yn gweld hiwmor yr arwydd?

Postiogan Hen Rech Flin » Sad 12 Gor 2008 11:36 pm

sian a ddywedodd:Rwyt ti ar un llaw yn pledio achos cyfieithu peirianyddol ac ar y llaw arall yn gofyn am ddefnyddio trwydded lenyddol - mae'r ddau beth yn gwrthddweud ei gilydd yn llwyr.

Dim o gwbl. Mae'n rhaid derbyn y byd fel y mae. Mae peiriannau cyfieithu yn bodoli, maent yn cael eu defnyddio, ysywaeth, a chael eu defnyddio byddant am fyth bellach, mae'n debyg. Gan hynny mae'n rhaid sicrhau eu bod yn gweithio ar gorpws Cymraeg bydd yn sicrhau bod eu cyfieithiadau cyn gywired a bod modd i beiriant ei greu.

USP y cyfieithydd o gig a gwaed yw ei gallu i gyfieithu "ystyr" yn lle geiriau. Gwendid yr arwydd dan sylw yw'r ffaith ei fod yn gyfieithiad "peirianyddol" gan berson :?
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Re: Ydy pawb yn gweld hiwmor yr arwydd?

Postiogan Kez » Sul 13 Gor 2008 1:16 am

Wrth gwrs bod angen derbyn y byd fel ag y mae ac oherwydd hynny - breuddwyd gwrach yw meddwl am beiriant cyfieithu i'r Gymraeg a fydd o unrhyw werth ar hyn o bryd. Does dim corpws o eiriau neu ddywediadau na dim byd sy'n deilwng o'i alw'n gorpws o gyfoeth yr iaith Gymraeg at ddefnydd y lleygwr. Pe bai 'na gorpws hygyrch ar gael, fe allwn ni ddisgwyl geiriaduron o werth a thesawrws a phob dim yn y Gymraeg - ond beth sy gyda ni ond Y Geiriadur Mawr a'i wreiddiau yn y pumdegau. Mae geiriadur ar lein Prifysgol Llanbed mor wael fel ei fod yn torri calon dyn ac mae holl waith clodwiw Geiriadur Prifysgol Cymru yn casglu llwch o fewn ei gyfrolau. Mae'n ddigon anodd iddyn nhw gael y peiriannau 'ma i gynnig cyfieithiadau da o'r Saesneg i'r Sbaeneg neu'r Ffrangeg - a'r ieithoedd hynny a thrysorfa o adnoddau wrth law.
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Ydy pawb yn gweld hiwmor yr arwydd?

Postiogan mabymynydd » Llun 14 Gor 2008 10:29 am

Dyw rhaglen gyfieithu ddim yn gallu cyfieithu pethau yn berfaith. Ond pwrpas y rhaglen yw rhoi syniad o ystyr y testun. Does neb yn dweud y dylwn ni ddefyddio rhagleni cyfrifiadur i gyfieithu arwyddion nau unrhyw beth pwsig. Ond mae nhw yn ddefnyddiol.

Dyma rhai engrheiftion o waith y rhagen newydd . Mae'r awduron yn defnyddio'r geiriau "extremely broken" am y rhaglen. Felly dyw'r rhaglen ddim yn barod o gwbl. Mae'r gymraeg wreidioll yn dod yn gyntaf wedyn gwaith y rhaglen newydd ac wedyn Intertran

Roedd y Comisiwn yn ymchwilio i'r honiadau bod yr AS wedi methu datgan £103,000 o roddion.
the Commission Was investigating the allegations that the MP has failed to declare £103,000 of gifts.
"He was the Commission crookedly ymchwiliad I ' group claims be he drives ACE has failed declare he gifts." (InterTran)

Dywedodd yr heddlu fod y troseddau honedig wedi digwydd rhwng 2003 a 2007 yn Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin.
the police Said that the alleged crimes have happened between 2003 and 2007 in Pembrokeshire and Carmarthenshire.
"He said he drives police force be the transgressions alleged has happened between 2003 I go 2007 crookedly Shire ble I go Shire Gaerfyrddin." (InterTran)

Mae'r heddlu hefyd yn ymchwilio i honiadau ei bod hi'n cael perthynas â dyn llawer hŷn.
the police Are also investigating his allegations be she getting relation with a much older man.
"He ' is being group police force also crookedly ymchwiliad I claims you go be she ' heartburn have relation he goes tight much hn & #375." (InterTran)

Mae Ymddiriedolaeth Caerdydd a'r Fro yn gwrthod dweud faint mae'r driniaeth yn costio, ond yn ôl papur newydd y Sun mae'r driniaeth cyffuriau yn costio £2,500 y mis.
Cardiff Trust and the Region Is refusing say size the treatment is costing , but according to the newspaper Sun the treatment is drugs costing £2,500 the month.
"He is being Trust Cardiff I ' go group Land refusing say as many he ' is being group treatment costing , except according to paper news the Sun he ' is being group treatment ingredients costing the month." (InterTran)
mabymynydd
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 11
Ymunwyd: Iau 03 Gor 2008 7:00 pm

Re: Ydy pawb yn gweld hiwmor yr arwydd?

Postiogan sian » Llun 14 Gor 2008 10:57 am

Cwor! Mae hwnna'n well o lawer.
Dw i wedi cael golwg sydyn ar wefan Intertran a wela i ddim unrhyw fath o ddisclaimer yn dweud 'Peidiwch â defnyddio hwn i gyfieithu i mewn i iaith nad ydych yn gyfarwydd â hi ac os ydych chi'n gwneud hynny dydyn ni ddim yn gyfrifol am y canlyniadau'. Rhyfedd nad oes cwmniau'n mynd nôl atyn nhw i ddweud "Ry'n ni wedi gorfod ail-wneud ein harwyddion ar ôl defnyddio'ch cyfieithiad chi - Talwch!"
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Ydy pawb yn gweld hiwmor yr arwydd?

Postiogan Hazel » Llun 14 Gor 2008 1:30 pm

Pam lai defnyddio bodau dynol? Maen nhw'n well na pheiriannau. :P
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

Re: Ydy pawb yn gweld hiwmor yr arwydd?

Postiogan mabymynydd » Llun 14 Gor 2008 4:25 pm

Dw i'n cytuno a^ Sian. Mae Intertran yn warthus. Mae'n eitha amlwg bod nhw ddim wedi bod yn ofalus iawn gyda'r gronfa ddata.
e.e. Mae'n troi "'n" i "heartburn" ac "yn" i "crookedly". Dyn ni'n gallu gwneud jocs ble mae deuoliath yn bodoli gydag ystyr y geirau fel "halio" a "codiad" ond mae Intertran yn rywbeth arall.

Y peth sy'n gwneud fi'n grac yw'r arwyddion yn ein strydoedd o ganlyniad i waith Intertran.

Fel ymateb i'r cwestiwn am ddefnyddio pobl i gyfiethu. Ambell waith does neb ar gael. e.e. Cwpl o fisoedd yn o^l ffeinddiais i rywyn yn trafod un o fy ngwefanau yn iseldireg. Roedd rhaid i fi ddefnyddio Babelfish i ddarganfod beth oedden nhw'n dweud.

Mae'n amlwg bod rhaid talu am gyfieithiad proffesiynol.Dyw cyfrifiadiron ddim yn gallu cysyniadoli pethau. Maen nhw'n gallu dilyn rheolau ond does dim meddwl yna i gyd-destinio pethau. Ond i rhoi cipowlg ystyr y testun i'r darllwenwr mae'n nhw'n ddefnyddiol iawn.

Wrth gwrs mae risg yn bodllio bod pobl yn mynd i ddefnyddio unrhyw beriant i greu sgymraeg ar arwyddion yn y stryd ond fel dywedodd Schiller "Gyda thwpdra ymdrecha'r duwiau eu hunain yn ofer"
mabymynydd
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 11
Ymunwyd: Iau 03 Gor 2008 7:00 pm

Nôl

Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 41 gwestai

cron