Mae arwydd ar dir Ystad Mostyn ger Llandudno yn darllen:
"DYFODFA UNIG
ACCESS ONLY"
Cymedrolwr: Gwen
Hen Rech Flin a ddywedodd:Mae yna ddwy ddadl yma.
Yr un gyntaf yw'r un am yr angen am beiriant cyfieithu safonol ar y we. Peth sy'n cael ei gwrthod gan y sefydliad rhag i'r peiriant cael ei ddefnyddio yn lle cyfieithwyr go iawn.
Hen Rech Flin a ddywedodd:Yn ôl yr hyn y deallwyf, does gan yr un cyfieithydd “proffesiynol” hawl i ddefnyddio trwydded lenyddol wrth gyfieithu, eu dyletswydd yw cyfieithu gair am air. Digon teg efo dogfennau cymhleth cyfreithiol. Ond ffolineb hurt parthed arwyddion ffordd bachog.
Hen Rech Flin a ddywedodd:Yr hyn sydd ei angen yn y Gymraeg yw llaw fer fachog i gyfleu'r un ystyr yn y Gymraeg Parth Cipio Ceir Cywilyddus er enghraifft.
Hen Rech Flin a ddywedodd:Ond mae'n debyg bod Llywodraeth Cymru a'r Cynghorau Sir yn gweld cyfleu neges yn warth ar "safon" cyfieithu, y safon llythrennol biwrocrataidd y maent yn eu dymuno!
sian a ddywedodd:Hen Rech Flin a ddywedodd:Mae yna ddwy ddadl yma.Hen Rech Flin a ddywedodd:Yr hyn sydd ei angen yn y Gymraeg yw llaw fer fachog i gyfleu'r un ystyr yn y Gymraeg Parth Cipio Ceir Cywilyddus er enghraifft.
sian a ddywedodd:Hen Rech Flin a ddywedodd:Mae yna ddwy ddadl yma.
Yr un gyntaf yw'r un am yr angen am beiriant cyfieithu safonol ar y we. Peth sy'n cael ei gwrthod gan y sefydliad rhag i'r peiriant cael ei ddefnyddio yn lle cyfieithwyr go iawn.
Ddim hyd y gwn i.
sian a ddywedodd:Hen Rech Flin a ddywedodd:Yn ôl yr hyn y deallwyf, does gan yr un cyfieithydd “proffesiynol” hawl i ddefnyddio trwydded lenyddol wrth gyfieithu, eu dyletswydd yw cyfieithu gair am air. Digon teg efo dogfennau cymhleth cyfreithiol. Ond ffolineb hurt parthed arwyddion ffordd bachog.
Eh? Lle clywaist ti hyn?
sian a ddywedodd:Hen Rech Flin a ddywedodd:Yr hyn sydd ei angen yn y Gymraeg yw llaw fer fachog i gyfleu'r un ystyr yn y Gymraeg Parth Cipio Ceir Cywilyddus er enghraifft.
Treia di ffitio hynna ar arwydd! (Byse "Parth Cipio Ceir" yn iawn - ond wedyn, mae cipio yn gallu golygu ennill, gwibio heibio, ymbil yn daer neu cyfarth - beth pe bai rhywun yn camddeall hynny? Gall cyfieithydd ddim fod yn gyfrifol am feddyliau budron ei ddarllenwyr!)
sian a ddywedodd:Hen Rech Flin a ddywedodd:Ond mae'n debyg bod Llywodraeth Cymru a'r Cynghorau Sir yn gweld cyfleu neges yn warth ar "safon" cyfieithu, y safon llythrennol biwrocrataidd y maent yn eu dymuno!
Rwtsh!
Seonaidh/Sioni a ddywedodd:Wel, mae'n amlwg ynte. Ni ddylen nhw gyfieithu pethau i'r Gymraeg.
Seonaidh/Sioni a ddywedodd: Wrth gyfieithu, mae rhaid yn gyntaf ddeall (e.e.) dyhead yr arwydd, be sy eisiau ei gyfleu. Yna, anghofio am iaith wreiddiol yr arwydd a dyfeisio rhywbeth addas yn y Gymraeg.
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 30 gwestai