Kez a ddywedodd:Wi wedi codi'r gair 'no(?) 'ma o rywle ers sawl blwyddyn, ond wn i ddim shwt (West Wales siwr o fod)- mewn brawddegau fel:
Wi'm yn ei lico fe 'no - I don't like him anyway
Bach o goc oen yw e 'no? - he's a bit of an arsehole, isn't he?
Ife gair (?) Cymraeg yw hwn ne jwst y gair Saesneg 'no'?
O, fy hyfryd Gez - diolch am 'yn atgoffa i shwt dw i fod i siarad
Pan o'n i'n fach ro'n in galw Aberystwyth yn Bystys. Un diwrnod dyma mam yn penderfynu ei bod yn bryd i mi weud "Aberystwyth" ac yn treio fy mherswadio i bob ffordd, ond beth bynnag roedd hi'n ddweud y cwbwl oedd hi'n gal oedd "Bystys i fi'n weud 'no"
Geiriadur Prifysgol Cymru: no [talfyriad o "mynno" trwy golli'r sillaf gyntaf?] Geiryn a ddefnyddir i ddynodi anghyflawnder neu anfanyldeb datganiad, i leddfu datganiad rhy bendant neu i nodi saib neu drobwynt mewn naratif, beth bynnag, ta beth: anyhow, anyway.
Ar lafar yn Sir Benfro, godre Ceredigion a Sir Gaerfyrddin.
"Sana i'n dŵad, no:; "bara menyn 'dag e wê nhad yn fyta wastod no"