Featured Title/Production

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Featured Title/Production

Postiogan Rhodri Nwdls » Mer 16 Gor 2008 5:09 pm

Ma hwn yn y ngyrru fi'n benwan - be goblyn ydi "featured production"

h.y. un cynhyrchiad allan o gronfa ddata sy'n cael ei amlygu ar dudalen flaen y wefan

Dwi di meddwl am "Cynhyrchiadau gwerth eu gweld" "cofnodion gwerth eu gweld" ond dio'm cweit ddigon bachog.

Help?
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Re: Featured Title/Production

Postiogan Duw » Iau 17 Gor 2008 9:16 pm

Ydy hyn r'un peth a "spotlight"? Beth am sbotolau neu spotoleuadau?
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Featured Title/Production

Postiogan Kez » Iau 17 Gor 2008 10:11 pm

Duw a ddywedodd:Ydy hyn r'un peth a "spotlight"? Beth am sbotolau neu spotoleuadau?


Wilia mas o dwll dy din di wyt ti nawr Duw - er mor oleuedig y byddot :lol: :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Featured Title/Production

Postiogan Dwlwen » Gwe 18 Gor 2008 9:18 am

Rhodri Nwdls a ddywedodd:Dwi di meddwl am "Cynhyrchiadau gwerth eu gweld" "cofnodion gwerth eu gweld" ond dio'm cweit ddigon bachog.

Help?

Os gwerth galw fe'n "Cip-olwg" neu rwbeth fel'nny? "Golwg ar gynhyrchiad"/ "Cip ar gynhyrchiad"...?
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Re: Featured Title/Production

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 18 Gor 2008 9:36 am

Ma hwn yn un anodd. Mae rhai pobl yn defnyddio 'Nodwedd' am featured e.e.'Cynhyrchiadau Nodwedd' ond... :?

Er Gwybodaeth, yn ôl y Termiadur Arlein:

Feature film = prif ffilm

Ond dwi'n deall mai 'featured' yn hytrach na 'feature' ti'n chwilio am.

Cwpwl o bethau eraill falle sydd o ddefnydd:

feature (=feature article) erthygl nodwedd eb erthyglau nodwedd

feature (in general) nodwedd eb nodweddion

feature (on surface) arwedd eb arweddion
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin


Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 72 gwestai