Tudalen 1 o 1

Pedwar ugain

PostioPostiwyd: Iau 24 Gor 2008 12:33 pm
gan Kez
Ife dim ond pedwar ugain sy'n gywir ymhob sefyllfa neu a allet ti ysgrifennu pethau fel pedair ugain mlwydd oed neu pedair ugain mlynedd?

Diolch

Re: Pedwar ugain

PostioPostiwyd: Iau 24 Gor 2008 12:46 pm
gan sian
Kez a ddywedodd:Ife dim ond pedwar ugain sy'n gywir ymhob sefyllfa neu a allet ti ysgrifennu pethau fel pedair ugain mlwydd oed neu pedair ugain mlynedd?

Diolch


Ie, pedwar ugain - yr "ugain" sy'n gweithredu fel gair gwrywaidd felly "pedwar ugain" fel "pedwar dyn"

Ond fel arall, wrth gwrs, "tair blwydd oed", "pedair blynedd", "dwy oed" - Mae John yn ddwy oed; Mae Huw yn dair ar hugain; Mae Dafydd yno ers pedair blynedd
- cyfeirio at "blwydd", "blynedd" mae'r rhif fan hyn, nid at y dyn.

Re: Pedwar ugain

PostioPostiwyd: Iau 24 Gor 2008 1:06 pm
gan Kez
Shit - wi wedi colli pum punt nawr. Own i'n rhyw amau ar ol gwglo'r peth a gweld taw dim ond rhyw bedair enghraifft o pedair ugain oedd 'na - a fi oedd bia un o' nhw :rolio:

Re: Pedwar ugain

PostioPostiwyd: Iau 24 Gor 2008 1:37 pm
gan Mr Gasyth
Ah, yr hen ffordd Gymreig o gyfri.

Efallai ein bod wedi trafod hyn o'r blaen, ond be ydi tarddiad y ddwy system wahanol yn Gymraeg. Oes wir un yn hen a'r llall yn newydd, ynteu ydyn nhw wedi cyd-fyw ers canrifoedd?

Rwy'n deall fod yr 'hen' system' yn mydn nol i gyfnod y Celtiaid gyda'i dylanwad i weld ar Ffrangeg modern a'i 'quatre-vingts', ond a wnaeth rywyn eistedd lawr i ddyfeisio yr un newydd felly neu be ddigwyddodd?

Re: Pedwar ugain

PostioPostiwyd: Iau 24 Gor 2008 1:45 pm
gan sian
Mr Gasyth a ddywedodd:ond a wnaeth rywyn eistedd lawr i ddyfeisio yr un newydd felly neu be ddigwyddodd?


Gramadeg y Gymraeg, Peter Wynn Thomas," Sustem gymharol newydd yw'r un ddegol; sbardunwyd ei llunio yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan gymhlethdod y sustem ugeiniol. Un o brif fanteision y sustem ddegol yw bod priodas hapusach rhyngddi a'r sustemau cyfredol ar gyfer cyfrif arian a phwyso a mesur .... Er hynny, ni fathwyd trefnolion degol i gyd-fynd â'r rhifolion degol."

h.y. ti ddim yn gallu dweud "dau ddeg unfed" etc.

Re: Pedwar ugain

PostioPostiwyd: Iau 24 Gor 2008 2:26 pm
gan Mr Gasyth
sian a ddywedodd:
Mr Gasyth a ddywedodd:ond a wnaeth rywyn eistedd lawr i ddyfeisio yr un newydd felly neu be ddigwyddodd?


Gramadeg y Gymraeg, Peter Wynn Thomas," Sustem gymharol newydd yw'r un ddegol; sbardunwyd ei llunio yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan gymhlethdod y sustem ugeiniol. Un o brif fanteision y sustem ddegol yw bod priodas hapusach rhyngddi a'r sustemau cyfredol ar gyfer cyfrif arian a phwyso a mesur .... Er hynny, ni fathwyd trefnolion degol i gyd-fynd â'r rhifolion degol."


Gwneud synnwyr, er mae'n rhaid fod Cymru ymhella r y blaen i weddill prydain wrth fabwysiadu mesurau metrig os bu rhaid ail-lunio'r drefn gyfri yn y 91eg Granrif! Aeth arian ddim yn ddegol tan 1971 ac mae'r rhan fwyaf o Gymry yn parhau i ddefnyddio modfeddi, troedfeddi pwysau a stons hyd heddiw.

Re: Pedwar ugain

PostioPostiwyd: Iau 24 Gor 2008 2:38 pm
gan Kez
Mae gen i gopi o Gramadeg Y Gymraeg - ond dyw e ddim yn 'user friendly' fel cyfeirlyfr odi fe. Wi'n ffilu ffindo dim byd wi'n moyn ac wi'n siwr bod yr atebion yno; dyw'r mynegai fawr o help chwaith - pam nad yw e'n rhoi rhif y dudalen ti'n moyn mynd ati yn lle'r pethau fel 4.13a :ing:

Re: Pedwar ugain

PostioPostiwyd: Sad 26 Gor 2008 11:09 am
gan Seonaidh/Sioni
Cyfrif mewn 20au - diddorol. Fel dywedodd y Br. Gasyth, mae rhywbeth tebyg yn digwydd yn y Ffrangeg efo "quatre vingts" - hefyd 70 = "soixante dix". Ond rydw i wedi clywed nad hynny mo'r achos yn Ffrangeg y Swistir, lle maen nhw'n defnyddio "septante", "octante" a "nonante" am 70, 80, 90.

Hen ffordd o gyfrif yn Lloegr st'n rhoi pethau fel "three score and ten" and 70. Yn yr Aeleg ceir pethau fel "sìa fichead", "seachd fichead", "ochd fichead" a "naoi fichead" am 120, 140, 160, 180. Hefyd, ymddengys fod hen rigolion ar gael sy'n odli, wedi'w sylfaenu ar Hen Gymraeg, mewn rhannau o Loegr, sef "yann, tyan, tethera, pethera, pimp, sethera, lethera, hovera, dovera, dick, yann-a-dick, tyan-a-dick, tether-a-dick, pether-a-dick, bumfit, yann-a-bumfit, tyan-a-bumfit, tether-a-bumfit, pether-a-bumfit, giggot" am 1 hyd 20. Yn wir, mae gwyriad o'r rhifau hyn ar gael yn Sussex, lle mae "hickory, dickory, dock" yn sefyll dros 8, 9, 10.

Mae'n debyg fod y rhifau "un deg un, un deg dau" ac ati yn gymharol ddiweddar gan eu bod nhw mor reolaidd - mwy nag yn unrhyw iaith naturiol mod i'n gyfarwydd a hi. Ond, wedi dweud hyn, mae sustem "newydd" ar gael yn yr Aeleg - ond bod nhw'n defnyddio hen ffurfiau am 30, 40, 50 ac ati yn lle newydd fathiadau fel "trì deich", "ceithir deich", "coig deich" ("trithead", "ceathrad", "caogad" ac ymlaen). Awgryma hyn fod rhyw fath o gyfrif mewn 10au ar ryw adeg yn yr Hen Aeleg.

Re: Pedwar ugain

PostioPostiwyd: Sad 26 Gor 2008 1:15 pm
gan sian
Ni'n dechre ailadrodd ein hunain 'ma - edrychwch