Profion Cyfieithu sylfaenol am swyddi

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Profion Cyfieithu sylfaenol am swyddi

Postiogan Y Fampir Hip Hop » Maw 26 Awst 2008 9:56 am

Shwmae de bwys, wy' di bod oddi ar y maes am sbel nawr, a nawr 'co fi'n dychwelyd gan bod ishe 'bach o help/cyngor arno fi. :wps:

Beth bynnag, ma cyfweliad 'da fi wythnos nesa' am swydd yn Caerdydd (well i fi pido a gweud ble, rhag ofan) sy' hefyd yn gofyn i fi cyflawni prawf Cyfieithu ar y diwrnod. Yn anffodus, ma' sgiliau cyfieithu fi yn 'itha ofnadw' i gwêd y gwir - i fi rhwybeth sy'n dod yn naturiol yw'r holl peth. Fi'n gwpod yn nêt hefyd alla'i ddim 'sgrifennu fel ydw i fan'yn yn dafodieth Cwmtawe.

Yn yr adran sy'n delio gyda caisie Cynllunio yw'r swydd - fi'n gwpod bod e'n lot i ofyn, ond os unrhyw aelod o'r maes gyda profiad o'r termau a geirie sy'n gael eu defnyddio yn y maes hon? Ne os ôs unrhyw awgrymiade gyda unrhywun beth sydd yn y fath profion?

Diolch yn fawr. :)
"Never trust a man in a blue trench coat, Never drive a car when you're dead..."

|Flickr|
Rhithffurf defnyddiwr
Y Fampir Hip Hop
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1129
Ymunwyd: Iau 24 Tach 2005 4:42 pm
Lleoliad: Abercraf, Cwm Tawe Ucha'

Re: Profion Cyfieithu sylfaenol am swyddi

Postiogan sian » Maw 26 Awst 2008 10:38 am

Un peth y gallet ti ei wneud yw mynd i wefannau gwahanol gynghorau e.e. Gwynedd, a darllen tipyn o'r dogfennau sydd gyda nhw yn eu hadran gynllunio yno. Fyddai hynny'n rhoi syniad i ti o'r termau maen nhw'n eu defnyddio.

Hwyl fawr i ti yn y cyfweliad.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Profion Cyfieithu sylfaenol am swyddi

Postiogan Hogyn o Rachub » Maw 26 Awst 2008 10:45 am

Helo Fampir. Dwi'n cyfieithu eithaf lot o bethau cynllunio, a byddwn i'n cynghori i ti ddilyn cyngor Sian: mae 'na gryn dipyn o eirfa benodol sy'n ymwneud â chynllunio (yn enwedig os y byddi di'n gwneud lot i'r Arolygiaeth Gynllunio). Byddwn i hefyd yn awgrymu darllen y Rhestr Apeliadau Newydd i gael syniad o hyn - dylent ddod i'r amlwg drwy deipio Rhestr Apeliadau NEwydd ar Gwgl neu chwilio gwefan yr Arolygiaeth ei hun.

O'm mhrofiad i mae 'na gryn dipyn o enwau deddfau ac ati yn cael eu defnyddio mewn pethau cynllunio - ar gyfer y rhain defnyddia wefan TermCymru.

Gobeithio bod hynny'n help a phob hwyl i ti. Croeso i ti anfon NB os oes 'na rhywbeth penodol.
Golygwyd diwethaf gan Hogyn o Rachub ar Maw 26 Awst 2008 12:27 pm, golygwyd 1 waith i gyd.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Profion Cyfieithu sylfaenol am swyddi

Postiogan sian » Maw 26 Awst 2008 10:51 am

Os ei di i http://www.planningportal.gov.uk/ a gwneud un o'r dewisiadau yn y brif ffenest, fe alli di ddewis cael y wybodaeth yn Gymraeg. Mae 'na eirfa hefyd - linc ar y chwith - sy'n ddefnyddiol iawn os wyt ti'n chwilio am eiriau penodol - neu jest i gael cip sydyn.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Profion Cyfieithu sylfaenol am swyddi

Postiogan Y Fampir Hip Hop » Maw 26 Awst 2008 12:05 pm

Diolch yn fawr am rheina Hogyn a Sian. Bydd hwna'n helpu lot gyda'r geirfa perthnasol.
Fi'n siwr (neu gobeitho) bydd y prawf yn llawer mwy syml na fi'n erfyn e i fod, ond ydy rhywun yn gallu awgrymu unrhyw llyfre/gwefannau sy'n cynnig tips sylfaenol ynglyn a cyfieithu ei hunan?
"Never trust a man in a blue trench coat, Never drive a car when you're dead..."

|Flickr|
Rhithffurf defnyddiwr
Y Fampir Hip Hop
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1129
Ymunwyd: Iau 24 Tach 2005 4:42 pm
Lleoliad: Abercraf, Cwm Tawe Ucha'

Re: Profion Cyfieithu sylfaenol am swyddi

Postiogan sian » Maw 26 Awst 2008 12:18 pm

Y Fampir Hip Hop a ddywedodd:Fi'n siwr (neu gobeitho) bydd y prawf yn llawer mwy syml na fi'n erfyn e i fod, ond ydy rhywun yn gallu awgrymu unrhyw llyfre/gwefannau sy'n cynnig tips sylfaenol ynglyn a cyfieithu ei hunan?


Fi'n siwr bydd e!
Dw i ddim yn gwbod am tips am gyfieithu ond mae'r llyfr bach "Canllawiau Iaith a Chymorth Sillafu" gan J Elwyn Hughes yn un handi i'w gael bob amser.
Mae pethau bach fel gwbod y gwahaniaeth rhwng "ei" ac "eu" yn bwysig.
Un tip fyddai i ti feddwl am ystyr y frawddeg gyfan wrth gyfieithu.
Treia gael amser i edrych dros y cyfieithiad wedyn i wneud yn siwr ei fod yn darllen yn rhwydd.
Mae'n sbort!
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Profion Cyfieithu sylfaenol am swyddi

Postiogan sian » Maw 26 Awst 2008 12:21 pm

O ie, os nad wyt ti'n cael defnyddio geiriadur neu TermCymru yn y prawf, rho nodyn i ddweud y byddet ti'n checko'r termau technegol pe byddet ti'n gwneud y gwaith go iawn.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor


Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 56 gwestai

cron