"Ac o'n i fel..."

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: "Ac o'n i fel..."

Postiogan Kez » Sul 21 Medi 2008 1:05 am

Aderyn Coch a ddywedodd:Yn fy marn i, mae "fel" yn gywir os ydy'r bobl yn ei ddefnyddio. Pwy sy'n gallu dweud beth sy'n gywir ac anghywir? Faint o siaradwyr brodorol sy'n defnyddio geiriau Saesneg?


Fi ddim :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: "Ac o'n i fel..."

Postiogan Gwenci Ddrwg » Llun 22 Medi 2008 3:48 am

Ond be sy'n well, cael i rywun ddefnyddio rhyw fratiaith o Gymraeg efo phentwr o Seisnigeiddio ynddi, neu gael iddyn nhw ddefnyddio Saesneg?

Mae'r un yn achosi'r arall, ym mron pob achos lle mae iaith wedi'i ddisodli. Fel arfer maen nhw'n cymryd geiriau, termau a gramadeg oddi wrth yr iaith newydd cyn iddynt ddarfod, hollol normal. Edrycha ar Fanaweg cyn 1974 (ac hyd yn oed heddiw mae'n cynnwys llawer o ddylanwadau Saeson), neu Cernyweg. Ti rili eisiau i'r Gymraeg ddal yr un llwybr?
Rhybudd: Dysgwr hurt.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwenci Ddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 354
Ymunwyd: Mer 12 Medi 2007 5:13 pm
Lleoliad: Toronto

Re: "Ac o'n i fel..."

Postiogan y mab afradlon » Maw 23 Medi 2008 8:37 pm

Ie, a dyna yw'r broblem, ond'ife? Nage bod pobl ifanc yn siarad iaith wahanol i bobl canol oed, ac mae hyn yn warthus, a dylid ei stopio, eithr bod y bobl i gyd yn siarad siwd gymaint o Saesneg, mae'r gystrawen a'r geiriau Saesneg yn dod yn fwy naturiol iddynt na rhai'r Gymraeg. Sylweddolais i pwy mor wael odd yng ngymraeg i wrth ddechrau trio siarad Cymraeg dechau gyda fy mab 15mis oed, a sylweddoli mod i'n siarad rhyw rwts hanner a hanner. Ond, mewn ffordd mae'n hawdd i fi gan mod i'n magu'r crwtyn mewn ardal di-Gymraeg, felly galla'i benderfynu pwy fath o Gymraeg i siarad yn hytrach na siarad yr un iaith a'r bobl o'nghylch!
y mab afradlon
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 224
Ymunwyd: Gwe 25 Chw 2005 2:23 pm
Lleoliad: ymyl mynydd yng nghwm rhymni

Re: "Ac o'n i fel..."

Postiogan Seonaidh/Sioni » Mer 24 Medi 2008 8:32 pm

Ydy'r Saesneg wedi darfod eto? Wel, hynny ydy, ar ol y tro diwetha pan gafodd hi ei disodli gan Norseg (ond mae pobl yn dal i alw'r iaith yn Saesneg). Oherwydd mae hi wedi benthyg pentwr o eiriau o hyn ac acw ac mae hi bron amhosibl heddiw i siarad brawddeg Saesneg lle mae pob gair yn tarddu naill ai o'r Hen Saesneg neu'r Hen Norseg. Ond darfod? O na, heddiw mae'r Saesneg yn iaith ryngwladol a chryf iawn.

Dw i ddim yn credu mai benthyg geiriau ydy'r broblem. Statws ydy'r broblem. Erbyn heddiw, mae pethau wedi gwella i'r Gymraeg o ran statws - ond wedi dirywiad y ganrif ddiwetha bydd adfer yn anodd iawn. Ac, yn fy marn i, os bydd ffroenuchelion yr iaith yn barnu'r rhai sy'n defnyddio words Saesneg o bryd i'w gilydd yn or-lym, bydd yr untermensch hynny'n stopio iwsio'r Gymaeg yn gyfan gwbl. Be tisho - iaith bur y beirdd nas siaredir ond mewn eisteddfodau, ond iaith amhur y dyrfa yn lledaenu trwy'r gymdeithas?

O ie, mae na le am iaith bur ac ati - o raddau, dyna be mae'r BBC yn defnyddio yn eu newyddion Saesneg - "received pronumciation" neu "queen's english" neu rywbeth fel na. Does neb sy'n siarad Saesneg fel na - pwy sy'n malio? Be dy'r ots fel y Gymraeg bellach? Ie, rhoed hwb i'r iaith bur, e.e. ar newyddion BBC Radio Cymru ac ati, ond peidied a mynnu i bawb siarad Cymraeg fel na.
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: "Ac o'n i fel..."

Postiogan Gwenci Ddrwg » Gwe 26 Medi 2008 5:04 am

Ydy'r Saesneg wedi darfod eto? Wel, hynny ydy, ar ol y tro diwetha pan gafodd hi ei disodli gan Norseg (ond mae pobl yn dal i alw'r iaith yn Saesneg). Oherwydd mae hi wedi benthyg pentwr o eiriau o hyn ac acw ac mae hi bron amhosibl heddiw i siarad brawddeg Saesneg lle mae pob gair yn tarddu naill ai o'r Hen Saesneg neu'r Hen Norseg. Ond darfod? O na, heddiw mae'r Saesneg yn iaith ryngwladol a chryf iawn.

Jest oherwydd mae 'na un neu dau gair ym mob brawddeg sydd allan o ieithoedd arall (sef Ffrangeg), di hynny ddim yn golygu bod y sefyllfa'n hollol tebyg i sefyllfa'r Gymraeg. Ar ôl be dwi bod yn clywed rhwng pobl fan hyn, os ydy Cymraeg yn ddal cymryd cymaint o eiriau oddi wrth Saesneg bydd bron popeth ynddi yn tebyg i Saesneg. Bydd 'na rhyw tafodiaith o Saesneg efo gramadeg Celtaidd. Grêt!* Ac am dy bwynt cynta', ers faint o amser mae Saesneg di bod yn Norseg? Dwi di darllen tipyn o Hen Saesneg ac hyd yn oed heb dysgu unrhywbeth amdani dwi'n medru deall o leia' rhyw geiriau a brawddegau. Os ydy Saesneg wedi'i ddisodli gan Norseg rhaid i Norseg fod yn yr un beth!

*Yn amlwg dwi'm yn byw yng Nghymru felly dwi'm yn sicr am y sefyllfa union ond os dwi'n gallu credu rhyw pobl yn y bwnc 'ma mae hwn yn ymddangos yn rhesymeg.

Be tisho - iaith bur y beirdd nas siaredir ond mewn eisteddfodau, ond iaith amhur y dyrfa yn lledaenu trwy'r gymdeithas?

(???) Ti'n mynd i eithaf. Sdim rhaid i Gymraeg copio Saesneg i oroesi! Ti'n ymddangos i gredu bod geiriau Cymraeg yn berthyn i'r gorffennol, a geiriau Saesneg i'r dyfodol. Be sy'n ddigwydd os ti'n dweud "iaith" yn le "geiriau" (sdim ond gwahaniaeth fach)? Syniad peryglus go iawn.
Rhybudd: Dysgwr hurt.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwenci Ddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 354
Ymunwyd: Mer 12 Medi 2007 5:13 pm
Lleoliad: Toronto

Re: "Ac o'n i fel..."

Postiogan Seonaidh/Sioni » Gwe 26 Medi 2008 8:24 pm

O na, 'r hen wenci, credaf iti fy nghamddeall tipyn. Ond yn gyntaf awn ni grwydro.

Mae'r Saesneg sydd ohoni wedi dyfod o ryw fratiaith Saesneg/Norseg a arferid yn ymyl Caerlyr, o ryw ymgais gan y Saeson a'r Llychlynwyr i gyfathrebu a'i gilydd. Mae'r rhan fwyaf o'r eirfa'n gyffredin i'r ddwy iaith - anodd i ddeud ai Saesneg ai Norseg ydy hi o ran geirfa (ac, wrth gwrs, mae na lot o eiriau erbyn hyn o ieithoedd holloll wahanol...). Felly, rhaid ystyried y ramadeg. Mae trefn y frawddeg Saesneg yn union fel trefn y frawddeg Norwyeg, Daneg, Norseg - ac mae hynny tipyn yn wahanol i drefn y frawddeg Almaeneg neu Hen Saesneg. Felly, o ba iaith bynnag daeth y geiriau, roedd y bobl yn eu siarad nhw fel petaen nhw'n siarad Norseg yn hytrach na Hen Saesneg.

Dydy geiriau Cymraeg go iawn ddim yn perthyn i'r gorffennol - nid dyna ddywedais. Ond mae pob iaith yn datblygu. Hoffi te beidio, mae'r datblygiad yn cynnwys benthyg geiriau. Weithiau bydd hyn yn hollti ieithoedd - e.e. yn y Quebecois mae na air "gai" am rywun sy'n caru eraill o'r un rhyw, ond ni cheir y gair hwnnw yn Ffrangeg Ewrop. Ydy'r Ffrangeg ar farw yng Nghwebec? Efallai does dim ond rhyw fil o eiriau gwreiddiol ar ol yn yr Euskara - ond mae hi'n goroesi ac, dw i wedi clywed, yn tyfu rwan. C'mon bawb - ymarferwch eich Galdegaia...

Petaswn i'n sgwennu yn y Saesneg, swn i'm yn sgwennu yn union fel swn i'n deud (wel, efallai ar fforwm Saesneg neu mewn e-bost i ffrind, beth bynnag). Ac bydd y ffordd rwi'n siarad Saesneg ynddi yn newid o berson i berson, o sefyllfa i sefyllfa. Mae'r un yn wir am y Gymraeg, am bob iaith. Dyn ni'n defnyddio tafodiaith, bratiaith ac ati heb feddwl.

1: "We went to the eisteddfod yesterday"
2: "Cawson ni sesh fawr neithiwr"

Un peth - gwell deud, efallai "bydded i'r hen iaith ddatblygu", oherwydd heb ddatblygiad, heb barhad. Dydy hynny ddim yn golygu benthyg stwff o'r Saesneg (neu ieithoedd eraill) o reidrwydd, ddim yn golygu copio ffyrdd estron o ddeud pethau, ond bydd y ddau'n digwydd weithiau. A dyma ychydig eiriau Gaeleg i gyfieithu - dydy pethau ddim cynddrwg efo'r Gymraeg, efallai... stèisean, dràibhear, telebhisean, tidsear, pàrlamaid, poileas, priosan
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: "Ac o'n i fel..."

Postiogan Gwenci Ddrwg » Sad 27 Medi 2008 1:54 am

WARNING: Neges diflas gan geek efo gormod o amser rhydd:

Dydy geiriau Cymraeg go iawn ddim yn perthyn i'r gorffennol - nid dyna ddywedais. Ond mae pob iaith yn datblygu. Hoffi te beidio, mae'r datblygiad yn cynnwys benthyg geiriau. Weithiau bydd hyn yn hollti ieithoedd - e.e. yn y Quebecois mae na air "gai" am rywun sy'n caru eraill o'r un rhyw, ond ni cheir y gair hwnnw yn Ffrangeg Ewrop. Ydy'r Ffrangeg ar farw yng Nghwebec?

1. "Mae popeth yn newid/datblygi/ayyb" = brawddeg sy'n cael ei ddefnyddio i esgusodi bron unrhywbeth. Peth ddrwg ydy "datblygiad" yn rhai achosion. A dwi'n deall na ddwedais ti fod yr iaith yn berthyn i'r gorffennol, o leia' nid yn uniongyrchol. Ro'n i jest eisiau egluro y gallai'r ddadl 'na gyrraedd casgliad tebyg. Os oes rhaid iddynt newid yr iaith i fod yn fwy Saeson, pam dim newid i Saesneg...period?

2. Québecois: gai. Ffrangeg: gay. Dim ond gwahaniaeth ar bapur mewn gwirionedd. Yn yr achos 'na mae'r gair yng Nghuebec yn fwy tebyg i Ffrangeg "wir" (yn Ffrainc maen nhw'n defnyddio'r sillafiad Saeson). Enghraifft ddrwg, ond dwi'n deall be ti'n deud a dwi'n deall bod Québecois yn bell iawn o Ffrangeg. Ond, yn cyd destun Ewropeaidd fasen nhw'n cael eu galw yn ieithoedd wahanol (Iseldireg vs. Flemeg er enghraifft). Yr un beth ydyn nhw am rhesymau hanesiol a gwleidyddol a dim am rheswm ymarferol (dwi'n siarad am iaith y stryd yma). Felly mewn ffordd mae Ffrangeg yn farw...jest fel Lladin!

Mewn gwirionedd, gallet ti feindio cyswllt rhwng sefyllfa Ffrangeg Québecois heddiw a sefyllfa Lladin yn Ffrainc ei-hun yn 500-600 AD. Mae'r iaith ar y stryd wedi'i newid llawer, ond yr "hen iaith" ydy'r iaith swyddogol sy'n cael ei defnyddio yn cyd destun ffurfiol. Ac roedd Ffrangeg yn cael ei galw yn "Lladin" hyd yn oed blynyddoedd ar ôl iddi newid digon i fod yn iaith wahanol, ar y lefel technegol. Gan edrych ar Québec, ti'n edrych ar Ffrainc yn 500 AD.
Rhybudd: Dysgwr hurt.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwenci Ddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 354
Ymunwyd: Mer 12 Medi 2007 5:13 pm
Lleoliad: Toronto

Re: "Ac o'n i fel..."

Postiogan Hazel » Sad 27 Medi 2008 11:31 am

Gwenci Ddrwg a ddywedodd: Os oes rhaid iddynt newid yr iaith i fod yn fwy Saeson, pam dim newid i Saesneg...period?


Da iawn! Cwestiwn da! Cytunaf! Sut dach chi, Gwenci?
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

Re: "Ac o'n i fel..."

Postiogan Seonaidh/Sioni » Sad 27 Medi 2008 5:53 pm

falle rhaid newid y Saesneg i fod yn fwy Cymraeg...
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: "Ac o'n i fel..."

Postiogan Gwenci Ddrwg » Sad 27 Medi 2008 7:02 pm

Da iawn! Cwestiwn da! Cytunaf! Sut dach chi, Gwenci?

Sut dwi, neu pam dwi? Dyna cwestiwn...*meddwl yn ddifrif*

falle rhaid newid y Saesneg i fod yn fwy Cymraeg...

Am I in agreeing is idea cool would be that, but would be people in your killing you, would be you in trying. Not idea practical is it. :D
Rhybudd: Dysgwr hurt.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwenci Ddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 354
Ymunwyd: Mer 12 Medi 2007 5:13 pm
Lleoliad: Toronto

Nôl

Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 24 gwestai