"Ac o'n i fel..."

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: "Ac o'n i fel..."

Postiogan Hazel » Maw 02 Medi 2008 9:42 pm

Diddorol. Mae "dig it" yn cael ei ddefnydd yn UDA i ddweud "understand?". Gwn i bod teledu Americaniad yn cael llawer o ddylanwad. Dim ond rhyfeddu os ydy rhwyfaint ohono'n dod o rywle arall.
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

Re: "Ac o'n i fel..."

Postiogan sian » Maw 16 Medi 2008 10:15 pm

Welodd rhywun Taro 9 heno - Caryl Parri Jones yn trafod dirywiad yn iaith plant - roedd y "fel" 'ma yn un o'r pethau roedd hi'n sôn amdano.
Darlun digalon.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: "Ac o'n i fel..."

Postiogan Gwenci Ddrwg » Mer 17 Medi 2008 12:35 am

"Ac o'n i fel _____" Ie, rydyn ni wedi bod ei chlywed hi ers flynyddoedd yn America. Hefyd, mae 'na brawddegau sy'n mewnosod "you know". "I am going, y'know, to, y'know, Ireland yfory, y'know." Wedyn, cyfuno'r ddwy? "I was like, y'know, scared."

Iawn ond mae hynny'n naturiol yn Saesneg Americanaidd, dwi jest ddim yn hoffi ei glywed ym mhob man arall. Nid problem di bratiaith yn gyffredinol, jest pan mae bratiaith lleol yn goresgyn lleoedd (ac ieithoedd) arall, sy'n colli eu hunaniaeth.

Mae pob dafodiaith yn cynnwys "argot" lleol, ond fel rheol maen nhw'n dal fod yn leol. Fan hon weithiau mae pobl yn deud "eh?" (neu "han?" yn Ffrangeg) yn le y "y'know" Americanaidd (I'm going to Ireland eh?/Ch'vais en Ireland han?), ac yn dechnegol mae hwn yn "anghywir" hefyd. Bratiaith di hwn, ond dim problem, oherwydd mae o'n brodorol i Ganada. Ond 'sai pawb yn ddefnyddio bratiaith Americanaidd fel "y'all" neu "varmint", sai hynny'n broblem diwylliannol (ac mae hwn yn digwydd, credwch fi).

Mae'n dod o hen ferf Gwyddeleg (Gaeleg = "tuigsinn") yn golygu "deall", felly "twig", "dig" ("twig" o'r ffurf Aeleg, "dig" o'r ffurf Wyddeleg)

Waw o'n i'm yn gwybod, cwl! Hefyd, di pobl yn deud "smashing!" ym Mhrydain neu jest yn yr UDA? (am Ganada, dwi heb ei glywed un adeg yma).

Ac mae na waeth bethau byth - wedi clywad fod rhai Saeson - ac Albanwyr hefyd - yn galw eu rhieni yn "Mam" a "Dad", a hen-rieni yn "Nan" a "Dai". O ble, tybed?

Mam a Dad? Be termau arall oes 'na iddynt? Papa a mama neu rhywbeth? (Sori, Canadaidd anwybodus yma)

O na ! :ofn: Dwi'n clywed hyn bob dydd, yn enwedig yng nghwmni rhai yn eu harddegau! Hefyd ar y newyddion pan mae plant [ yn arbennig] yn cael eu cyfweld ar stori newyddion.
" It was like ..... :drwg: , then I kind of like.... :drwg: da da da .....

O leia maen nhw'n siarad Saesneg eisoes, sen nhw'n deud styff tebyg i hynny yn Ffrangeg Ganadaidd (Chu comme...trop crevé! C'étsait comme...vachema fun han?) 'sai hynny'n lawer gwaeth. Sut bynnag dwi'm yn amau o gwbl bod nhw'n gwneud hynny, os dwi'n nabod y Québécois. 8)
Rhybudd: Dysgwr hurt.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwenci Ddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 354
Ymunwyd: Mer 12 Medi 2007 5:13 pm
Lleoliad: Toronto

Re: "Ac o'n i fel..."

Postiogan Seonaidh/Sioni » Mer 17 Medi 2008 6:34 pm

Aeneas Olc (wel, Ddrwg Wenci),
'S math sin - Gaeleg, fel y gwyddost, ac yn cael ei ddefnyddio ymhobman yn Lloegr. Mae'n boblogaidd iawn ar Lannau Tain (Castellnewydd/An Caisteal Nuadh a Phenrafr/Gateshead), a dyna lle ti'n clywed "mam" yn bur aml hefyd. Mae "dad" yn gyffredin yn Lloegr ac yn yr Alban - dyna be mae mab i yn ngalw i, a'i fam o'n "mam" (brodores o Fife ydy hi, gyda llaw). Ond yn Ne a Chanolbarth Lloegr maen nhw'n deud "mum" (naill ai "mwm/mom" yn ymyl Birmingham neu "mym" yn ymyl Llundain). Ac yn Fife maen nhw'n deud "dai" am tadcu/taid - dim yn debyg i'r Aeleg (seanair) o gwbl. Mae "nan" yn ddigon poblogaidd am nain/mamgu ymhob rhan o Loegr a'r Alban.
Ydy "varmint" yn UDAaidd? Ro'n i'n meddwl y daeth "varmint" o Dde-Orllewin Lloegr, ond dwnim.
O leiaf dydn nhw ddim yn dweud "y'know" yn aml yn Fife - maen nhw wastad yn deud "ken?" "I was going doon the road, ken, when I saw the Beast, ken."
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: "Ac o'n i fel..."

Postiogan Duw » Mer 17 Medi 2008 8:16 pm

i
Seonaidh/Sioni a ddywedodd: Mae "nan" yn ddigon poblogaidd am nain/mamgu ymhob rhan o Loegr a'r Alban.


"nan"/"nain" am famgu, nid o'r Rhufeiniaid yw hyn? Mewn Eidaleg - "nonna"? A dyna tardd "nun" (lleian) hefyd?
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: "Ac o'n i fel..."

Postiogan Gwenci Ddrwg » Sad 20 Medi 2008 4:51 am

Ydy "varmint" yn UDAaidd? Ro'n i'n meddwl y daeth "varmint" o Dde-Orllewin Lloegr, ond dwnim.

Daeth y cynta' Americanaidd o'r ardal 'na (y Pilgrims ac ati), felly nid cyd-ddigwyddiad di o os oes 'na rhyw lefel o debygrwydd rhwng dafodieithoedd. Sut bynnag fel arfer yn Nghanada mae pobl yn son am y gair fel enghraifft arferol o fratiaith Americanaidd oherwydd dio'm yn cael ei ddeud yma o gwbl (mae pawb di clywed am y term, efallai diolch i ein hen ffrind Yosemite Sam). :rolio:

Ond yn Ne a Chanolbarth Lloegr maen nhw'n deud "mum"

Swnio fel y term sy'n cael ei ddeud fan hyn weithiau. Dwi'n galw fy mam yn "mum" ond yn araf mae "mom" (y fersiwn Americanaidd) yn dyfod yn fwy poblogaidd. Gormod o jociau efo "YOU'RE MOM!!111!!!". Eniwe dwi'm yn gofalu am be sy'n digwydd i Saesneg Canadaidd, neu i Saesneg yn gyffredinol felly di'r newid ddim yn fy mhryderu gormod. 8)

"nan"/"nain" am famgu, nid o'r Rhufeiniaid yw hyn? Mewn Eidaleg - "nonna"?

"Mater" yn Lladin, dim tebygrwydd amlwg, ond efallai roedd y gair anffurfiol yn gwahanol hyd yn oed yn ystod y feddiannaeth Rhufeinaidd. Dwi'n gwybod mae rhywbeth fel "nonna" ydy o yn Romania (wedi tyfu efo nhw yn ysgol), ac yr iaith fodern y fwyaf tebyg i Ladin ydy hi. Efallai ti'n iawn...
Rhybudd: Dysgwr hurt.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwenci Ddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 354
Ymunwyd: Mer 12 Medi 2007 5:13 pm
Lleoliad: Toronto

Re: "Ac o'n i fel..."

Postiogan Jon Bon Jela » Sad 20 Medi 2008 4:08 pm

sian a ddywedodd:Welodd rhywun Taro 9 heno - Caryl Parri Jones yn trafod dirywiad yn iaith plant - roedd y "fel" 'ma yn un o'r pethau roedd hi'n sôn amdano.
Darlun digalon.


A phwy yw hi i farnu safon iaith pobl eraill? Bob tro dwi'n ei chlywed hi ar y radio neu ar y teledu, mae ei Chymraeg yn frith o fratiaith a chystrawen Saesneg. Ac onid safon iaith erchyll pobl ifanc â'i hysbrydolodd i greu cymeriad Delyth?

Weles i mo'r rhaglen ond pot, kettle etc...
Blas-for-me, Blas-for-you, blas-for-everybody-in-the-room!
Rhithffurf defnyddiwr
Jon Bon Jela
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 884
Ymunwyd: Iau 29 Medi 2005 8:51 pm
Lleoliad: Fyny fama

Re: "Ac o'n i fel..."

Postiogan Seonaidh/Sioni » Sad 20 Medi 2008 9:03 pm

Wel, rhaid cyfaddef nad w i m yn gyfarwydd a Charol Harrison Johnson. Ai gwir iddo iwsio ecspresions Saesneg yn bur aml a'r focab hefyd? Swn i'n hetio clywed hynny. Yna mae rhy llawer o hynny sort o beth rwan y dyddiau... Ond be sy'n well, cael i rywun ddefnyddio rhyw fratiaith o Gymraeg efo phentwr o Seisnigeiddio ynddi, neu gael iddyn nhw ddefnyddio Saesneg?
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: "Ac o'n i fel..."

Postiogan Kez » Sad 20 Medi 2008 9:36 pm

Ffilu diall odw i pam bo pobol yn pigo ar iaith y to ifanc - ma'n well o lawar na'r hen bobol sy'n ffilu rhoi dwy frawddeg at ei gilydd heb fyta geiria, colli poer a'i cholli hi'n gyfangwbwl yn y pen cyn cal brawddeg mas - ma pob iaith yn newid ond ma'n well bod hi'n newid cyn bod y ffycin alzheimers yn cico miwn. Gad lonydd iddyn nhw - nhw yw'r dyfodol a sim ffyc all o iws lladd arnyn nhw.
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: "Ac o'n i fel..."

Postiogan Aderyn Coch » Sad 20 Medi 2008 10:21 pm

Yn fy marn i, mae "fel" yn gywir os ydy'r bobl yn ei ddefnyddio. Pwy sy'n gallu dweud beth sy'n gywir ac anghywir? Faint o siaradwyr brodorol sy'n defnyddio geiriau Saesneg?
Mae'n uwch na 9000!
Rhithffurf defnyddiwr
Aderyn Coch
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 18
Ymunwyd: Gwe 19 Medi 2008 7:46 pm
Lleoliad: Lerpwl/Cilgwri

NôlNesaf

Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron