*JBJ ar ei focs sebon*
Oes rhywun arall yn CASAU a/neu yn cael eu dychryn gan bobl ifanc (yn gyffredinol o dan 30, ond rhai oedolion hefyd, gwaetha'r modd) sy'n gorfod defnyddio cyfieithiad lletchwith "Ac o'n i fel ___________________ [* gosodir emosiwn, dyfyniad etc yn y bwlch]" i ddisgrifio profiad neu sefyllfa? Gwn mai dylanwad teledu Amercaniadd ar Saesneg Prydain, a'r effaith osmotaidd ieithyddol ar y Gymraeg sy'n peri hyn, ond mae'n sioc ac yn syndod darganfod bod y ffordd hon o siarad yn gymaint o norm erbyn hyn.
Beth sy'n bod ar ddweud "O'n i ddim yn ei ddeall e" yn lle "O'n i fel 'Okaaaaaaaaaaaaay" neu ddweud "Doedd hi ddim yn cytuno" yn lle "Ac o'dd hi fel 'naaaa no way sai'n neud hwnna!'"
"Ac o'n i fel", wir! Naill ai eich bod chi neu nad ydych chi, os yw hynny'n gwneud synnwyr.
Beth yw barn fy nghyd-ffasgwyr gramadegol crachysgolheigaidd y maes?