Cymedrolwr: Gwen
"Ac o'n i fel _____" Ie, rydyn ni wedi bod ei chlywed hi ers flynyddoedd yn America. Hefyd, mae 'na brawddegau sy'n mewnosod "you know". "I am going, y'know, to, y'know, Ireland yfory, y'know." Wedyn, cyfuno'r ddwy? "I was like, y'know, scared."
Mae'n dod o hen ferf Gwyddeleg (Gaeleg = "tuigsinn") yn golygu "deall", felly "twig", "dig" ("twig" o'r ffurf Aeleg, "dig" o'r ffurf Wyddeleg)
Ac mae na waeth bethau byth - wedi clywad fod rhai Saeson - ac Albanwyr hefyd - yn galw eu rhieni yn "Mam" a "Dad", a hen-rieni yn "Nan" a "Dai". O ble, tybed?
O na ! Dwi'n clywed hyn bob dydd, yn enwedig yng nghwmni rhai yn eu harddegau! Hefyd ar y newyddion pan mae plant [ yn arbennig] yn cael eu cyfweld ar stori newyddion.
" It was like ..... , then I kind of like.... da da da .....
Seonaidh/Sioni a ddywedodd: Mae "nan" yn ddigon poblogaidd am nain/mamgu ymhob rhan o Loegr a'r Alban.
Ydy "varmint" yn UDAaidd? Ro'n i'n meddwl y daeth "varmint" o Dde-Orllewin Lloegr, ond dwnim.
Ond yn Ne a Chanolbarth Lloegr maen nhw'n deud "mum"
"nan"/"nain" am famgu, nid o'r Rhufeiniaid yw hyn? Mewn Eidaleg - "nonna"?
sian a ddywedodd:Welodd rhywun Taro 9 heno - Caryl Parri Jones yn trafod dirywiad yn iaith plant - roedd y "fel" 'ma yn un o'r pethau roedd hi'n sôn amdano.
Darlun digalon.
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 28 gwestai