gafodd, gath, gaeth, gas gæth

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: gafodd, gath, gaeth, gas gæth

Postiogan sian » Sad 06 Medi 2008 6:46 pm

Duw a ddywedodd:Sori, wrth ddarllen post y Mab, sylwes ein bod ni'n defnyddio geirie eraill hefyd:

Geles
Gelest
Gelodd
Gelon
Geloch
Gelon

Dyma aelodau llwyth Rhosaman (rhwng Brynaman a Chwmllynfell), neu "Plant Mari" fel rydym yn eu galw. Edrych i mi ei fod yn "Cael" + diwedd arferol berfau.


Aha - dw i'n cofio rhai pobl yn dweud hynny.
Hefyd, pan o'n i yn yr ysgol - ysgol fach dwi'n meddwl, roedd rhai plant yn dweud:
Geuthes i
Geuthest ti ??
Geuthodd e
achos roedd
Geuthon ni
Geuthoch chi
Geuthon nhw yn rheolaidd.

Dw i'n ddim yn gwbod ydyn nhw'n dal i ddweud hynny ar ôl tyfu.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: gafodd, gath, gaeth, gas gæth

Postiogan Kez » Sad 06 Medi 2008 7:31 pm

Duw a ddywedodd:Sori, wrth ddarllen post y Mab, sylwes ein bod ni'n defnyddio geirie eraill hefyd:

Geles
Gelest
Gelodd
Gelon
Geloch
Gelon

Dyma aelodau llwyth Rhosaman (rhwng Brynaman a Chwmllynfell), neu "Plant Mari" fel rydym yn eu galw. Edrych i mi ei fod yn "Cael" + diwedd arferol berfau.


Wi eriod wedi dod ar draws y ffurfiau 'na, ond ma' ffurfiau eraill sy'n reit debyg ond ag ystyr wahanol iddyn nhw:

gelswn i
gelsat ti
gelsa fe
gelsan ni
gelsach chi
gelsan nhw

gelsa fe glowt tsa fe'n siarad a fi fel 'na - he'd get a clout if he talked to me like that.
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: gafodd, gath, gaeth, gas gæth

Postiogan sian » Sad 06 Medi 2008 7:50 pm

Kez, dw i'n gweld mai "gas" ti'n sgrifennu ar y blog. Shwt ti'n weud e "gas" (i odli gyda tas a mas) neu "gæs" (tebycach i "e" fel yn Aberdær)?
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: gafodd, gath, gaeth, gas gæth

Postiogan Seonaidh/Sioni » Sad 06 Medi 2008 7:55 pm

Yn ol Stephen J. Williams, cafodd, cadd, cafas, cas. Swn i'n credu y daeth "caeth" o'r ffurfiau "aeth", "gwnaeth" a "daeth" fel camgymeriad. Bydd y ffurfiau yn "cel-" (gel-) o beathau fel "gwneler", "delo", "elent" ac ati. Ond, camgymeriad neu beidio yn wreiddiol, mae'r ffurfiau yn bodoli rwan.
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: gafodd, gath, gaeth, gas gæth

Postiogan sian » Sad 06 Medi 2008 8:03 pm

Seonaidh/Sioni a ddywedodd:Yn ol Stephen J. Williams, cafodd, cadd, cafas, cas. Swn i'n credu y daeth "caeth" o'r ffurfiau "aeth", "gwnaeth" a "daeth" fel camgymeriad.


Ie, ac mae llyfrau eraill yn rhoi "cath" ac un yn rhoi "cesodd" (Sir Benfro) hefyd.

Dyna dw i'n feddwl hefyd. Dw i'n deall pam y byddai pobl yn sgrifennu "caeth" - yn meddwl ei fod yn iawn - ond does gen i ddim cof i mi glywed neb yn dweud "caeth".
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: gafodd, gath, gaeth, gas gæth

Postiogan Kez » Sad 06 Medi 2008 8:48 pm

sian a ddywedodd:Kez, dw i'n gweld mai "gas" ti'n sgrifennu ar y blog. Shwt ti'n weud e "gas" (i odli gyda tas a mas) neu "gæth" (tebycach i "e" fel yn Aberdær)?


Erbyn hyn, 'gas' 'swn i'n ei weud fwya o bell ffordd - ma'r ynganiad 'e' yn cripo i mewn o bryd i'w gilydd ond fyswn i ddim yn meddwl ei fod e'n beth cyffredin.
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: gafodd, gath, gaeth, gas gæth

Postiogan y mab afradlon » Sul 07 Medi 2008 5:23 pm

sian a ddywedodd:
Efallai y galli di esbonio gan dy fod ti'n ymwneud â dysgwyr - ai rhan o "Cymraeg Byw" yw e?
Aeth y ddadl ymlaen i sôn am jips wedyn - falle wna i ddachre edefyn arall am hynny.


Dysgu o'r llyfr 'Dosbarth nos' o'n i - Cafodd e / hi sy yn hwnnw wy'n credu.
y mab afradlon
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 224
Ymunwyd: Gwe 25 Chw 2005 2:23 pm
Lleoliad: ymyl mynydd yng nghwm rhymni

Nôl

Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 29 gwestai