Dw i wedi cael fy hunan mewn strach ar wefan arall ynglŷn â gwahanol ffyrdd o ddweud y gair "cafodd" mewn brawddeg fel "Cafodd John wyliau braf".
Beth fysech chi'n ddweud yn naturiol?:
1) Cafodd/gafodd John wyliau braf
2) Gath John wyliau braf
3) Gaeth John wyliau braf (gaeth yn odli gyda "maeth")
4) Gas John wyliau braf
5) Gæs John wyliau braf - (hynny yw sŵn e- fel sy yn ne ddwyrain Cymru)
Hefyd, o ba ardal y'ch chi'n dod, a oedd eich rhieni'n siarad Cymraeg â chi pan oeddech chi'n fach, ai wedi dysgu Cymraeg fel oedolyn ydych chi, ai mewn ysgol Gymraeg mewn ardal Saesneg fuoch chi?
Diolch!