Tships 'ta Sglodion?

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Tships 'ta Sglodion?

Postiogan sian » Sad 06 Medi 2008 7:47 pm

1) Beth y'ch chi'n ddweud wrth siarad yn naturiol gyda'ch teulu a'ch ffrindiau - tships (chips) 'ta sglodion?
a) Tships bob amser
b) Sglodion / sglods bob amser
c) Dibynnu â pwy dw i'n siarad

2) Os ydych chi'n dweud "tships", ydych chi'n ei dreiglo i "jips" - "sosban jips", "brechdan jips", "siop jips"?
a) Ydw
b) Na

3) Os ydych chi'n dweud "sglodion/sglods", lle ddysgoch chi?
a) Gartref
b) Yn yr ysgol
c) Penderfynu dechrau ei ddweud fel oedolyn

4) O ba ardal ydych chi'n dod - yn fras?
5) Ai wedi dysgu Cymraeg fel oedolyn ydych chi?
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Tships 'ta Sglodion?

Postiogan Manon » Sad 06 Medi 2008 8:05 pm

Chips, ac yn treiglo i jips. (Er, yn fy mhen i, 'tships' ydyn nhw 'fyd!)

Y bych (3 oed) wedi deud yn ddiweddar bod o isho tships. "be w't tisho efo nhw?" "Sglodion. :lol:

(Rel ei fam) :rolio:
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Re: Tships 'ta Sglodion?

Postiogan sian » Sad 06 Medi 2008 8:12 pm

Hi, hi - swnio fel un hyna fi pan oedd e'n fach.

Gyda llaw - dw i ddim eisiau i hyn droi'n ddadl am be ddylai rhywun ddweud - jest eisiau gwybod be mae pobl yn ei ddweud go iawn.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Tships 'ta Sglodion?

Postiogan Duw » Sad 06 Medi 2008 9:08 pm

Wastod tships ac fel cafodd ei ddweud eisoes, treiglo i jips, e.e. cer a dy jips o ma!
Roedd dad a mamgu yn gweld "tsh" yn estron ac yn mynnu ar 'ships', e.e. "wyt ti mo'yn shipen 'da hwnna?"
Ardal Brynaman/Cwmllynfell.
Er yn gwybod y term sglodion, trigolion yr ardal byth yn ei ddefnyddio.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Tships 'ta Sglodion?

Postiogan Hogyn o Rachub » Sul 07 Medi 2008 8:58 am

sian a ddywedodd:1) Beth y'ch chi'n ddweud wrth siarad yn naturiol gyda'ch teulu a'ch ffrindiau - tships (chips) 'ta sglodion?
a) Tships bob amser
b) Sglodion / sglods bob amser
c) Dibynnu â pwy dw i'n siarad


Dibynnu faint mor naturiol dwi'n siarad, a) felly

2) Os ydych chi'n dweud "tships", ydych chi'n ei dreiglo i "jips" - "sosban jips", "brechdan jips", "siop jips"?
a) Ydw
b) Na


Bob tro

3) Os ydych chi'n dweud "sglodion/sglods", lle ddysgoch chi?
a) Gartref
b) Yn yr ysgol
c) Penderfynu dechrau ei ddweud fel oedolyn


Dwi'm yn gwybod - fwy na thebyg ysgol.

4) O ba ardal ydych chi'n dod - yn fras?
5) Ai wedi dysgu Cymraeg fel oedolyn ydych chi?


Gogledd-orllewin a na
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Tships 'ta Sglodion?

Postiogan ap Dafydd » Sul 07 Medi 2008 6:45 pm

sian a ddywedodd:1) Beth y'ch chi'n ddweud wrth siarad yn naturiol gyda'ch teulu a'ch ffrindiau - tships (chips) 'ta sglodion?


Sglods

3) Os ydych chi'n dweud "sglodion/sglods", lle ddysgoch chi?


fel oedolyn

4) O ba ardal ydych chi'n dod - yn fras?


Baglan

5) Ai wedi dysgu Cymraeg fel oedolyn ydych chi?


Dechreuais yn yr ysgol, ond nid i lefel O (roedd y Welsh Not yn rheoli o hyd yn Aberafan yn y 70au) - des nol i ddysgu yn oedolyn.

hwyl

Ffred
O Benryn wleth hyd Luch Reon
Cymru yn unfryd gerhyd Wrion
Gwret dy Cymry yghymeiri
ap Dafydd
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 40
Ymunwyd: Sad 24 Maw 2007 11:26 pm
Lleoliad: Llansamlet

Re: Tships 'ta Sglodion?

Postiogan Ray Diota » Sul 07 Medi 2008 8:01 pm

chips, gyda treiglad i jips... gas da fi'r sillafiad 'tsh' neu 'ts' fel yn tsieina, fydde well da fi jyst sgwennu chips a china, dwi'n meddwl. gair da yw sglodion, cofiwch...
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Tships 'ta Sglodion?

Postiogan sian » Maw 09 Medi 2008 7:49 am

Rhywun arall?
Mae'r ymatebion hyd yma yn cadarnhau beth o'n i'n feddwl ond byse'n braf cael cwpwl eto.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Tships 'ta Sglodion?

Postiogan Tracsiwt Gwyrdd » Maw 09 Medi 2008 8:21 am

Ray Diota a ddywedodd:chips, gyda treiglad i jips... gas da fi'r sillafiad 'tsh' neu 'ts' fel yn tsieina


a fi. dwi'm yn licio sglodion na sglods chwaith, tasa'i 'n dod i hynny, bach yn ponsi rywsut. ond 'swn i byth yn deud "ffish and chips", jyst chips.
Rhithffurf defnyddiwr
Tracsiwt Gwyrdd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1581
Ymunwyd: Mer 20 Awst 2003 3:47 pm

Re: Tships 'ta Sglodion?

Postiogan Y Fampir Hip Hop » Maw 09 Medi 2008 10:28 am

1) Beth y'ch chi'n ddweud wrth siarad yn naturiol gyda'ch teulu a'ch ffrindiau - tships (chips) 'ta sglodion?
a) Chips bob tro - cytuno 'da Raymond ambwyti'r busnes "ts-" 'ma, wellgen i "chi-".

2) Os ydych chi'n dweud "tships", ydych chi'n ei dreiglo i "jips" - "sosban jips", "brechdan jips", "siop jips"?
a) Odw, falle ddim gyda yn yr enghraifft Siop Chips.

3) Os ydych chi'n dweud "sglodion/sglods", lle ddysgoch chi?
b) Yn yr ysgol - fel wedodd Duw gynt yn yr edefyn, s'neb rownd ffor' hyn yn gweud sglodion yn naturiol.

4) O ba ardal ydych chi'n dod - yn fras?
Abercraf, Cwmtawe Ucha'
5) Ai wedi dysgu Cymraeg fel oedolyn ydych chi?
Na.
"Never trust a man in a blue trench coat, Never drive a car when you're dead..."

|Flickr|
Rhithffurf defnyddiwr
Y Fampir Hip Hop
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1129
Ymunwyd: Iau 24 Tach 2005 4:42 pm
Lleoliad: Abercraf, Cwm Tawe Ucha'

Nesaf

Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 27 gwestai

cron