Be goblyn di cyfieithiad hwn?
Ma'r dysgu / addysgu yn codi'i ben eto...neith "Cyrisau Ôl-raddedig" y tro 'dwch? Y peth ydi ma na rai sydd yn ymchwil yn unig a heb unrhyw "ddysgu" ffurfiol ynddyn nhw.
Cymedrolwr: Gwen
Seonaidh/Sioni a ddywedodd:"Cyrsiau i'r Myfyrydd Tragywyddol o dan Reolaeth Darlithyddion", efallai...
Seonaidh/Sioni a ddywedodd:Mae'n iawn Dduw iti ofyn - rydw i'n ceisio bod yn PC. Hefyd, mae'n haws sgwennu "myfyryddion" yn lle, efallai "myfyrwyr a myfyrwragedd" a "darlithyddion" yn lle "darlithwragedd a darlithwyr". D'wn i'm am "myfyryddion" a "darlithyddion", ond mae pethau fel "ymgeisydd" yn ddigon cyffredin.
Duw a ddywedodd:Eniwei a oes rhywun wedi datrys y broblem: Taught Postgraduate Programmes??!
sian a ddywedodd:Fues i'n chwilio am hwn i ti ddechrau'r wythnos - ro'n i bron yn siwr mod i wedi gweld "trwy gwrs" am "taught" ond yn ffaelu ffindio dim.
Newydd Gwglo "trwy gwrs" ac mae 'na nifer o enghreifftiau - prifysgolion Aberystwyth ac Abertawe fwyaf. Ydi hynny'n ateb y diben?
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 42 gwestai