Oes rhywun o'r de ddwyrain yma?
Beth y'ch chi'n galw "lane" rhwng dau dŷ mewn stryd neu yn rhedeg y tu ôl i stryd o dai?
Mae "lôn" yn swnio'n rhy wledig. Beth am "llwybr"? neu a oes gair arbennig yn y de ddwyrain?
Diolch
Cymedrolwr: Gwen
Llefenni a ddywedodd:Dim o reidrwydd - allt oedd genna ni yn rhedeg o'r ty i' adeiladau fferm... Corris welwch chi, sbeshal
Lorn a ddywedodd:Sbeshal yn wir!
Ond swn i dal i ddadlau bydde rhanfwyaf o Ogleddwyr yn dweud na Hill ydy Allt, a bydde'r rhanfwyaf o Deheuwyr just meddwl "Huh?"
y mab afradlon a ddywedodd:Gwli sy'n mynd rhynt y tai, (weten i byth "llwybr") er falle taw jest er cerdded yw hynny. Falle lon, ond mae tuedd i fi feddwl am lon fel heol fach yng nghefngwlad.
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 18 gwestai