gan Gwenci Ddrwg » Sad 13 Medi 2008 11:24 pm
Ocê dwi di bod yn darllen sdyff yma ers sbel ond mae 'na rhwbeth sy'n rhoi i mi broblemau. Ddysges i y ffordd o ddeud "I see him" (er engraifft), fel "dwi'n ei weld". Sut bynnag mae bron pawb yma'n ymddangos i ddeud "dwi'n gweld fo" neu rhywbeth mwy tebyg i ramadeg Saesneg, dwi'm yn cofio'n union. Yn syml iawn, be di'r gorau? Be ddwedech chi am hyn? 'Sai hwn yn ddefnyddiol iawn i wybod, diolch!
Rhybudd: Dysgwr hurt.