Termau cyfrifiadurol

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Termau cyfrifiadurol

Postiogan Duw » Gwe 19 Medi 2008 3:25 pm

Helo pawb, wrthi'n cyfieithu pecyn Notepad++ ar hyn o bryd, ond wedi bwrw problem gyda'r canlynol:

"Close me" (e.e. cau'r ffeil gyfredol).
"Backup" / Cefn-gadw?
"Plugins" / Mewnblygion? Angen osgoi "blygwyr" (ydy'n meddwl "benders"?!)

A oes gennych syniadau ar sut i gyfleu'r uchod?

Diolch.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Termau cyfrifiadurol

Postiogan 7ennyn » Gwe 19 Medi 2008 4:47 pm

'Ategynnau' ydi 'plugins' yn Firefox. Dwi'n meddwl mai 'copi cadw' ydi'r term safonol am 'backup'. 'Swn i'n meddwl y bysa jest 'cau' yn ddigonol ar gyfer 'close me'.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
7ennyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 869
Ymunwyd: Gwe 01 Gor 2005 8:35 pm
Lleoliad: Maes Gwyddno

Re: Termau cyfrifiadurol

Postiogan sian » Gwe 19 Medi 2008 5:35 pm

Mae TermCymru'n rhoi "ategion" am "plugins" a "copi wrth gefn" am "backup" ond mae "gwneud copi wrth gefn" braidd yn hir am y ferf "to backup"
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Termau cyfrifiadurol

Postiogan huwwaters » Gwe 19 Medi 2008 5:38 pm

sian a ddywedodd:Mae TermCymru'n rhoi "ategion" am "plugins" a "copi wrth gefn" am "backup" ond mae "gwneud copi wrth gefn" braidd yn hir am y ferf "to backup"


Ategu?
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Re: Termau cyfrifiadurol

Postiogan sian » Gwe 19 Medi 2008 5:55 pm

huwwaters a ddywedodd:
sian a ddywedodd:Mae TermCymru'n rhoi "ategion" am "plugins" a "copi wrth gefn" am "backup" ond mae "gwneud copi wrth gefn" braidd yn hir am y ferf "to backup"


Ategu?


Mm! Rhy debyg i "ategyn" ("plugin")?

"Bu Canolfan Bedwyr yn ymgynghori gyda Microsoft a chwmni cyfieithu Cymen ynglŷn â'r termau cyfrifiadurol i'w defnyddio yn y cyfieithad Cymraeg o MS Windows ac MS Office.
" - oes rhestr o'r termau ar gael? Bosib bod termau sy'n cael eu defnyddio 'go iawn' yn fwy tebygol o gael eu derbyn na rhai sydd mewn rhestr eiriau.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Termau cyfrifiadurol

Postiogan Seonaidh/Sioni » Gwe 19 Medi 2008 9:41 pm

Wel, beth am "datblygiad" i "plugout"... Na, "mewnblygion" ydy rhywbeth fel "infolds" (os oes na'r fath air yn y Saesneg)
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Termau cyfrifiadurol

Postiogan Duw » Sul 21 Medi 2008 11:42 am

Diolch am y syniadau pawb, efallai gwnaf stico gydag ategyn/ategynnau (o Firefox). Rhiad i mi feddwl yn bellach ar "backup", mae angen rhywbeth syml iawn. Mae rhai o'r cyfieithiadau posibl yn rhy hir-wyntog.


Beth bynnag, dwi 3/4 ffordd trwyddi ar hyn o bryd a gwnaf bostio'r wybodaeath i'r seiad Cyfrifiaduron unwaith i mi orffen.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Termau cyfrifiadurol

Postiogan Seonaidh/Sioni » Sul 21 Medi 2008 10:50 pm

Bacypio?
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Termau cyfrifiadurol

Postiogan Duw » Llun 22 Medi 2008 1:21 am

O ti'n rhy gormod rhai weithiau Sioni :gwyrdd:
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Termau cyfrifiadurol

Postiogan Hedd Gwynfor » Llun 22 Medi 2008 8:40 am

Cefn-gopi? Copi-cefn?

Gwneud Copi-cefn?
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Nesaf

Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 47 gwestai

cron