Moyn

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Moyn

Postiogan y mab afradlon » Maw 23 Medi 2008 8:41 pm

Ni ddefnyddir yr 'yn' gyda'r gair eisiau. Hynny yw Dwi'n mynd, Dwi'n dod, Dwi eisie (chwedl y llyfrau dysgu Cymraeg)

Ydy'r un peth yn wir am moyn?

Dwi ddim yn defnyddio'r yn gyda moyn, oni bai taw 'ymofyn' sydd gyda fi.

Dwi moyn arian (Hoffen i gael arian)
Dwi'n moyn arian (Dwi off i'r banc nawr i nol bach o sbondwlis)

Ydy hynny'n iawn?

(Mae fe bach yn bwysig oherwydd mod i'n dysgu'r Gymraeg i eraill...)
y mab afradlon
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 224
Ymunwyd: Gwe 25 Chw 2005 2:23 pm
Lleoliad: ymyl mynydd yng nghwm rhymni

Re: Moyn

Postiogan sian » Maw 23 Medi 2008 8:59 pm

Er nad yw'r "n" i'w chlywed bob tro - achos bod hi mor debyg i'r "m" mae'n debyg, mae hi yno.

Briws: rwy'n mo'yn llonydd; mae hi'n mo'yn het newydd;

Hefyd, "Sai'n mo'yn mynd"
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Moyn

Postiogan y mab afradlon » Mer 24 Medi 2008 5:13 pm

Diolch Sian!
y mab afradlon
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 224
Ymunwyd: Gwe 25 Chw 2005 2:23 pm
Lleoliad: ymyl mynydd yng nghwm rhymni

Re: Moyn

Postiogan Seonaidh/Sioni » Mer 24 Medi 2008 8:37 pm

moyn - o "ymofyn" - yr wyf i yn ymofyn rhywbeth - 'fi'n moyn rhwba (beth bynnag)
eisie - o "eisiau", sy ddim yn ferf - y mae arnaf eisiau rhywbeth - dwisho rhywbe
Felly, "'Ti'n moyn paned?" => "Ydw", "Nag ydw"
ond "Tisho paned?" => "Oes", "Nac oes"
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Moyn

Postiogan Caci Mwnci » Iau 25 Medi 2008 11:33 am

Moyn ydy'r gair fydda i'n defnyddio yn lle "nol" neu fetch yn Saesneg ond yn ardaloedd eraill mae hefo'r un ystyr a "eisiau" felly mae'n dibynu ar pa tafodiaith ti'n defnyddio tybiwn i.
Caci Mwnci
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 15
Ymunwyd: Mer 05 Hyd 2005 11:54 am
Lleoliad: Bro Dysynni

Re: Moyn

Postiogan Manon » Iau 25 Medi 2008 7:07 pm

Caci Mwnci a ddywedodd:Moyn ydy'r gair fydda i'n defnyddio yn lle "nol" neu fetch yn Saesneg ond yn ardaloedd eraill mae hefo'r un ystyr a "eisiau" felly mae'n dibynu ar pa tafodiaith ti'n defnyddio tybiwn i.


A fi. Wyt ti o Feirionnydd Caci Mwnci?

"Cer i moyn afal"

'Dwi'n byw yma ers llai 'na blwyddyn a 'dwi'n siarad fel hyn- 'lodes' a bob dim 'chi :wps:
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Re: Moyn

Postiogan Y Fampir Hip Hop » Iau 25 Medi 2008 8:56 pm

Caci Mwnci a ddywedodd:Moyn ydy'r gair fydda i'n defnyddio yn lle "nol" neu fetch yn Saesneg ond yn ardaloedd eraill mae hefo'r un ystyr a "eisiau" felly mae'n dibynu ar pa tafodiaith ti'n defnyddio tybiwn i.


I fi, ma' moyn yn golygu 'want' a 'fetch' ar yr un pryd, ond fydde'n i'n defynddio'r gair 'ercyd' hefyd am 'fetch'.

e.e. 'Fi' moyn peint o Stella' am yr ystyr 'want'

a

'Cer i moyn dou beint o Stella'
'Cer i ercyd dou beint o Stella' am yr ystyr 'fetch'

Ife gair Cwmtawe yn unig yw ercyd?
"Never trust a man in a blue trench coat, Never drive a car when you're dead..."

|Flickr|
Rhithffurf defnyddiwr
Y Fampir Hip Hop
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1129
Ymunwyd: Iau 24 Tach 2005 4:42 pm
Lleoliad: Abercraf, Cwm Tawe Ucha'

Re: Moyn

Postiogan Caci Mwnci » Gwe 26 Medi 2008 11:32 am

Manon a ddywedodd:A fi. Wyt ti o Feirionnydd Caci Mwnci?

"Cer i moyn afal"

'Dwi'n byw yma ers llai 'na blwyddyn a 'dwi'n siarad fel hyn- 'lodes' a bob dim 'chi


Yndw, ardal Tywyn. Dwi'n cymeryd dy fod ti'n eitha agos i fana hefyd os wy ti'n defnyddio'r gair lodes.
Caci Mwnci
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 15
Ymunwyd: Mer 05 Hyd 2005 11:54 am
Lleoliad: Bro Dysynni

Re: Moyn

Postiogan y mab afradlon » Gwe 26 Medi 2008 1:04 pm

Y Fampir Hip Hop a ddywedodd:
Ife gair Cwmtawe yn unig yw ercyd?


Diddorol, fampir! Nagw i 'di clywed n agweld y gair 'ercyd' o'r blaen.

Ai dim ond fetch yw ei ystyr? Trio meddwl beth fydda'i darddiad. Ddefnyddiech chi ercyd pan fo dou beth yn pwno yn erbyn ei gilydd, hefyd? (hy ergyd gyda 'g' wedi caledu)
y mab afradlon
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 224
Ymunwyd: Gwe 25 Chw 2005 2:23 pm
Lleoliad: ymyl mynydd yng nghwm rhymni

Re: Moyn

Postiogan sian » Gwe 26 Medi 2008 1:31 pm

y mab afradlon a ddywedodd:
Y Fampir Hip Hop a ddywedodd:
Ife gair Cwmtawe yn unig yw ercyd?


Diddorol, fampir! Nagw i 'di clywed n agweld y gair 'ercyd' o'r blaen.

Ai dim ond fetch yw ei ystyr? Trio meddwl beth fydda'i darddiad. Ddefnyddiech chi ercyd pan fo dou beth yn pwno yn erbyn ei gilydd, hefyd? (hy ergyd gyda 'g' wedi caledu)


Mae e yn ddiddorol! Yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru, o "hercyd" mae'n dod.
"er ei gysylltu â'r gair Gwyddeleg aircim 'cynigiaf', tebygach mai amrywiad yw ar helcyd (gydag l ac r yn ymgyfnewid â'i gilydd) neu ar ergydiaf, ergyd."
Bosib bod ti'n iawn felly, mab.
Mae helcyd yn perthyn i hela ac mae'n gallu golygu hela, erlid, gyrru, anfon, cyrchu, ymofyn.
Mae hefyd yn gallu golygu llusgo neu tynnu.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Nesaf

Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron