Melys moes mwy - a alliff rhywun weud wrtho i o le ma'r gwetiad ma'n dod; ife perthyn i emyn neu ddarn o farddoniaeth yw e?
Wi'n ei weud e i olygu rhywbeth fel - the more the better - ond nath rhywun ofyn ifi beth odd e'n ei'n olygu'n llythrennol ac own i'm yn siwr beth oedd 'moes' yn ei olygu - ac wedyn dyma fi'n dychra meddwl pam own i 'n ei iwso fe yn yr ystyr 'na, gwath dyw e ddim yn gwneud lot o sens odi fe - a ody'r gwetiad yn golygu hwnna i bobol eraill?