man a man imi ofyn!

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

man a man imi ofyn!

Postiogan asuka » Gwe 10 Hyd 2008 6:13 pm

waeth i (rywun) (wneud rhywbeth)
wi'n trafod y gystrawen hon gyda dau ffrind ac mae 'na sawl peth nad ŷn ni'n deall yn ei chylch - cymint o gwestiynau fel bot hi'n anodd rhoi trefn arnyn nhw! ond dewch ifi drio…

1)
"ni waeth…" yw'r ffurf sylfaenol fan hyn, ie?
os felly, pam ni waeth yn lle nid gwaeth? h.y. pam mae'r ansoddair gwaeth fel 'sai'n cael ei drin yn ferf yma?

2)
ffordd mae'r ymadrodd yn dod i olygu be mae'n olygu?
pam gwaeth? gwaeth na beth? (na beth bynnag roedd y person yn wneud yn barod, falle?)

3)
beth am y ddim sydd i'w glywed o bryd i'w gilydd yn y gystrawen hon? (e.e. Waeth inni godi ddim.) ife dim ond dim boring arferol yw hwn, y byddet ti'n ddisgwyl gyda'r negyddol ni - neu rywbeth arall?

4)
a beth am yr opsiwn hwn a welais i mewn gramadeg (brawddeg sydd i fod i olygu'r un peth â Waeth inni drio):
Waeth inni heb na treial.
???
heb?
na?

beeee’…?

oes unrhyw oleuni 'da neb i dawlu ar y gystrawen 'ma? diolch ymlaen llaw os oes!
cỳ cỳ alw rangers!
Rhithffurf defnyddiwr
asuka
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 93
Ymunwyd: Maw 27 Chw 2007 3:02 pm
Lleoliad: ohio, u.d.a.

Re: man a man imi ofyn!

Postiogan sian » Gwe 10 Hyd 2008 7:36 pm

Mae Peter Wynn Jones yn ei drafod yn Gramadeg y Gymraeg, 6.5ch a 6.189 (mae copi 'da ti on'd oes e?) - dw i ddim yn siwr ydi e'n ateb dy holl gwestiynau di chwaith!
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: man a man imi ofyn!

Postiogan asuka » Sad 11 Hyd 2008 1:40 pm

diolch, siân! rown i 'di darllen y darnau 'na o'r blaen - ac eu hanghofio nhw'n llwyr wedyn! :wps:
hmmmm. mae'r boi yn egluro rhai pethau'n dda. diddorol. ond rwy'n rhyw deimlo bod 'na ddigon nad wy'n ei ddeall o hyd!
cỳ cỳ alw rangers!
Rhithffurf defnyddiwr
asuka
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 93
Ymunwyd: Maw 27 Chw 2007 3:02 pm
Lleoliad: ohio, u.d.a.


Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron