rwy'n cytuno, gyda llaw - "cymal-
i" o ran ffurf (ac mae PWT hefyd yn cyfrif sut gymalau'n ddosbarth o "gymalau berfernwol," rwy'n
credu).a beth am ei swyddogaeth e? on'd oes 'na dair carfan fras o is-gymalau, sef cymalau perthynol, cymalau adferfol a chymalau enwol? rwy'n gweld dwy ffordd o drin y gystawen
"y tro diwetha' iddi fod yna" o fewn y fframwaith yma, a phroblemau i'r ddwy!!
1) mae'r "iddi fod yna" yn gymal perthynol sy'n disgrifio "y tro diwetha'". (pa "dro diwetha'"? "y tro diwetha' iddi fod yna!") doji braidd, ond posib o bosib - er nad yw "iddi fod" yn edrych lawer fel unrhyw gymal perthynol mae PWT yn sôn amdano!
2) mae "y tro diwetha' iddi fod yna," y cyfan lot, yn gymal adferfol amserol sy'n disgrifio pryd y gwelais i hi. posib iawn, ond os felly beth rŷn ni i alw'r elfen "y tro diwetha'" sy'n cyflwyno'r cymal 'ma? "cysylltair"? "ymadrodd cysyllteiriol"?
sori am fynd ymlaen ac ymlaen ac ymlaen.
wi moyn dishgled. \_/7