tro diwetha "iddi"

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

tro diwetha "iddi"

Postiogan asuka » Llun 13 Hyd 2008 7:52 pm

sori - dysgholiad.
ydy'r ddwy frawddeg hyn yn gywir?:
    • Fe'i gwelais y tro diwethaf iddi fod ym Mharis.
    • Fe'i gwelais y tro diwethaf y bu hi ym Mharis.
rwy'n gwybod bod y gyntaf yn iawn (on'd yw hi?), ond ydy'r ail yn gywir hefyd? os yw'r ddwy yn gywir, oes gwaniaeth o ran ffurfioldeb?
diolch!
cỳ cỳ alw rangers!
Rhithffurf defnyddiwr
asuka
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 93
Ymunwyd: Maw 27 Chw 2007 3:02 pm
Lleoliad: ohio, u.d.a.

Re: tro diwetha "iddi"

Postiogan sian » Llun 13 Hyd 2008 8:52 pm

Alla i ddim gweld pam nad yw'r ail yn iawn hefyd.
O ran ffurfioldeb, dw i ddim yn siwr - "bu" yn ffurfiol fel arfer.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: tro diwetha "iddi"

Postiogan asuka » Llun 13 Hyd 2008 10:28 pm

diolch, siân. galla' i dderbyn bod y ddwy yn iawn!

rwy'n treio gweithio mas beth y byddai PWT yn weud am y ddwy gystrawen. beth sy'n mynd ymlaen gyda "y tro diwethaf iddo fod ym Mharis" tybed? ydy "cymal perthynol" yn cael ei sylweddoli gan "gymal berfenwol"? :ofn:
rhaid ifi fynd i orwedd i lawr gyda drinc oer...
cỳ cỳ alw rangers!
Rhithffurf defnyddiwr
asuka
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 93
Ymunwyd: Maw 27 Chw 2007 3:02 pm
Lleoliad: ohio, u.d.a.

Re: tro diwetha "iddi"

Postiogan sian » Llun 13 Hyd 2008 10:35 pm

Hyd y gwela i, "Cymalau i" mae PWT yn galw'r rhain ac mae'n dweud eu bod nhw'n hynod am mai dibeniad yr i gyflwynol sy'n cyfleu eu goddrych rhesymegol a'u bod yn gyfwerth â chymal bod gorffenedig! (6.93)
Hynod iawn, meddwn i :D
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: tro diwetha "iddi"

Postiogan asuka » Llun 13 Hyd 2008 11:52 pm

hynod, ie - mae lot o bennod 6 yn hynod... o annealladwy! golygydd da sy angen fan'na :D
cỳ cỳ alw rangers!
Rhithffurf defnyddiwr
asuka
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 93
Ymunwyd: Maw 27 Chw 2007 3:02 pm
Lleoliad: ohio, u.d.a.

Re: tro diwetha "iddi"

Postiogan asuka » Maw 14 Hyd 2008 3:58 pm

rwy'n cytuno, gyda llaw - "cymal-i" o ran ffurf (ac mae PWT hefyd yn cyfrif sut gymalau'n ddosbarth o "gymalau berfernwol," rwy'n credu).
a beth am ei swyddogaeth e? on'd oes 'na dair carfan fras o is-gymalau, sef cymalau perthynol, cymalau adferfol a chymalau enwol? rwy'n gweld dwy ffordd o drin y gystawen "y tro diwetha' iddi fod yna" o fewn y fframwaith yma, a phroblemau i'r ddwy!!
    1) mae'r "iddi fod yna" yn gymal perthynol sy'n disgrifio "y tro diwetha'". (pa "dro diwetha'"? "y tro diwetha' iddi fod yna!") doji braidd, ond posib o bosib - er nad yw "iddi fod" yn edrych lawer fel unrhyw gymal perthynol mae PWT yn sôn amdano!
    2) mae "y tro diwetha' iddi fod yna," y cyfan lot, yn gymal adferfol amserol sy'n disgrifio pryd y gwelais i hi. posib iawn, ond os felly beth rŷn ni i alw'r elfen "y tro diwetha'" sy'n cyflwyno'r cymal 'ma? "cysylltair"? "ymadrodd cysyllteiriol"? :ofn:
sori am fynd ymlaen ac ymlaen ac ymlaen.
wi moyn dishgled. \_/7
cỳ cỳ alw rangers!
Rhithffurf defnyddiwr
asuka
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 93
Ymunwyd: Maw 27 Chw 2007 3:02 pm
Lleoliad: ohio, u.d.a.


Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 12 gwestai

cron