Mai vs. Taw

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Mae vs. Taw

Postiogan sian » Iau 16 Hyd 2008 12:11 pm

Caci Mwnci a ddywedodd:Mae 'na gair arall all cael ei ddefnyddio yn lle "mai" neu "taw" sef "na".

Ti'n iawn. Gogledd orllewin? Ai peth cymharol ddiweddar yw e?
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Mae vs. Taw

Postiogan Ray Diota » Iau 16 Hyd 2008 1:00 pm

gewn ni newid y teitl?? mai mai mai

sori...
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Mae vs. Taw

Postiogan sian » Iau 16 Hyd 2008 1:06 pm

Ray Diota a ddywedodd:gewn ni newid y teitl?? mai mai mai

sori...

I ti? Unrhyw beth.
xx
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Mae vs. Taw

Postiogan Ray Diota » Iau 16 Hyd 2008 1:17 pm

sian a ddywedodd:
Ray Diota a ddywedodd:gewn ni newid y teitl?? mai mai mai

sori...

I ti? Unrhyw beth.
xx

:wps:
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Mai vs. Taw

Postiogan Gwenci Ddrwg » Iau 16 Hyd 2008 9:36 pm

"Dwi'n meddwl mai/taw (rhywbeth) ydy (rhywbeth)"

Digon o wybodaeth, diolch!

I ti? Unrhyw beth. xx

Gormod o wybodaeth.

mai mai mai

Ocê ond na cwynwch amdana i, sgrifennes i be dwi di bod yn gweld ar y negesfwrdd yn ddiweddar. Yn amlwg nid yr unig un i neud y gwall dw i. :D
Rhybudd: Dysgwr hurt.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwenci Ddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 354
Ymunwyd: Mer 12 Medi 2007 5:13 pm
Lleoliad: Toronto

Re: Mai vs. Taw

Postiogan Duw » Gwe 17 Hyd 2008 12:39 pm

Newid 'mae' i 'mai'. Dylen fod wedi newid hwnna i taw hefyd! Taw vs. taw. Stim eisie 'mai' o gwbl - affectation snobyddlyd! Mwmbwl mwmbwl mwmbwl....
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Mae vs. Taw

Postiogan Kez » Gwe 17 Hyd 2008 2:40 pm

Duw a ddywedodd:
sian a ddywedodd:PWT: "Mae blas tafodieithol deheuol ar "taw" ... (a) tueddir i'w ystyried yn ansafonol."

Ydy popeth sy'n cael ei ddefnyddio yn y de'n ansafonol? Dwi'n ffed yp wir o glywed hyn. Gogs yn cael defnyddio 'ydi' ond hwntws ddim yn cael defnyddio 'taw'. Dwi'n clywed y cont gwirion Cen Williams yn brolio, "Mae deud yn dderbyniol ond nid oes modd defnyddio gweud." Efallai bod hwnna'n ddigon teg, ond aeth ymlaen i gynnig rhyw ucen enghraifft arall. Sticen i galwn o woblyn lawr ei gorn gwddwg y fflaren shwd yw e.

Wi'n ffilu diall pam bo taw yn ansafonol 'chwaith. Mae'n debyg bod Sian yn iawn a rhywbeth i wneud a'r Esgob William Morgan yw e. Er hynny, own i o dan yr argraff bod llaeth yn fwy derbyniol na llefrith ac allwedd yn well na'r gair goriad wrth ysgrifennu, felly mae'r hwntws yn ennill weithiau sbo - ond dim lot :x
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Mae vs. Taw

Postiogan ceribethlem » Gwe 17 Hyd 2008 3:16 pm

Kez a ddywedodd:

Paid ag anghofio fflio a hedfan 'chan.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Mae vs. Taw

Postiogan Kez » Gwe 17 Hyd 2008 4:04 pm

ceribethlem a ddywedodd:

Paid ag anghofio fflio a hedfan 'chan.

Ti’n iawn Ceri – wn i’m shwt anghofias i hwnna.

Buas i’n cystadlu mewn ‘steddfod dafarn unwaith yn y gystadleuaeth ‘ma lle ti fod i greu brawddeg yn dychra a’r un llythyren ac er cystlad fy nghynnig i a oedd yn mynd rhywbeth fel cachoddd cefyll cefn coch cas cocwyllt ac yn y blan – pwy enillws ond rhyw gont o Benrhyndeudraeth gyda ffliodd fflach fflamgoch ffyrnig o ffwrch Fflur. Ennill nath e er gwaetha'r ffaith iddo fe dorri ar y frawddeg trwy roi o i mewn a bod fflio yn ansafonol ac mae ffwrch yn air deheuol a’r wn i – ond does obaith ennill pan fo’r beirniaid a’r hoelion wyth i gyd yn byw ar bwys Penrhyndeudraeth ymhob ffycin cystadleuaeth :crio:
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Nôl

Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 38 gwestai

cron