Mai vs. Taw

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Mai vs. Taw

Postiogan Gwenci Ddrwg » Mer 15 Hyd 2008 1:28 am

Yn yr un trywydd na fy nghwestiwn dwl diweddaf, hoffwn loywi gwahaniaeth rhwng dau ffordd o ddeud mwy neu llai yr un beth. Heb ddisgrifio mwy na angenrheidiol:

"Dwi'n meddwl taw (rhywbeth) ydy (rhywbeth)"

"Dwi'n meddwl mae (rhywbeth) ydy (rhywbeth)"

Maen nhw'n edrych fel maen nhw'n cyflawni'r un beth yn ramadegol. Fel arfer, dwi di dysgu yr un (sef y cyntaf) heb glywed dim byd am yr arall. Tybiwn i fod yr ail yn cael ei ddefnyddio yn sefyllfa mwy anffurfiol ond gyda llaw hoffwn gadarnhad.
Rhybudd: Dysgwr hurt.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwenci Ddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 354
Ymunwyd: Mer 12 Medi 2007 5:13 pm
Lleoliad: Toronto

Re: Mae vs. Taw

Postiogan sian » Mer 15 Hyd 2008 7:29 am

Ti'n iawn - galli di ddweud y naill neu'r llall.

Mewn rhannau o'r de - y de orllewin fwyaf? - maen nhw'n dweud "taw". Doedden ni ddim yn cael ysgrifennu "taw" yn yr ysgol gan ei fod yn cael ei ystyried yn ansafonol.
"mai" yw'r sillafiad yma. Pan oedd rhywun yn gofyn yn yr ysgol fach ai "mae" 'ta "mai" oedden ni i fod i sgrifennu, roedd Miss bob amser yn dweud "Os gallwch chi ddweud "taw" yn ei le fe, "mai" sy'n iawn"
Felly:
"Dwi'n meddwl mai/taw (rhywbeth) ydy (rhywbeth)"

PWT: "Mae blas tafodieithol deheuol ar "taw" ... (a) tueddir i'w ystyried yn ansafonol."
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Mae vs. Taw

Postiogan ceribethlem » Mer 15 Hyd 2008 8:07 am

O'n i'n edrych mlaen i Philosophical debate am Tsieniaidd!
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Mae vs. Taw

Postiogan Ray Diota » Mer 15 Hyd 2008 4:26 pm

ceribethlem a ddywedodd:O'n i'n edrych mlaen i Philosophical debate am Tsieniaidd!


oi Jonsi, fuck off
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Mae vs. Taw

Postiogan sian » Mer 15 Hyd 2008 4:34 pm

Ray Diota a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:O'n i'n edrych mlaen i Philosophical debate am Tsieniaidd!


oi Jonsi, fuck off


tao piau hi
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Mae vs. Taw

Postiogan Aderyn Coch » Mer 15 Hyd 2008 5:25 pm

"Mae"? Wyt ti'n meddwl "mai"?
Mae'n uwch na 9000!
Rhithffurf defnyddiwr
Aderyn Coch
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 18
Ymunwyd: Gwe 19 Medi 2008 7:46 pm
Lleoliad: Lerpwl/Cilgwri

Re: Mae vs. Taw

Postiogan Duw » Mer 15 Hyd 2008 8:34 pm

sian a ddywedodd:PWT: "Mae blas tafodieithol deheuol ar "taw" ... (a) tueddir i'w ystyried yn ansafonol."


Ydy popeth sy'n cael ei ddefnyddio yn y de'n ansafonol? Dwi'n ffed yp wir o glywed hyn. Gogs yn cael defnyddio 'ydi' ond hwntws ddim yn cael defnyddio 'taw'. Dwi'n clywed y cont gwirion Cen Williams yn brolio, "Mae deud yn dderbyniol ond nid oes modd defnyddio gweud." Efallai bod hwnna'n ddigon teg, ond aeth ymlaen i gynnig rhyw ucen enghraifft arall. Sticen i galwn o woblyn lawr ei gorn gwddwg y fflaren shwd yw e.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Mae vs. Taw

Postiogan sian » Mer 15 Hyd 2008 8:51 pm

Duw a ddywedodd:
sian a ddywedodd:PWT: "Mae blas tafodieithol deheuol ar "taw" ... (a) tueddir i'w ystyried yn ansafonol."


Ydy popeth sy'n cael ei ddefnyddio yn y de'n ansafonol? Dwi'n ffed yp wir o glywed hyn.


Fi'n hwpo'r bai ar yr Esgob William Morgan yn hunan.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Mae vs. Taw

Postiogan ceribethlem » Mer 15 Hyd 2008 8:57 pm

sian a ddywedodd:
Duw a ddywedodd:
sian a ddywedodd:PWT: "Mae blas tafodieithol deheuol ar "taw" ... (a) tueddir i'w ystyried yn ansafonol."


Ydy popeth sy'n cael ei ddefnyddio yn y de'n ansafonol? Dwi'n ffed yp wir o glywed hyn.


Fi'n hwpo'r bai ar yr Esgob William Morgan yn hunan.
ai, cont o foi
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Mae vs. Taw

Postiogan Caci Mwnci » Iau 16 Hyd 2008 11:48 am

Mae 'na gair arall all cael ei ddefnyddio yn lle "mai" neu "taw" sef "na".
Caci Mwnci
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 15
Ymunwyd: Mer 05 Hyd 2005 11:54 am
Lleoliad: Bro Dysynni

Nesaf

Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 14 gwestai

cron