Tudalen 1 o 2

Mai vs. Taw

PostioPostiwyd: Mer 15 Hyd 2008 1:28 am
gan Gwenci Ddrwg
Yn yr un trywydd na fy nghwestiwn dwl diweddaf, hoffwn loywi gwahaniaeth rhwng dau ffordd o ddeud mwy neu llai yr un beth. Heb ddisgrifio mwy na angenrheidiol:

"Dwi'n meddwl taw (rhywbeth) ydy (rhywbeth)"

"Dwi'n meddwl mae (rhywbeth) ydy (rhywbeth)"

Maen nhw'n edrych fel maen nhw'n cyflawni'r un beth yn ramadegol. Fel arfer, dwi di dysgu yr un (sef y cyntaf) heb glywed dim byd am yr arall. Tybiwn i fod yr ail yn cael ei ddefnyddio yn sefyllfa mwy anffurfiol ond gyda llaw hoffwn gadarnhad.

Re: Mae vs. Taw

PostioPostiwyd: Mer 15 Hyd 2008 7:29 am
gan sian
Ti'n iawn - galli di ddweud y naill neu'r llall.

Mewn rhannau o'r de - y de orllewin fwyaf? - maen nhw'n dweud "taw". Doedden ni ddim yn cael ysgrifennu "taw" yn yr ysgol gan ei fod yn cael ei ystyried yn ansafonol.
"mai" yw'r sillafiad yma. Pan oedd rhywun yn gofyn yn yr ysgol fach ai "mae" 'ta "mai" oedden ni i fod i sgrifennu, roedd Miss bob amser yn dweud "Os gallwch chi ddweud "taw" yn ei le fe, "mai" sy'n iawn"
Felly:
"Dwi'n meddwl mai/taw (rhywbeth) ydy (rhywbeth)"

PWT: "Mae blas tafodieithol deheuol ar "taw" ... (a) tueddir i'w ystyried yn ansafonol."

Re: Mae vs. Taw

PostioPostiwyd: Mer 15 Hyd 2008 8:07 am
gan ceribethlem
O'n i'n edrych mlaen i Philosophical debate am Tsieniaidd!

Re: Mae vs. Taw

PostioPostiwyd: Mer 15 Hyd 2008 4:26 pm
gan Ray Diota
ceribethlem a ddywedodd:O'n i'n edrych mlaen i Philosophical debate am Tsieniaidd!


oi Jonsi, fuck off

Re: Mae vs. Taw

PostioPostiwyd: Mer 15 Hyd 2008 4:34 pm
gan sian
Ray Diota a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:O'n i'n edrych mlaen i Philosophical debate am Tsieniaidd!


oi Jonsi, fuck off


tao piau hi

Re: Mae vs. Taw

PostioPostiwyd: Mer 15 Hyd 2008 5:25 pm
gan Aderyn Coch
"Mae"? Wyt ti'n meddwl "mai"?

Re: Mae vs. Taw

PostioPostiwyd: Mer 15 Hyd 2008 8:34 pm
gan Duw
sian a ddywedodd:PWT: "Mae blas tafodieithol deheuol ar "taw" ... (a) tueddir i'w ystyried yn ansafonol."


Ydy popeth sy'n cael ei ddefnyddio yn y de'n ansafonol? Dwi'n ffed yp wir o glywed hyn. Gogs yn cael defnyddio 'ydi' ond hwntws ddim yn cael defnyddio 'taw'. Dwi'n clywed y cont gwirion Cen Williams yn brolio, "Mae deud yn dderbyniol ond nid oes modd defnyddio gweud." Efallai bod hwnna'n ddigon teg, ond aeth ymlaen i gynnig rhyw ucen enghraifft arall. Sticen i galwn o woblyn lawr ei gorn gwddwg y fflaren shwd yw e.

Re: Mae vs. Taw

PostioPostiwyd: Mer 15 Hyd 2008 8:51 pm
gan sian
Duw a ddywedodd:
sian a ddywedodd:PWT: "Mae blas tafodieithol deheuol ar "taw" ... (a) tueddir i'w ystyried yn ansafonol."


Ydy popeth sy'n cael ei ddefnyddio yn y de'n ansafonol? Dwi'n ffed yp wir o glywed hyn.


Fi'n hwpo'r bai ar yr Esgob William Morgan yn hunan.

Re: Mae vs. Taw

PostioPostiwyd: Mer 15 Hyd 2008 8:57 pm
gan ceribethlem
sian a ddywedodd:
Duw a ddywedodd:
sian a ddywedodd:PWT: "Mae blas tafodieithol deheuol ar "taw" ... (a) tueddir i'w ystyried yn ansafonol."


Ydy popeth sy'n cael ei ddefnyddio yn y de'n ansafonol? Dwi'n ffed yp wir o glywed hyn.


Fi'n hwpo'r bai ar yr Esgob William Morgan yn hunan.
ai, cont o foi

Re: Mae vs. Taw

PostioPostiwyd: Iau 16 Hyd 2008 11:48 am
gan Caci Mwnci
Mae 'na gair arall all cael ei ddefnyddio yn lle "mai" neu "taw" sef "na".