gan Kez » Sul 19 Hyd 2008 1:07 am
CIGFYD - 'The real world' yw ei hystyr e - y byd o gig a gwaed heb fod cyfrifiadur ar dy gyfyl.
Fe ddaeth y term i amlygrwydd yn yr iaith Gymraeg gyda thwf y diwydiant porno yng Nghwm Twrch Uchaf ar ddechrau'r nawddegau - ac er bod iddo ystyr hollol anweddus ar y dechrau - erbyn hyn fe'i ystyrir yn air am y byd sydd ohoni - the real world.
Bu'r ffilmiau porno hyn yr un mor boblogaidd a ffilmiau 'Bollywood' yn y cylch, hyd nes iddynt saethu'r ffilm 'Brokearse Mounting' ar dop mynydd Llanllwni yn Sir Gaerfyrddin ac ennyn dig y trigolion efyngylaidd lleol - ac erbyn hyn mae'r efyngylwyr hynny yn cyfeirio at ffilmiau nad ydynt at eu dant fel ffilmiau y Cigfyd.