Actor/Actress, Comedian/Comedienne

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Actor/Actress, Comedian/Comedienne

Postiogan Duw » Maw 21 Hyd 2008 7:30 pm

Cardi Bach a ddywedodd:Fel y mae Nic yn ddwued, does yna ddim deddf na rheol sydd yn gorfodi pobl i ddefnyddio un term yn fwy na'r llall, yn yr un modd nad oes yna ddeddf yn dweud fod pob menyw bellach yn Ms. yn hytrach na Miss neu Mrs. Dewis personol yw e, ac mewn cymdeithas war dylid parchu dewis yr unigolyn hwnnw neu honno.


Gorymateb, moi?? Ie, falle bo ti'n iawn, ond diawl tanllyd ydwyf. Fel rydych yn gorfod cydnabod, mae defnydd geiriau unisex yn ffasiynnol a bydd cyfeirio at berson fel actores neu athrawes ymhen sawl blynedd yn tantamount i achosi sarhad dwys. Jest fel nac oes modd galw rhywun yn 'black', 'coloured', 'negro', 'Afro-Caribbean' neu beth bynnag yw e nawr. Mae'r gang PC wedi drysu pethe'n llwyr gyda'u 'chalkboard' yn hytrach na 'blackboard'. Mae gen i 'whiteboard' nawr - wwww, swanc! Oes hawl 'da fi alw hwn yn 'whiteboard' neu os rhaid i mi ei alw'n 'bwrdd sy'n cael ei ysgrifennu arno gan pen plastig llawn lliwurau sy'n gallu cael ei ddileu gan glwtyn sych.'

Sori bois, dwi dal yn dweud ballocks
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Actor/Actress, Comedian/Comedienne

Postiogan nicdafis » Maw 21 Hyd 2008 8:10 pm

Duw a ddywedodd:Mae'r gang PC wedi drysu pethe'n llwyr gyda'u 'chalkboard' yn hytrach na 'blackboard'.


Nawr ni'n dod at wraidd y mater.

Wyt ti'n gallu ffeindio un enghraifft o rywun sy'n dweud o ddifri na ddyler defnyddio'r gair "blackboard"? Oni bai bod dy sgiliau Google yn lot well na rhai fi, i gyd byddi di'n ffeindio ar y we yw miloedd a miloedd o bobl ddewr wrth-PC yn cwyno am y "ffaith" bondigrybwyll 'ma.

Mewn geiriau eraill, ti'n grac am sefyllfa sy ddim yn bodoli.

Mae "chalkboard" yn air Americanaidd sy'n dyddio nôl i'r 1930au o leia, ac mae'n digwydd bod yn well disgrifiad o wrthrych sy ddim, yn aml iawn, yn arbennig o ddu. Ond prin iawn bod unrhywun yn mynd i gymryd offens os wyt ti moyn defynddio "blackboard". Mae pobl sy'n ymgyrchu o ddifri yn erbyn hiliaeth go iawn yn tueddu bod yn ddigon clir eu meddwl.

Does dim sut peth â "gang PC", gyda llaw, oni bai mod i wedi colli cyfarfod. Ti'n jyst paranoid ;-)
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Re: Actor/Actress, Comedian/Comedienne

Postiogan Duw » Maw 21 Hyd 2008 8:19 pm

Dyna fi - paranoid :ffeit:

Defnyddio enghraifft hurt i danlinellu pwynt - bai fi - cytuno. Er, mae'r pwynt arall o "black", "coloured" ac ati yn un cywir. Mae'n gas 'da fi anghytuno o ran 'gang PC' - ond mae 'na shwd bobl mas 'na. Y dosbarth canol llon sy heb unrhyw beth gwell na bod yn 'reit on' a chwyno am y beth lleia. :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Actor/Actress, Comedian/Comedienne

Postiogan nicdafis » Maw 21 Hyd 2008 8:26 pm

Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Re: Actor/Actress, Comedian/Comedienne

Postiogan Duw » Maw 21 Hyd 2008 8:46 pm

Ha ha ha - da iawn Nic! Gwerthfawrogi :lol:
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Actor/Actress, Comedian/Comedienne

Postiogan Mr Gasyth » Mer 22 Hyd 2008 8:42 am

Nicdafis a ddywedodd:Wedi dweud hynny, dw i ddim yn cofio defynddio'r lluosog "athrawesau" erioed. Yr unig sefyllfa dw i'n gallu meddwl amdano ble byddai hynny yn addas, yw 'swn i'n trafod rhywbeth sy'n effeithio ar ferched sy'n dysgu ond ddim dynion. Mae 'na siwr o fod sefyllfaoedd lle mae cael gair bach handi fel 'na yn ddefynddiol, ond dw i ddim wedi bod mewn un ohonyn nhw.


Wel, yn yr ysgol fach, dwy athrawes oedd a dim un athro. Yn yr ysgol fach felly, roedd ganddom ni athrawesau.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: Actor/Actress, Comedian/Comedienne

Postiogan Duw » Mer 22 Hyd 2008 8:54 am

Dwi wedi gweld athrawesau ar ddrws tai bach y merched yn yr ysgol.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Actor/Actress, Comedian/Comedienne

Postiogan sian » Mer 22 Hyd 2008 9:28 am

Cofio clywed dwy hen wraig yn siarad yng nghyngerdd yr ysgol. "Pwy yw honna?" "O hi yw'r dîtsheres newy".

Dw i ddim yn licio "Y Barchedig" am weinidogion benywaidd ac mae "barddones" wedi hen ddiflannu - er bod "awdures" yn dal i gael ei ddefnyddio ac "actores" a "cantores" yn rhan naturiol o'r iaith. Od!
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Actor/Actress, Comedian/Comedienne

Postiogan ceribethlem » Mer 22 Hyd 2008 10:33 am

Duw a ddywedodd:Dwi wedi gweld athrawesau ar ddrws tai bach y merched yn yr ysgol.

Ystalyfera?
Ma'r arwydd da 'na.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Actor/Actress, Comedian/Comedienne

Postiogan Duw » Mer 22 Hyd 2008 3:01 pm

Na - f'ysgol bresennol anhysbys
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

NôlNesaf

Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 24 gwestai