Actor/Actress, Comedian/Comedienne

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Actor/Actress, Comedian/Comedienne

Postiogan nicdafis » Iau 23 Hyd 2008 11:26 am

Y peth yw does neb yn dweud na ddylet ti ddefynddio'r gair "actress" (eto, dyw e ddim yn wneus sens i sôn am ddefnydd y Saesneg a'r Gymraeg fel eu bod nhw'n un iaith), dim ond bod rhai menwod sy'n actio yn disgrifio eu hunain fel "actor". Does dim "PC conspiracy" tu ôl i hyn: dyna pam dw i'n defnyddio'r "paranoid" uchod.

Y ffenomen sy'n cael ei alw yn "gywirdeb gwleidyddol" yn ddim byd mwy nag adlewyrchiad o'r ffordd mae iaith, pob iaith, yn newid, sydd ei hunan yn adlewyrchiad o'r ffordd mae'r byd yn newid. Mae'r busnes am "blackboard/chalkboard" yn fytholegol: mae'n cadarnhau rhagfarn pobl sy'n credu yn y myth o gyriwdeb gwleidyddol, heb fod ag unrhyw sail yn y byd go iawn - hynny yw, does fawr o neb sydd ag ots beth ti'n galw'r bwrdd sialc, neu'r bwrdd du. Mae'r enghraifft arall, "actor/actress", â mwy o sail yn y byd go iawn - mae 'na bobl sy'n hoffi defnyddio'r gair "actor" i bawb sy'n actio, ond mae lot mwy sy ddim yn gweld e'n bwysig. Os wyt ti moyn bod yn grac am rywbeth sy ddim hyd yn oed o bwys i'r rhan fwya o "actreses", dy ddewis di yw e. Does neb yn eich gorfodi bod yn grac; eich dewis chi yw e.

Mae'n well 'da fi osgoi pethau sy'n wneud i fi deimlo yn grac heb reswm da, ond dim ond fi yw hynny.

Delwedd

Dyw e ddim, rili, nag yw?
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Re: Actor/Actress, Comedian/Comedienne

Postiogan ceribethlem » Iau 23 Hyd 2008 3:43 pm

Fi'n cytuno, buodd ffys mawr yn y Daily Mail (wrth reswm) flwyddyn neu ddwy yn ol. Roedd yr erthygl yn son am "political correctness gone mad" gan fod plant mewn rhyw ysgol gynradd yn canu "Ba Ba Rainbow Sheep" achos does dim hawl defnyddio'r gair "Black". Doedd neb yn y papur wedi gofyn am y gwir wrth yr athrawon.
Roedd y gwir yn ddiniwed iawn, Roedd ton "Ba Ba Black Sheep" yn cael ei ddefnyddio i ddysgu'r lliwiau, "Ba Ba White Sheep", "Ba Ba Yellow Sheep" ayyb.
Techneg Addysgu reit effeithiol.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Actor/Actress, Comedian/Comedienne

Postiogan Seonaidh/Sioni » Iau 23 Hyd 2008 8:18 pm

Bob tro bydd neb yn son am y Daily Wail, bydd yn f'atgoffa am hyn: pam yn y byd mae na neb sy'n prynu'r esgus am bapur na?
Mae o'n enghraifft ronc o anghywirdeb gwleidyddol. Os oes na ddim sy'n waeth na PC, dyna ANGhywirdeb gwleidyddol. Pam dw i'n erbyn PC? Gan nad ydy newid enw yn newid sefyllfa. Pam mae'r Dairy Mail yn erbyn PC? Gan eu bod nhw'n hybu anghywirdeb gwleidyddol.
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Actor/Actress, Comedian/Comedienne

Postiogan Duw » Gwe 24 Hyd 2008 7:31 pm

ceribethlem a ddywedodd:
Duw a ddywedodd:Da iawn Sioni - falch i'w glywed. Nid jest fi sy'n paranoid te. Blydi gwdi tw shws dros y lle i gyd yn pedlo'u brechdanau jam. Stwffen i sawl arwydd athrawesau gyda 'teacheresses' wedi sgriblo o dan lan eu penole.

Fi ddim cweit yn dy ddeall di fan hyn, mae'n ymddangos dy fod yn gwrth ddweud dy hunan. Ar yr naill ochr rwyt ti'n dweud dy fod yn erbyn y syniad o derm "actor" pan gellid defnyddio "actores", ar y llall rwyt ti yn erbyn y term "athrawesau".
Bydd yn onest nawr Duw, ble wyt ti'n sefyll ar y mater yma? :winc:


Dwi'n wrth-PC. Dwi o blaid actores/athrawes a'r joc 'teacheress' a dyna pam bydden ni'n stwffo'r diawl lan penole'r gwdi tw-shwsys 'ma. Stim byd yn bod ar gael gwared geiriau sydd ag awyddocad ffiaidd - digon teg. Mae rhai'n hapus i gymryd pethau'n gas er mwyn tynnu sylw i'w hunain a cheisio 'gwneud pwynt'.

I Nic: dwi'n paranoid, dwi'n grac, dwi'n hen gont cwerylgar - a dyna'r ffordd dwi'n hoffi e. Stim byd fel gwyntyllu lot o air poeth! Y peth diwetha dwi ishe o fforwm drafod yw joli blydi hoci stics. :ffeit:
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Actor/Actress, Comedian/Comedienne

Postiogan Kez » Gwe 24 Hyd 2008 11:04 pm

Duw a ddywedodd:

I Nic: dwi'n paranoid, dwi'n grac, dwi'n hen gont cwerylgar - a dyna'r ffordd dwi'n hoffi e. Stim byd fel gwyntyllu lot o air poeth! Y peth diwetha dwi ishe o fforwm drafod yw joli blydi hoci stics. :ffeit:



Delwedd

Be' sy'n bod ar joli blydi hoci stics - y 'cont cwerylgar' ishda ag wt ti :winc: :D
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Actor/Actress, Comedian/Comedienne

Postiogan Duw » Sad 25 Hyd 2008 12:33 am

DIolch Kez - os odd pobl PC yn cael eu ffordd bydden i ddim nawr yn edmygu'r llun 'na. Wel, nawr mae'r wraig wedi mynd i'r gwely... :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Actor/Actress, Comedian/Comedienne

Postiogan Kez » Sad 25 Hyd 2008 12:06 pm

nicdafis a ddywedodd:

Y ffenomen sy'n cael ei alw yn "gywirdeb gwleidyddol" yn ddim byd mwy nag adlewyrchiad o'r ffordd mae iaith, pob iaith, yn newid, sydd ei hunan yn adlewyrchiad o'r ffordd mae'r byd yn newid.


Byswn i'n anghytuno a thi i ryw raddau Nic; mae pob iaith yn newid ond newid yn raddol y bydd hi ar lawr gwlad - ac mae hynny'n broses naturiol ots be' fynno academyddion neu bwy bynnag, ond y peth gyda chywirdeb gwleidyddol yw ei bod hi'n gorfodi newid ar bobol - er da ac weithiau er gwaeth - ac efallai taw dyna pam bo cymaint o ddadlau yn ei gylch; ryn ni'n colli golwg ar ei rinweddau da am bo rhywrai wedi creu agenda sy'n lladd ar synnwyr cyffredin ac yn creu problemau a drwgdeimlad lle na bu problemau na drwgdeimlad.

FFenomena ddiwylliedig a chymdeithasol yw hi sydd a'r uchelgais glodwiw o effeithio ar yr agweddau bawaidd hynny sydd gennym weithiau tuag at rai cenhedloedd a phobol wahanol - ac bydd hynny wrth reswm a chyda gobaith yn effeithio ar y teip o iaith gywilyddus a ddefnyddiwn ni amdanynt o bryd i'w gilydd.
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Actor/Actress, Comedian/Comedienne

Postiogan nicdafis » Sad 25 Hyd 2008 1:54 pm

Kez a ddywedodd:y peth gyda chywirdeb gwleidyddol yw ei bod hi'n gorfodi newid ar bobol


Dyna gwraidd fy nadl: does 'na neb sydd â'r pwer i dy orfodi di defynddio geiriau dwyt ti ddim eisiau eu defynddio. Dim ond mewn gwladwriaeth ffasgaidd go iawn mae hynny yn digwydd. Beth bynnag dw i'n meddwl am Lafur Newydd, dydyn nhw ddim yn ffasgwyr.

Dyw'r ffaith bod y Daily Mail yn honni bod y bobl yma yn bodoli ddim yn golygu eu bod nhw'n bodoli. Os ydyn nhw'n bodoli, dylai fod yn ddigon hawdd i ddweud pwy ydyn nhw, ond prin iawn mae hyn yn digwydd. "Nhw", "y criw PC", "pobl y chwith" ac yn y blaen ydyn nhw bron bob tro. Does 'na ddim mudiad o ferched sy'n ymgyrchu dros eu hawliau i fod yn "actors", dim ond rhai unigolion sy wedi mabwysiadu'r gair, am wahanol rhesymau. Mae 'na bobl (fel fi) sy'n meddwl bod y rhesymau yna yn deilwng, ac sy'n fodlon i newid y ffordd maen nhw'n cyfeirio at ferch sy'n actio. Mae 'na eraill (fel Duw) sy ddim yn cytuno. Ond mae'r ail grŵp yn cynnys pobl sy hefyd yn meddwl bod y merched yma yn ymosod ar seiliau ein hannwyl iaith, a bod yr iaith honno (Saesneg, fel mae'n digwydd) ddim yn gallu gofalu am ei hunan.

Cymer pa bynnag enghraifft ti moyn o "Political Correctness gone mad" a chymharu'r sŵn wnaethpwyd gan "gwarchodwyr synnwyr cyffredin" â'r digwyddiad neu erthygl wasg wnaeth ddechrau'r drafodaeth. Mae geiriau bathu fel "herstory" a "womyn" heb gael eu defynddio tu allan o ymylon pellaf disgwrs ffeministiaeth ers dechrau y 1970au, ond dyna'r hoff enghreifftiau pobl "wrth-PC" hyd heddiw, ac wedi'u crybwyll yma.

Kez a ddywedodd:[..] ryn ni'n colli golwg ar ei rinweddau da am bo rhywrai wedi creu agenda sy'n lladd ar synnwyr cyffredin ac yn creu problemau a drwgdeimlad lle na bu problemau na drwgdeimlad.


Yn union - yr unig peth dyn ni'n anghytuno arno yw pwy yw'r "rhywrai". Dw i'n deall yn iawn pam na fyddai rhywun eisiau galw Meryl Streep yn "actor". Beth dw i ddim yn deall yw pam fyddai ots 'da neb os ydy Meryl Streep eisiau galw ei hunan yn "actor".
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Re: Actor/Actress, Comedian/Comedienne

Postiogan Kez » Sad 25 Hyd 2008 4:16 pm

Pwrpas cywirdeb gwleidyddol yw amddiffyn y bobol sy’n ffilu amddiffyn ei hunain – yn marn y bobol ryddfrydol :!: - a chal gwarad o betha hiliol a phethach ych-y-ffiaidd eraill, ond erbyn hyn, ma’n cwmpasu popeth - a dwli yw’r dwli’ma i gyd biti bod yn actor ne’n actores a bagad o bethach erill. Digwydd bod ifi fod ar y ffôn gyda Meryl Streep pwy noswith a honco’n gweud wrtho i nag odd ots gynti ddi beth odd neb yn ei gialw hi – ‘twel, dwli yw hwnna Nic ac nid cywirdeb gwleiddyddol :winc:

Wi’n meddwl bod pob un person byw yn gydradd ac yn haeddu parch – heblaw am gofis Cnafron ac wi’n siŵr bod pawb yn Llanrug yn cytuno â fi yn hynny o beth, ond er eu beiau - pobol halan y ddaear ŷn nhw :winc: Un o’r ychydig odw i sy’n ddigon dewr i weud ar goedd bod 'na gymdeithas ‘cywirdeb gwleidyddol’ yn y dre a chanddi ei phencadlys yn ‘Twtil’ – felly nid myth mohono – a’i phrif amcan yw gwaredu’r gair cont o iaith y Cofi druan.
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Nôl

Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 23 gwestai