Godwin mewn saith, llongyfarchiadau.
Mae 'na wahaniaeth rhwng menyw yn dweud ei bod yn well 'da hi cael ei hadnabod fel "actor" yn hytrach nag "actress", a gwladwriaeth ffasgaidd yn dweud wrthot beth ti'n
cael dweud. Does dim cyfraith sy'n dweud dy fod di ddim yn cael defynddio pa bynnag gair ti moyn wrth sôn am bobl sy'n actio, am wn i. Does neb (eto, am wn i) yn awgrymu banio'r gair "actress", heb sôn am "actores" Cymraeg, dim ond bod rhai actorion benywaidd yn hapusach cael eu hadnabod gan y gair "actor". Os ti wir ddim yn licio hynny, wel, does dim rhaid i ti fynd i'w ffilmiau nhw, sbo. Wneith hynny ddangos pwy yw'r bos!
Dyw hyn ddim yn beth newydd gyda llaw - ar hap, dyma
erthygl o 2002 lle mae Bindya Solanki o Eastenders yn sôn am ei hunan fel "actor".