Cardi Bach a ddywedodd:Fel y mae Nic yn ddwued, does yna ddim deddf na rheol sydd yn gorfodi pobl i ddefnyddio un term yn fwy na'r llall, yn yr un modd nad oes yna ddeddf yn dweud fod pob menyw bellach yn Ms. yn hytrach na Miss neu Mrs. Dewis personol yw e, ac mewn cymdeithas war dylid parchu dewis yr unigolyn hwnnw neu honno.
Gorymateb, moi?? Ie, falle bo ti'n iawn, ond diawl tanllyd ydwyf. Fel rydych yn gorfod cydnabod, mae defnydd geiriau unisex yn ffasiynnol a bydd cyfeirio at berson fel actores neu athrawes ymhen sawl blynedd yn tantamount i achosi sarhad dwys. Jest fel nac oes modd galw rhywun yn 'black', 'coloured', 'negro', 'Afro-Caribbean' neu beth bynnag yw e nawr. Mae'r gang PC wedi drysu pethe'n llwyr gyda'u 'chalkboard' yn hytrach na 'blackboard'. Mae gen i 'whiteboard' nawr - wwww, swanc! Oes hawl 'da fi alw hwn yn 'whiteboard' neu os rhaid i mi ei alw'n 'bwrdd sy'n cael ei ysgrifennu arno gan pen plastig llawn lliwurau sy'n gallu cael ei ddileu gan glwtyn sych.'
Sori bois, dwi dal yn dweud ballocks