gan Seonaidh/Sioni » Mer 22 Hyd 2008 9:11 pm
Mae'n gas gen i PC. Mae'r holl gredo PC yn cuddio problemau tu ol i eiriau. Fyddai galw pawb sy'n ennill crwst gan berfformio ar lwyfan yn "actor", yn lle eu rhannu nhw yn "actor" ac "actores", yn creu hafalafiaeth rywiol? Fyddai galw pob prifathro/prifathrawes yn bennaeth yn sicrhau'r un gymaint o bob rhyw yn arwain ysgolion? Beth yn y byd ydy "visually challenged"? - mae'n swnio fel cystadleuaeth. Be nesa - "horizontally challenged" yn lle "obese"? "ethnically challenged" efallai?
Dyma hanes PC - mae enw yn mynd yn gas, yn israddol - felly cawn ni ddyfeisio enw arall. Ar ol sbel, aiff yr enw newydd yn israddol - felly dyma'r ail enw newydd ar y gweill. Ac ati - mae'r peth yn mynd ymlaen ac ymlaen, efo' enw PC ddoe yn mynd yn peth ych-a-fi heddiw. Ac wnaiff hyn ddim i ddatrys y problemau cymdeithasol. Be di'r gwahaniaeth rhwng "cloff" a "rhywun ag anawsterau ynglyn a symud"? Yr un person sy gennym, yr un problemau, yr un anawsterau (e.e. cael gwaith ac ati) - a'r un rhagfarn sy yn eu herbyn. Chi ddim yn cael gwared ar ragfarn gan newid yr enw. Dyna'r pwysicaf peth mae'r lobi PC yn anghofio.
A dyma ichi gymal PC o'n gorffennol ddiweddar - "community charge". Mae'n swnio'n ddigon neis, rhyw dreth wedi codi o'r cymundeb ac er y cymundeb - ond beth oedd hi? Treth y Pen - pawb yn talu'r un, o'r cyfoethoca i'r tlota.
Wedi mynd ymlaen am ry hir - ddrwg gen i.
A bheil thu gam aithneachadh?