Ydych chi'n yawno wrth jogio?

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Ydych chi'n yawno wrth jogio?

Postiogan Ray Diota » Gwe 12 Rhag 2008 4:31 pm

sian a ddywedodd:
Ray Diota a ddywedodd:yn y coleg fan hyn dwi'n dysgu'r geiriau cymraeg i bawb ac yn rhoi'r fersiynau eraill 'fyd... dyw e ddim yn hir nes iddyn nhw ddechrau deall pa air sy'n ffitio orau... ond wedyn ma 'da nhw brofiad tebyg 'da Llydaweg/Ffrangeg i'w helpu nhw sbo...


A DYNA be ti'n neud. 8) Lle wyt ti? Roazhon?


iyp!
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Ydych chi'n yawno wrth jogio?

Postiogan Kez » Sad 13 Rhag 2008 8:12 pm

sian a ddywedodd:Ie, dyna'r pwynt - dw i'n meddwl bod ti'n bod yn annheg â dysgwyr os wyt ti'n dweud "cauliflower = blodfresych", "apricots = bricyll", "sausage" = "selsig", "chips" = "sglodion", "watch" = "oriawr" heb esbonio nad wyt ti byth yn mynd i'w clywed nhw dros glawdd yr ardd neu yn y dafarn.
Es i i ddŵr twym mewn fforwm arall wrth dreio dweud hyn - sy'n swnio'n hollol resymol i mi!


Mae Dudley yn eu gweud nhw ar y teledu ac ombai bod y Cymry Cymraeg a'r rhai sy'n dysgu'r iaith yn eu deall nhw, bydd pawb yn colli mas ar ddanteithion di-rif. Sian fach, wi'n siwr bod 'na sawl berson yn sgwrsio dros glawdd yr ardd ac yn y dafarn ambwyti ei 'recipes' diweddara fe gyda bricyll, mefus, blodfresych a phethach erill na wn i beth yn nhw - wi'n gwpod bo fi yn - a dylsat ti brofi fy nharten fefus sydd yn hollol wych diolch i Mr Dudley. (wi'm yn gwpod y gair am recipes yn Gymrag; bydd raid i rywun enlightnio fi ar hwnna :wps: )

Mae'n debyg taw mater o chwaeth personol yw hi pa eiriau 'newydd' sy'n mynd i fod yn dderbyniol i bobol ac yn mynd i gal eu defnyddio. Wela i ddim byd yn bod ar oergell a rhewgell fy hunan ac os ydyn nhw'n ddigon da i Mr Dudley, maen nhw'n ddigon da ifi ond pawb a'i dast ei hunan sbo; fyswn i ddim yn gweud oriawr yn bersonol ond wi'n folon rhoi 'go' arni. Beth am i bawb roi siawns i oergell a rhewgell ennill tir; maen nhw'n eiriau bach neis ac mae'n hawdd eu deall nhw.

Bysa hi'n ddiddorol cal gwbod pwy eiriau newydd mae pobol Maes-e yn folon derbyn a'r rhai maen nhw'n ymwrthod a nhw'n llwyr.
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Ydych chi'n yawno wrth jogio?

Postiogan sian » Sad 13 Rhag 2008 8:51 pm

Rhyfedd 'de fel mae rhai geiriau'n cael eu derbyn. Ro'n i'n clywed John Davies ar y radio 'bore ma'n dweud nad oedd "cyfryngau" yn GPC i olygu teledu,radio etc yn 1967 dwi'n meddwl ond mae hwnna wedi ennill ei blwyf.
Mae clywed pobl yn dweud bod nhw'n mynd i'r "shower" yn swnio'n od i fi erbyn hyn.
Dw i'n dweud cyfrifiannell, pren mesur, rhwbiwr, styffylwr, miniwr, glud yn naturiol erbyn hyn o dan ddylanwad y plant - pethe ysgol.
Pan oedd plentyn hyna ni'n fach, ddechreues i ddweud "siglen" a "llithren" ond cyn gynted ag oedd e'n dechre chware gyda phlant erill, ro'n nhw'n swing a sleid.

Dw i ddim yn gwrthwynebu dysgu'r geiriau Cymraeg am bethe, just meddwl bod e'n greulon gollwng dysgwyr i'r byd mawr heb sylweddoli nad yw'r rhan fwya o bobl yn eu defnyddio nhw - o fewn rheswm!
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Ydych chi'n yawno wrth jogio?

Postiogan Kez » Sad 13 Rhag 2008 9:04 pm

Odd un athrawes yn gweud 'dileuwr' am rubber pan own i yn yr ysgol ond wi'm yn credu bo hwnna wedi cal ei dderbyn. Mae'n air eitha da am exterminator sbo ond nid rubber. Un arall wedyn yn gweud 'peiritel' am y DVD hen ffasiwn a dim ond ar ol gadael ysgol, deallais i taw peiriant teledu oedd y 'peiritel' - own i'n meddwl taw enw'r gwneuthurwr oedd hi fel 'Hoover' am amsugnydd llwch (os taw dyna'r gair Cymraeg amdano).
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Nôl

Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai

cron