sian a ddywedodd:Ie, dyna'r pwynt - dw i'n meddwl bod ti'n bod yn annheg â dysgwyr os wyt ti'n dweud "cauliflower = blodfresych", "apricots = bricyll", "sausage" = "selsig", "chips" = "sglodion", "watch" = "oriawr" heb esbonio nad wyt ti byth yn mynd i'w clywed nhw dros glawdd yr ardd neu yn y dafarn.
Es i i ddŵr twym mewn fforwm arall wrth dreio dweud hyn - sy'n swnio'n hollol resymol i mi!
Mae Dudley yn eu gweud nhw ar y teledu ac ombai bod y Cymry Cymraeg a'r rhai sy'n dysgu'r iaith yn eu deall nhw, bydd pawb yn colli mas ar ddanteithion di-rif. Sian fach, wi'n siwr bod 'na sawl berson yn sgwrsio dros glawdd yr ardd ac yn y dafarn ambwyti ei 'recipes' diweddara fe gyda bricyll, mefus, blodfresych a phethach erill na wn i beth yn nhw - wi'n gwpod bo fi yn - a dylsat ti brofi fy nharten fefus sydd yn hollol wych diolch i Mr Dudley.
(wi'm yn gwpod y gair am recipes yn Gymrag; bydd raid i rywun enlightnio fi ar hwnna ) Mae'n debyg taw mater o chwaeth personol yw hi pa eiriau 'newydd' sy'n mynd i fod yn dderbyniol i bobol ac yn mynd i gal eu defnyddio. Wela i ddim byd yn bod ar oergell a rhewgell fy hunan ac os ydyn nhw'n ddigon da i Mr Dudley, maen nhw'n ddigon da ifi ond pawb a'i dast ei hunan sbo; fyswn i ddim yn gweud oriawr yn bersonol ond wi'n folon rhoi 'go' arni. Beth am i bawb roi siawns i oergell a rhewgell ennill tir; maen nhw'n eiriau bach neis ac mae'n hawdd eu deall nhw.
Bysa hi'n ddiddorol cal gwbod pwy eiriau newydd mae pobol Maes-e yn folon derbyn a'r rhai maen nhw'n ymwrthod a nhw'n llwyr.