Ydych chi'n yawno wrth jogio?

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Ydych chi'n yawno wrth jogio?

Postiogan pigynclust » Gwe 28 Tach 2008 11:39 pm

Pawb fi'n nabod yn dweud loncian. Ond os dach chi'n mynnu edrach ar y telifision rol bod yn y shower rol colli eis crim ddath o'r ffridj, be'di'r ots actiwali? Mae'r Gymraeg yn saff rili n'd ydi, belled a'n bod yn meddwl bod defnyddio gair Saesneg am bob dim gafodd ei dyfeisio ar ol adeg Glyndwr yn iawn ynte, a'i fod lot fwy cwl a'n mets i ddim yn dallt dim Cymraeg a mwy na dau syllable eniwe?
pigynclust
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 11
Ymunwyd: Llun 27 Awst 2007 9:23 pm

Re: Ydych chi'n yawno wrth jogio?

Postiogan sian » Mer 10 Rhag 2008 3:06 pm

pigynclust a ddywedodd:Pawb fi'n nabod yn dweud loncian.


Bobol bach! Lle ti'n byw felly?

Dw i ddim yn meddwl ei fod e'n fater o fod yn cŵl - mae'n fwy i wneud â beth chi'n gyfforddus yn ei ddweud ac mae hynny'n gallu newid dros amser.
Dw i ddim yn meddwl y byswn i byth yn gallu dweud "selsig a sglodion" er enghraifft, nac "oergell" ond, erbyn hyn fe ddyweda i teledu, cawod a hufen iâ yn naturiol.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Ydych chi'n yawno wrth jogio?

Postiogan Dafydd ab Iago » Mer 10 Rhag 2008 4:22 pm

sian a ddywedodd:Dw i ddim yn meddwl ei fod e'n fater o fod yn cŵl - mae'n fwy i wneud â beth chi'n gyfforddus yn ei ddweud ac mae hynny'n gallu newid dros amser.
Dw i ddim yn meddwl y byswn i byth yn gallu dweud "selsig a sglodion" er enghraifft, nac "oergell" ond, erbyn hyn fe ddyweda i teledu, cawod a hufen iâ yn naturiol.


Felly, chi'n bwyta "crisps" ac yn defnyddio "laptop", byth "creision" a "gliniadur"?

Ond mae gan pigynclust bwynt, dwi'n meddwl.

Beth dylai dysgwr fel fi'n dweud? Dwi ddim eisiau defnyddio fridj, jogio a telifisiwn... Dydw i ddim yn gweld y pwynt o ddysgu Cymraeg a wedyn defnyddio geiriau Saesneg am bron popeth newydd.
Ni ddylid gosod sticeri ar eitemau cyhoeddus.
Rhithffurf defnyddiwr
Dafydd ab Iago
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 93
Ymunwyd: Iau 22 Meh 2006 3:38 pm
Lleoliad: Brwsel

Re: Ydych chi'n yawno wrth jogio?

Postiogan sian » Mer 10 Rhag 2008 5:25 pm

Dafydd ab Iago a ddywedodd:Felly, chi'n bwyta "crisps" ac yn defnyddio "laptop", byth "creision" a "gliniadur"?


Crisps - bob amser. Gliniadur - dibynnu ar y cyd-destun.

Dafydd ab Iago a ddywedodd:Beth dylai dysgwr fel fi'n dweud? Dwi ddim eisiau defnyddio fridj, jogio a telifisiwn... Dydw i ddim yn gweld y pwynt o ddysgu Cymraeg a wedyn defnyddio geiriau Saesneg am bron popeth newydd.


Mae'n dibynnu pam rwyt ti'n dysgu Cymraeg am wn i. Ai i fod yn rhan o'r gymuned? Os felly, mae'n dibynnu â phwy wyt ti'n cymysgu ac a wyt ti'n ddigon hyderus i ddefnyddio geiriau fel "oergell" a "loncian" a thithau'n gwybod nad yw'r bobl o dy gwmpas yn eu defnyddio? Cofia, mae Cymry Cymraeg arferol yn gallu bod yn reit nerfus wrth siarad â dysgwyr ar y gorau.

Roedd llythyr arwyddocaol iawn yn Golwg yr wythnos ddiwetha. Athro Cymraeg i Oedolion ym Mhowys yn mynd i bentref Cymreigaidd yn ei ardal ac yn digwydd gofyn i rywun pwy oedd yn byw mewn rhyw dŷ. Yr ateb gafodd e oedd rhywbeth fel "Rhywun sy wedi symud i mewn o ffwrdd a mae ei Gymraeg o'n rhy dda i ni. Ry'n ni'n cadw'n ddigon pell wrtho fo ..." ac meddai'r athro yn y llythyr rywbeth fel "Roedd hynny'n wers i mi achos yn fy nosbarth i roedd y dyn wedi dysgu Cymraeg!"

Felly, os wyt ti a'r bobol rwyt ti'n siarad â nhw yn gyfforddus â'r peth, mae croeso i ti loncian i'r oergell i nôl ysgytlaeth mefus! Mae'n siwr ei bod yn anodd i ddysgwyr wybod pa eiriau benthyg sy'n dderbyniol. Dw i ddim yn gwybod beth yw agwedd athrawon Cymraeg i Oedolion at hyn ar y cyfan.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Ydych chi'n yawno wrth jogio?

Postiogan Kez » Iau 11 Rhag 2008 8:16 am

Mae’r Gymraeg erioed wedi bathu geiriau newydd a buasai’r iaith yn dlawd iawn hebddyn nhw. Roedd y geiriau hynny yn ddiarth i’r dyn cyffredin ar un adeg ond trwy ddyfal ddefnydd, maent yn hollol naturiol a derbyniol inni erbyn hyn. Proses sy’n parhau yw hyn wrth gwrs ac fe ddaw rhai o’r geiriau newydd yn gyffredin maes o law os byddwn ni’n eu defnyddio nhw.

Dwi ddim y meddwl y cei di dy ystyried yn gyff gwawd a bydd pawb yn dy osgoi di os byddi di’n eu defnyddio nhw. Wedi’r cwbwl, dyma’r geiriau y mae plant yn eu dysgu yn yr ysgol ac maen nhw i weld ar arwyddion ac i glywed ar y cyfryngau. Efallai taw ymysg y to ifanc y bydd y geiriau ‘ma yn magu gwreiddiau i ddechrau ac wedyn fe fydd y bobol sy’n mynnu dweud ffrij a freezer yn cal ei hystyried yn hen ffasiwn ac ‘uncool’ fel sydd wedi digwydd gyda’r gair telifishon.

I bobol sy'n dysgu'r iaith, sdim pwynt dweud wrthyn nhw bod rhai pobol yn dweud ffrij yn lle oergell - fe glywan nhw hynny a sylweddoli taw gair Saesneg yng nghanol brawddeg Gymraeg yw hi. Gwell iddynt ddysgu'r Gymraeg yn ei dillad parch ac addasu eu hieithwedd yn ol y sefyllfa ond peidied neb a dweud wrthyn nhw i osgoi gair fel oergell neu ysgytlaeth jwst rhag ofn bydd pawb yn eu hosgoi nhw fel y pla - nonsens yw hwnna.
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Ydych chi'n yawno wrth jogio?

Postiogan sian » Iau 11 Rhag 2008 8:54 am

Kez a ddywedodd:I bobol sy'n dysgu'r iaith, sdim pwynt dweud wrthyn nhw bod rhai pobol yn dweud ffrij yn lle oergell - fe glywan nhw hynny a sylweddoli taw gair Saesneg yng nghanol brawddeg Gymraeg yw hi. Gwell iddynt ddysgu'r Gymraeg yn ei dillad parch ac addasu eu hieithwedd yn ol y sefyllfa ond peidied neb a dweud wrthyn nhw i osgoi gair fel oergell neu ysgytlaeth jwst rhag ofn bydd pawb yn eu hosgoi nhw fel y pla - nonsens yw hwnna.


Digon teg. Y parodrwydd/gallu i addasu eu hieithwedd yn ôl y sefyllfa sy'n bwysig. Un peth yw siarad yn y dosbarth neu siarad â dysgwyr eraill, peth arall yw siarad â Mrs Jones drws nesa. Os yw acen a chystrawen dysgwr braidd yn chwithig a'i fod yn mynnu dweud geiriau dierth hefyd, mae Mrs Jones yn fwy tebygol o ddychryn a'i osgoi. Fyswn i'n meddwl ei bod hi'n well dweud wrth ddysgwyr yn y dyddiau cynnar beth mae pobol o'u cwmpas yn debygol o ddweud - o ran geiriau a chystrawen.

Er, mae pobl yn mynd i ddisgwyl i ddysgwyr ddweud y geiriau 'iawn' felly mae'n gyfle i genhadu hefyd - bod yn hyblyg yw'r allwedd mae'n debyg.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Ydych chi'n yawno wrth jogio?

Postiogan Ray Diota » Gwe 12 Rhag 2008 11:53 am

sian a ddywedodd:
Kez a ddywedodd:I bobol sy'n dysgu'r iaith, sdim pwynt dweud wrthyn nhw bod rhai pobol yn dweud ffrij yn lle oergell - fe glywan nhw hynny a sylweddoli taw gair Saesneg yng nghanol brawddeg Gymraeg yw hi. Gwell iddynt ddysgu'r Gymraeg yn ei dillad parch ac addasu eu hieithwedd yn ol y sefyllfa ond peidied neb a dweud wrthyn nhw i osgoi gair fel oergell neu ysgytlaeth jwst rhag ofn bydd pawb yn eu hosgoi nhw fel y pla - nonsens yw hwnna.


Digon teg. .


Weeeeeel, fydden i'n cwestiynnu pwynt dysgu gair i rywun pan nad wyt ti'n defnyddio fe dy hun... ffrij yw e i fi a ffrij fydd e... pe bawn i'n ddysgwr fydden i eisiau gwbod be ma pobl yn 'i ddweud yn hytrach na be sy'n cuddio ym mherfeddion geiriadur y brifysgol...

sai'n meddwl bo fi erioed di clywed rhywun yn gweud oergell mewn sgwrs arferol...
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Ydych chi'n yawno wrth jogio?

Postiogan sian » Gwe 12 Rhag 2008 12:03 pm

Ie, dyna'r pwynt - dw i'n meddwl bod ti'n bod yn annheg â dysgwyr os wyt ti'n dweud "cauliflower = blodfresych", "apricots = bricyll", "sausage" = "selsig", "chips" = "sglodion", "watch" = "oriawr" heb esbonio nad wyt ti byth yn mynd i'w clywed nhw dros glawdd yr ardd neu yn y dafarn.
Es i i ddŵr twym mewn fforwm arall wrth dreio dweud hyn - sy'n swnio'n hollol resymol i mi!
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Ydych chi'n yawno wrth jogio?

Postiogan Ray Diota » Gwe 12 Rhag 2008 1:02 pm

sian a ddywedodd:Ie, dyna'r pwynt - dw i'n meddwl bod ti'n bod yn annheg â dysgwyr os wyt ti'n dweud "cauliflower = blodfresych", "apricots = bricyll", "sausage" = "selsig", "chips" = "sglodion", "watch" = "oriawr" heb esbonio nad wyt ti byth yn mynd i'w clywed nhw dros glawdd yr ardd neu yn y dafarn.
Es i i ddŵr twym mewn fforwm arall wrth dreio dweud hyn - sy'n swnio'n hollol resymol i mi!


y broblem yw bod gair sy'n 'anarferol' i un person yn hollol arferol i rywun arall...

fydden i ddim yn rhoi selsig, sglodion a oriawr yn yr un cynghrair o anarferoldeb (!) a blodresych, er enghraifft... dwi'n synnu gweld 'telefishon' yn cael ei grybwyll fan hyn achos fydden i byth yn gweud dim byd ond 'teledu'...

yn y coleg fan hyn dwi'n dysgu'r geiriau cymraeg i bawb ac yn rhoi'r fersiynau eraill 'fyd... dyw e ddim yn hir nes iddyn nhw ddechrau deall pa air sy'n ffitio orau... ond wedyn ma 'da nhw brofiad tebyg 'da Llydaweg/Ffrangeg i'w helpu nhw sbo...
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Ydych chi'n yawno wrth jogio?

Postiogan sian » Gwe 12 Rhag 2008 1:42 pm

Ray Diota a ddywedodd:yn y coleg fan hyn dwi'n dysgu'r geiriau cymraeg i bawb ac yn rhoi'r fersiynau eraill 'fyd... dyw e ddim yn hir nes iddyn nhw ddechrau deall pa air sy'n ffitio orau... ond wedyn ma 'da nhw brofiad tebyg 'da Llydaweg/Ffrangeg i'w helpu nhw sbo...


A DYNA be ti'n neud. 8) Lle wyt ti? Roazhon?
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Nesaf

Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 12 gwestai