Tudalen 1 o 2

Tafodiaith Caerdydd

PostioPostiwyd: Llun 17 Tach 2008 6:43 pm
gan ElinorSian82
Hia pobl annwyl maes e. Dwi'n neud traethawd hir (diflas i no!!) ar dafadiaith caerdydd ac eisiau barn pobl arno. Hefyd os mae yna bobl sydd yn adnabod tafodiaith caerdydd neu sydd wedi magu yn caerdydd allwch chi rhoi geiriau neu brawddegau penodol i fi plis. Odi hwn yn neud sens?! cal bach o stress mas.

Diolch xxx

Re: Tafodiaith Caerdydd

PostioPostiwyd: Maw 18 Tach 2008 9:37 am
gan Rhodri Nwdls
...dafadiaith...

Meeee

;-)

Re: Tafodiaith Caerdydd

PostioPostiwyd: Maw 18 Tach 2008 9:43 am
gan Mr Gasyth
Cymraeg, Saesneg, neu'r ddau?

Re: Tafodiaith Caerdydd

PostioPostiwyd: Maw 18 Tach 2008 12:32 pm
gan ElinorSian82
bysa dafadiaeth llawer gwell basa?! tafodiaith oeddwn in ei feddwl!! wps. :rolio:

Tafodiaith cymraeg yn bennaf ond mae wenglish sef y ffor o siarad saesneg yn rhywbeth i son amdano hefyd. xx

Re: Tafodiaith Caerdydd

PostioPostiwyd: Mer 19 Tach 2008 9:35 pm
gan Ray Diota
ElinorSian82 a ddywedodd:bysa dafadiaeth llawer gwell basa?!


wel, i ddechre efo (idiom saesneg i chi - joio): ti o G'dydd a ti'n gweud "basa?" - be sy mlan fynna, gwed? ffacin pantycelyn yn neud gogs o bawb... :winc:

Re: Tafodiaith Caerdydd

PostioPostiwyd: Mer 19 Tach 2008 10:16 pm
gan ElinorSian82
Ray Diota a ddywedodd:
ElinorSian82 a ddywedodd:bysa dafadiaeth llawer gwell basa?!


wel, i ddechre efo (idiom saesneg i chi - joio): ti o G'dydd a ti'n gweud "basa?" - be sy mlan fynna, gwed? ffacin pantycelyn yn neud gogs o bawb... :winc:


beth?! dwi so ddim yn deall y cwot busnes ma. Soi yn blydi pantycelyn!! dwi jst yn myngrel de! fi'n mel on in siarad da gog pan sgwenes i hwn!! x

Re: Tafodiaith Caerdydd

PostioPostiwyd: Iau 20 Tach 2008 5:02 pm
gan Dwlwen
Ti 'di cael pip ar wefan Iaith a thafodiaith y BBC? Clic
Sôn yn gyffredinol am y De Ddwyrain yn hytrach na Chaerdydd yn benodol, ond me'n cynnwys cyfweliad gyda rhywun o'r enw Fabio Lewis - sef yr enw gorau i fi glywed ...heddi. (Ma 'na
wefan arall ar y bîb am Gaerdydd 'i hun, ond dyw hwnna ddim yn sôn am iaith.)

Be am gyfweld Heather Jones neu rhywun fel 'na? Ma'i hacen hi'n lyyyfli :)

Re: Tafodiaith Caerdydd

PostioPostiwyd: Iau 20 Tach 2008 5:20 pm
gan Mr Gasyth
Owen John Thomas (y cyn AC) hefyd yn Cardiffian cynhenid efo acen wych, ac yn hanesydd lleol hefyd. Werth cysylltu ag o?

Re: Tafodiaith Caerdydd

PostioPostiwyd: Sul 23 Tach 2008 3:06 pm
gan ElinorSian82
diolch yn fawr iawn Dwlwen a Mr Gasyth (bet dwi d cal enwe chi'n rong!!) ma hyna'n syniad rili da a dwi am gysylltu fo nhw heddiw :) diolch shwt gwment. xx

Re: Tafodiaith Caerdydd

PostioPostiwyd: Gwe 08 Gor 2011 4:45 pm
gan blanced_oren
Sut aeth hwn yn y diwedd? Hoffwn i weld y traethawd!