wrach,ella,falle...

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: wrach,ella,falle...

Postiogan sian » Maw 25 Tach 2008 8:33 am

Kez a ddywedodd:Walla ne' falla yn y de-ddwyrain, ac wi'n siwr bod walle/falle yn digwydd tsha'r gorllewin.


"Falle" sen i'n weud ond fi'n cofio pobl hŷn yn gweud "walle".
Ychydig iawn, iawn o eiriau Cymraeg naturiol sy'n dachre â "f".
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: wrach,ella,falle...

Postiogan ElinorSian82 » Maw 25 Tach 2008 10:25 am

falle sen in ei ddweud yn naturiol neu weithe walle dibynnu r y mwwwwd!! x
ElinorSian82
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 54
Ymunwyd: Maw 04 Hyd 2005 9:45 am

Re: wrach,ella,falle...

Postiogan Kez » Maw 25 Tach 2008 10:40 am

sian a ddywedodd: Ychydig iawn, iawn o eiriau Cymraeg naturiol sy'n dachre â "f".


Ma hynny'n wir am y ffurf gysefin, ond os wyt ti'n treiglo m a b - fe gei di itha tipyn :winc:

Mae troi f > w yn digwydd yng nghorff y gair ac ma'n debyg bod hyn yn amrywio o ardal i ardal: byswn i byth yn gweud sgwennu yn lle ysgrifennu neu ryw air fel cwarfod (cyfarfod) ac wi'm yn meddwl bod y gogleddwr yn gweud ewn (eofn) neu pythewnos (pythefnos), ac a'r wn i dim ond pobl Sir Benfro sy'n gweud cewn (cefn).
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: wrach,ella,falle...

Postiogan huwwaters » Maw 25 Tach 2008 1:26 pm

Wrach i fi.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Re: wrach,ella,falle...

Postiogan Duw » Maw 25 Tach 2008 4:47 pm

Duw a ddywedodd:Falle: Dyffryn Aman/Cwmtawe - rhan fwyaf o'r de/canolbarth dwi'n meddwl


Cwmpo ar fy mai. Wylle'n cal ei iwso ifid.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: wrach,ella,falle...

Postiogan Ray Diota » Maw 25 Tach 2008 5:04 pm

sian a ddywedodd:
Kez a ddywedodd:Walla ne' falla yn y de-ddwyrain, ac wi'n siwr bod walle/falle yn digwydd tsha'r gorllewin.


"Falle" sen i'n weud ond fi'n cofio pobl hŷn yn gweud "walle".
Ychydig iawn, iawn o eiriau Cymraeg naturiol sy'n dachre â "f".


falle i finne 'fyd... newydd bipo yn y geiriadur a gweld bo ti'n iawn am dy Fs..; dyw hyd'nod falle ddim yn cyfri nagyw?? er, pwy ddiawl sy'n gweud 'efallai', gwedwch??
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: wrach,ella,falle...

Postiogan Wylit, wylit Lywelyn » Maw 25 Tach 2008 5:47 pm

Diolch yn fawr am yr ymatebion hyd yn hyn.
Am ddechrau edefyn "fama, fan hyn..." mewn 'chydig eiliadau.
Rhithffurf defnyddiwr
Wylit, wylit Lywelyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 400
Ymunwyd: Maw 29 Ion 2008 8:49 pm
Lleoliad: Un o bwerdai ein diwylliant

Re: wrach,ella,falle...

Postiogan Mr Gasyth » Maw 25 Tach 2008 8:39 pm

Ray Diota a ddywedodd:
sian a ddywedodd:
Kez a ddywedodd:Walla ne' falla yn y de-ddwyrain, ac wi'n siwr bod walle/falle yn digwydd tsha'r gorllewin.


"Falle" sen i'n weud ond fi'n cofio pobl hŷn yn gweud "walle".
Ychydig iawn, iawn o eiriau Cymraeg naturiol sy'n dachre â "f".


falle i finne 'fyd... newydd bipo yn y geiriadur a gweld bo ti'n iawn am dy Fs..; dyw hyd'nod falle ddim yn cyfri nagyw?? er, pwy ddiawl sy'n gweud 'efallai', gwedwch??


wrach sy'n dod yn naturiol i fi, er mi fyddai'n defnyddio falle ac ella hefyd o dan ddylanwad pobl erill.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: wrach,ella,falle...

Postiogan Kez » Mer 26 Tach 2008 12:18 am

Mr Gasyth a ddywedodd: wrach sy'n dod yn naturiol i fi, er mi fyddai'n defnyddio falle ac ella hefyd o dan ddylanwad pobl erill.


Da ti Mr Gasyth - paid ti a gatal i bobol erill ddylanwadu arnot ti, er byswn i'n awgrymu iti aros gyda falle- am fod y ddou arall yn swno'n hollol ffycin stiwpid a thwp, ond barn fi yw hwnna. 8)

Walla - dyna ffordd neis o'i weud e, ond pawb a'i farn :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: wrach,ella,falle...

Postiogan Gwenci Ddrwg » Mer 26 Tach 2008 6:20 am

er, pwy ddiawl sy'n gweud 'efallai', gwedwch??

LOL. Dwi di bod yn deud "efallai" ers i fi ddechrau dysgu'r ffecin iaith. Snob go iawn yn ymddangosiadol. :lol: Awgrymiad i fy hun: paid a fyw yn y tywyllwch.
Rhybudd: Dysgwr hurt.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwenci Ddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 354
Ymunwyd: Mer 12 Medi 2007 5:13 pm
Lleoliad: Toronto

Nesaf

Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Google [Bot] a 18 gwestai