wrach,ella,falle...

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: wrach,ella,falle...

Postiogan Duw » Mer 26 Tach 2008 12:13 pm

Sori bois/merched beth affach yw wrach?? O hwyrach? Sawl un o chi'n dweud eich bod yn ei ddweud, ond erioed wedi clywed hwn - ydych chi'n ei ddweud e fel wrach (gwrach) neu wwwrach neu wraaaach neu rhywbeth arall :? ?
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: wrach,ella,falle...

Postiogan Mr Gasyth » Mer 26 Tach 2008 1:34 pm

Duw a ddywedodd:Sori bois/merched beth affach yw wrach?? O hwyrach? Sawl un o chi'n dweud eich bod yn ei ddweud, ond erioed wedi clywed hwn - ydych chi'n ei ddweud e fel wrach (gwrach) neu wwwrach neu wraaaach neu rhywbeth arall :? ?


Dwi'n cymryd mai o 'hwyrach' mae o'n dod, er alla i ddim gweld eb fase'r cysylltiad efo ystyr arall y gair hwnnw o 'later'.

Mae'n cael ei ynganu 'w-rach' efo'r acen ar yr 'w'.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: wrach,ella,falle...

Postiogan sian » Mer 26 Tach 2008 2:33 pm

Duw a ddywedodd:Sori bois/merched beth affach yw wrach?? O hwyrach? Sawl un o chi'n dweud eich bod yn ei ddweud, ond erioed wedi clywed hwn - ydych chi'n ei ddweud e fel wrach (gwrach) neu wwwrach neu wraaaach neu rhywbeth arall :? ?


Wel, yn ôl GPC, yn ogystal â "diweddar", mae "hwyr" yn gallu golygu pethau fel "araf, hir, oediog, cyndyn, anodd, annhebygol, prin, o'r braidd". Yna, am ryw reswm, roedd "nid hwyrach" yn golygu "perhaps, perchance, possibly" ond ry'n ni wedi colli'r "nid" ac yn dweud rhywbeth fel "ŵrach".
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: wrach,ella,falle...

Postiogan Duw » Mer 26 Tach 2008 2:53 pm

Diolch chi'ch dau, mae'n gliriach nawr - er, dal yn meddwl bod e'n air od.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: wrach,ella,falle...

Postiogan Mr Gasyth » Mer 26 Tach 2008 3:38 pm

Duw a ddywedodd:Diolch chi'ch dau, mae'n gliriach nawr - er, dal yn meddwl bod e'n air od.


synny'n fawr nad wyt ti erioed wedi ei glywed o'r blaen de.

Dwi'n cofio cael fy nrysu yn llwyr mewn rhyw Eisteddfod pan yn llai o weld mwg Radio Cymru ac arni'r geiriau 'Hwyrach, Bob Nos Fawrth' a methu deall be fyddai o bosib, efallai, yn digwydd bob nos Fawrth. Dim ond yn ddiweddarach nes i sylwi mai enw ar raglen cyffelyb i'r C2 sydd ganddon ni heddiw oedd Hwyrach, a fod ei henw yn deillio o pryd oedd hi 'mlaen!
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: wrach,ella,falle...

Postiogan Ray Diota » Mer 26 Tach 2008 5:34 pm

Wylit, wylit Lywelyn a ddywedodd:Diolch yn fawr am yr ymatebion hyd yn hyn.
Am ddechrau edefyn "fama, fan hyn..." mewn 'chydig eiliadau.


iesu, ti'n sbwylio ni...
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: wrach,ella,falle...

Postiogan Kez » Mer 26 Tach 2008 6:00 pm

Wylit, wylit Lywelyn a ddywedodd:Diolch yn fawr am yr ymatebion hyd yn hyn.
Am ddechrau edefyn "fama, fan hyn..." mewn 'chydig eiliadau.


Hei Wylit - chei di byth lot o amrywiadau gida hwnna ond mae gen i blan - a very cunning plan - pam na nei di ofyn i bobol be man nhw'n ei weud am 'to look' - fe alliff dyn ddishgwl, pipo ne' gewcan ar y milgi yn ei gwan hi off y starting point, ac fi'n siwr bo 'na lot o eiriau erill am 'to look'.
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: wrach,ella,falle...

Postiogan adamjones416 » Mer 26 Tach 2008 11:25 pm

Wi o ddyffryn Aman 'fyd a sen i'n gweud Falle, Fylle neu Walle a Wylle.

Dwi'n dod o ddyfryn Aman hefyd a baswn i'n dweud falle, fylle, walle, wylle. Unrhyw un o rheiny ond gan amla fel hyn y mai

Dyn yn gofyn - Ti'n dod mas am beint fory de?
Ateb - Wylle ma'n debynnu ar sut wi'n twmlo

Dyn yn gofyn - Jiawl bach ma ishe cernod ar hwna unweth ac am byth t'mod.
ateb - Walle ond sai'n credu neu'th e ddysgu'i wers e fyd cofia.

Dyn yn Gofyn - Odi'r ferch na mynna'n ware gyda'i wallt?
Ateb - Falle , falle dim sdim clem 'da fi sai'n dishgwl arni

Dyn yn Gofyn - Ei ti'n credu cewn ni ira sia'r wicênd ma? Ma nhw'n gweud bod hi'n oeri ne rhwbeth?
Ateb - Fylle ond sdim fawr o ddal 'da fi i fynd mas yn yr ira wi llawn annwd .

(Hoffi'r tadofiaith) Gobeithio bod chi gyd yn deall.
Citsh yn y goc yw pegi, wp hi mewn yn stêdi, tynn hi fas ar ôl gal flas a walle gei di fabi
adamjones416
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 42
Ymunwyd: Sul 03 Medi 2006 3:30 pm
Lleoliad: Glanaman

NôlNesaf

Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Google [Bot] a 7 gwestai

cron