fama, fan hyn, fan yma,yma...

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

fama, fan hyn, fan yma,yma...

Postiogan Wylit, wylit Lywelyn » Maw 25 Tach 2008 5:53 pm

Fama y bydda i yn ei ddweud ar lafar mewn sgwrs naturiol.
Cofiaf siarad hefo dyn o Bort (Porthmadog) unwaith: defnyddiodd fan hyn yn gwbl naturiol.
Pa un y byddwch chi yn ei ddefnyddio? A ellir ychwanegu at y dewis?
Rhithffurf defnyddiwr
Wylit, wylit Lywelyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 400
Ymunwyd: Maw 29 Ion 2008 8:49 pm
Lleoliad: Un o bwerdai ein diwylliant

Re: fama, fan hyn, fan yma,yma...

Postiogan Kez » Maw 25 Tach 2008 7:28 pm

Fan 'yn fel arfer ond weithiau bydda i'n gweud y fangre hon am bo fi shwt gerdyn :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: fama, fan hyn, fan yma,yma...

Postiogan Duw » Maw 25 Tach 2008 11:04 pm

Fan'yn ifid. Swnio fel fyn'yn yn ardal Dyffryn Aman/Cwmtawe.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: fama, fan hyn, fan yma,yma...

Postiogan Wylit, wylit Lywelyn » Iau 27 Tach 2008 6:06 pm

Kez a ddywedodd:Fan 'yn fel arfer ond weithiau bydda i'n gweud y fangre hon am bo fi shwt gerdyn :rolio:

Mmm.. ella bysa "Dim smocio yn fama" yn Gymraeg mwy addas ar bosteri yn Arfon??
Cymraeg cyhoeddus/swyddogol sy'n dathlu tafodiaith, y ffactor lleol a.y.y.b. Fe wn fod pobl yn trafeilio llawer iawn mwy y dwthwn hwn a bod y syniad o ynysoedd cryf tafodieithol yn gwanhau, ond pam lai?!
Wrach/falle/ella nad oes yna ddigon o dafodbrogarwch yn ein papurau bro?! Dwmbo...
Arhosais hefo teulu yn y De unwaith yn ystod wythnos Steddfod yr Urdd. Gofynodd y fam wrtha i:
Chi ishe mynd am wac?
Dywedais "na" gan nad oeddwn yn deall. Ella ei bod hi wedi meddwl fy mod yn anghwrtais :crio:
Yn lle "Gorsaf Heddlu" yng Nghaernarfon dylid ei newid i "Lle Slobs" :D
Rhithffurf defnyddiwr
Wylit, wylit Lywelyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 400
Ymunwyd: Maw 29 Ion 2008 8:49 pm
Lleoliad: Un o bwerdai ein diwylliant

Re: fama, fan hyn, fan yma,yma...

Postiogan Kez » Gwe 28 Tach 2008 8:32 am

Wylit, wylit Lywelyn a ddywedodd:

Wrach/falle/ella nad oes yna ddigon o dafodbrogarwch yn ein papurau bro?! Dwmbo...
Arhosais hefo teulu yn y De unwaith yn ystod wythnos Steddfod yr Urdd. Gofynodd y fam wrtha i:
Chi ishe mynd am wac?
Dywedais "na" gan nad oeddwn yn deall. Ella ei bod hi wedi meddwl fy mod yn anghwrtais :crio:
Yn lle "Gorsaf Heddlu" yng Nghaernarfon dylid ei newid i "Lle Slobs" :D


Arhosais gyda theulu yn Waunfawr unwaith yn ystod Ffair y Borth. Wedodd y fenyw 'ma wrtho i:
Dwmbo...

Meddyliais i - o ffyc, mae hon wedi bod ar y myshrwms 'to ac yn gweld rhagor o eliffantod clustia mawr yn hofran uwchben y Mynydd Mawr.
Wetas i 'cer i orwadd lawr am bach' am bo fi wedi camddeall. Walla bod hi'n meddwl bo fi'n anghwrtais :(

Yn lle 'Porthaethwy' ar arwyddion ffyrdd, dylid eu newid nhw i 'shithole' :lol:

Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: fama, fan hyn, fan yma,yma...

Postiogan Wylit, wylit Lywelyn » Llun 08 Rhag 2008 6:34 pm

Kez a ddywedodd:Yn lle 'Porthaethwy' ar arwyddion ffyrdd, dylid eu newid nhw i 'shithole' :lol:

Iawn Battersea snob.
Rhithffurf defnyddiwr
Wylit, wylit Lywelyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 400
Ymunwyd: Maw 29 Ion 2008 8:49 pm
Lleoliad: Un o bwerdai ein diwylliant

Re: fama, fan hyn, fan yma,yma...

Postiogan Kez » Llun 08 Rhag 2008 10:26 pm

Wylit, wylit Lywelyn a ddywedodd:
Kez a ddywedodd:Yn lle 'Porthaethwy' ar arwyddion ffyrdd, dylid eu newid nhw i 'shithole' :lol:

Iawn Battersea snob.


Delwedd

Steady on, old chap - it was only a suggestion! :ffeit:
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea


Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 40 gwestai